Skip to Main Content

Os hoffech fwy o wybodaeth ar wneud hawliad cysylltwch â’n tîm hawliadau newydd ar 0800 028 2569 (Rhadffôn) neu 0300 456 3559 (am ddim o ffonau symudol). Gallant hefyd roi syniad p’un ai a allech gymhwyso am un o’r budd-daliadau hyn. Os na allwch wneud hawliad ar-lein, gallwn drefnu cwblhau hawliad drwy gyfweliad personol yn un o’n Hybiau Cymunedol, Siopau Un Stop neu yn eich cartref eich hunan.

Yn lle hynny gallech hefyd wneud hawliad ar-lein am Fudd-dal Tai a Gostyngiad y Dreth Gyngor. Defnyddiwch ein Cyfrifydd Budd-daliadau ar ein gwefan i wneud cais.

Mae ein gwefan hefyd yn cynnwys mwy o wybodaeth ddefnyddiol ar y cynllun Budd-dal Tai a Gostyngiad y Dreth Gyngor a’r broses hawlio.

Noder os gwelwch yn dda – Caiff Gwasanaeth Budd-daliadau Sir Fynwy ei ddarparu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.