Skip to Main Content

Yn Sir Fynwy rydym yn credu fod pob plentyn a pherson ifanc yn haeddu addysg sy’n diwallu eu hanghenion unigol ac sy’n helpu i gyflawni eu potensial llawn. Rydym yn ymroddedig i addysg gynhwysol, ansawdd uchel ar gyfer pawb – yn arbennig y rhai sydd â rhwystrau i ddysgu neu Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

Mae ein polisi ADY yn amlinellu sut ydym yn cefnogi dysgwyr gydag ADY, gan sicrhau fod ganddynt yr adnoddau, cyfleoedd a chymorth cywir i ffynnu yn academaidd, yn gymdeithasol ac yn emosiynol.

Beth yw Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)?

Dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg 2018, mae gan blentyn neu berson ifanc ADY os oes yw’n cael yn sylweddol fwy o anhawster yn dysgu na’r mwyafrif sydd angen Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol.

Gall hyn gynnwys:

  • Anableddau dysgu
  • Anghenion niwroddatblygiadol
  • Amhariad ar y synhwyrau
  • Anghenion cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl

Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol yw darpariaeth addysgol sy’n ychwanegol at ac yn wahanol i yr hyn a roddir yn gyffredinol ar gyfer eraill o’r un oedran.

Mae’n bwysig nodi nad yw cynnydd araf neu gyrhaeddiad isel yn golygu nad oes gan ddysgwr ADY, ac yn yr un modd, nid yw cyrhaeddiad priodol o ran oedran yn golygu nad oes ADY.

Ein Dull Gweithredu: Ymateb Graddedig

Mae ysgolion Sir Fynwy yn dilyn Ymateb Graddedig i ddiwallu anghenion dysgwyr:

1. Darpariaeth Gyffredinol

Cymorth sydd ar gael i bob dysgwr, yn cynnwys addysgu a dysgu wedi ei addasu.

2. Cyffredinol a Mwy

Ar gyfer dysgwyr sydd angen addasiadau rhesymol:

  • Addasiadau yn yr ystafell ddosbarth
  • Proffil Un Dudalen yn amlinellu eu hanghenion a sut y gellir eu cefnogi

3. Darpariaeth wedi’i Dargedu

Ar gyfer dysgwyr sydd angen ymyriadau penodol:

  • Proffil Un Dudalen yn amlinellu eu hanghenion a’r cymorth wedi ei dargedu sydd yn ei le
  • Monitro cynnydd dros gyfnod

4. Darpariaeth Benodol

Ar gyfer dysgwyr sydd angen Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol:

  • Cynllun Datblygu Unigol, a gaiff ei gadw gan yr ysgol neu’r awdurdod lleol
  • Adolygu a monitro rheolaidd

Cydweithio ar gyfer Cynhwysiant

Rydym yn gweithio’n agos gydag ysgolion, teuluoedd, gweithwyr iechyd proffesiynol a phartneriaid eraill i feithrin diwylliant o gynhwysiant. Mae diwallu anghenion dysgwyr gyda ADY yn rhan o welliant ysgol gyfan ac o fudd i bob dysgwr.

Dysgu mwy yn ein Strategaeth Cynhwysiant.

Yn ein gwaith gyda Chydlynwyr ADY o’n hysgolion, rydym wedi datblygu pyramidiau darpariaeth templed ar gyfer meysydd angen. Gallant edrych ychydig yn wahanol ym mhob ysgol; mae’r ddolen isod yn rhoi trosolwg o’r cymorth sydd ar gael yn gyffredinol fel rhan o ymateb graddedig drwy ysgolion a gweithwyr proffesiynol eraill.

Pyramid Darpariaeth – Templedi Meysydd Angen.pptx

 

Ble i Fynd am Gymorth – Rôl Cydlynydd ADY Ysgol

Pwy sy’n gyfrifol?

Pan ddaw i ddynodi os oes oes gan blentyn neu berson ifanc Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ac os yw angen Cynllun Datblygu Unigol, ysgolion a gynhelir sy’n gyfrifol am:

  • Plant mewn dosbarthiadau meithrin mewn ysgolion a gynhelir
  • Pobl ifanc mewn darpariaeth ysgol-16 mewn ysgolion a gynhelir

Yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am:  

  • Plant sydd wedi cofrestru gyda dau ddarparydd (cofrestriad deuol)
  • Plant mewn lleoliad blynyddoedd cynnar nas cynhelir
  • Plant y mae’r awdurdod lleol yn gofalu amdanynt

Pwy all ofyn am gymorth?

Gall plentyn/person ifanc, rhiant, aelod o’r teulu neu weithiwr proffesiynol ofyn i’r ysgol asesu am ADY. Cydlynydd ADY ysgol sy’n cydlynu’r broses yma. Mae angen caniatâd y rhiant neu berson ifanc cyn i’r broses ddechrau.

Pa mor hir y mae’n ei gymryd?

Mae gan ysgolion 35 diwrnod i gwblhau eu hasesiad Cynllun Datblygu Unigol

Mae gan awdurdodau lleol 12 wythnos i gwblhau eu hasesiad Cynllun Datblygu Unigol.

Cynlluniau Datblygu Unigol

Pryd y caiff Cynllun Datblygu Unigol ei gyhoeddi?

Caiff Cynllun Datblygu Unigol ei greu pan nad yw plentyn yn gwneud y cynnydd a ddisgwylir ar gyfer eu hoedran, er y cymorth sydd ar gael drwy ymateb graddedig, ac mae angen Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol.

Beth mae Cynllun Datblygu Unigol yn ei wneud?

  • Disgrifio ADY plentyn/person ifanc
  • Amlinellu’r cymorth sydd ei angen a’r deilliannau a ddymunir
  • Gosod y camau gweithredu a gaiff eu cymryd
  • Rhoi cofnod ar gyfer monitro cynnydd

Cynllun Datblygu Unigol a gynhelir gan Ysgol neu Gynllun Datblygu Unigol a gynhelir gan yr Awdurdod Lleol

Mae’r un statws cyfreithiol gan Gynlluniau Datblygu Unigol a gynhelir gan ysgolion â Chynlluniau Datblygu Unigol a gynhelir gan Awdurdod Lleol.

Mae Cynlluniau Datblygu Unigol a gynhelir gan ysgolion yn arferol ar gyfer dysgwyr mewn ysgolion prif ffrwd a cholegau.

Mae Cynlluniau Datblygu Unigol a gynhelir gan awdurdod lleol ar gyfer dysgwyr sydd:

  • Mewn lleoliadau arbenigol
  • Mewn meithrinfeydd nes cynhelir
  • Yn blant sy’n derbyn gofal
  • Â chofrestriad deuol

Gall ysgolion ofyn i’r awdurdod lleol ddod yn gyfrifol am Gynllun Datblygu Unigol os:

  • Yw’r Cynllun Datblygu Unigol sydd ei angen tu hwnt i’r hyn y gall yr ysgol ei ddarparu
  • Na all yr ysgol benderfynu ar natur neu faint yr Anghenion Dysgu Ychwanegol neu Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol

➡️ Gweler Cod ADY adran 12.39 i gael mwy o wybodaeth

Cliciwch y ddolen hon i gael mwy o wybodaeth: Dogfen Egwyddorion Cyngor Sir Fynwy 2022 terfynol.pdf

I gael mwy o wybodaeth ar Gynlluniau Datblygu Unigol, cliciwch y ddolen hon: Cynlluniau Datblygu Unigol – Snap Cymru

Ymarfer sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn

Beth yw Ymarfer sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn?

Mae cyfarfodydd cynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn ffocysu ar anghenion y plentyn drwy ei gynnwys ef neu hi, y teulu, staff ysgol a gweithwyr proffesiynol. Mae’r cyfarfodydd hyn yn ymchwilio:

  • Beth sy’n bwysig i’r plentyn a’r teulu
  • Pa gymorth sydd ei angen
  • Beth sy’n gweithio a nad yw yn gweithio
  • Gobeithion ar gyfer y dyfodol

Mae’r wybodaeth hon yn helpu i greu proffil un-dudalen i lywio cymorth.

Adolygiadau sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn: Beth i’w Ddisgwyl

Pwy fydd yn y cyfarfod?

Gall y plentyn ddewis pwy hoffai iddynt fod yn bresennol. Mae’n rhaid i rai pobl fod yno, tebyg i staff ysgol a gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â’u gofal. Gall hyn gynnwys:

  • Gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol
  • Staff addysgol
  • Teulu a chyfeillion

Pryd a Ble?

  • Fel arfer caiff adolygiadau eu cynnal yn yr ysgol
  • Trefnir dyddiad ac amser sy’n gyfleus ar eich cyfer chi a’ch plentyn
  • Bydd o leiaf un adolygiad bob blwyddyn

Cyn y Cyfarfod

Defnyddiwch ffurflen Atodiad 2 i:

  • Feddwl beth ydych chi a’ch plentyn eisiau ei ddweud
  • Ysgrifennu pwyntiau allweddol i’w cofio
  • Rhoi eich sylwadau ymlaen llaw

Dychwelwch y ffurflen i’r ysgol i sicrhau y caiff eich llais ei glywed.

Y Cynllun Gweithredu: Beth sy’n Digwydd Nesaf

Mae’r Cynllun Gweithredu yn grynodeb clir o’r hyn a gytunwyd yn ystod yr adolygiad canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae’n sicrhau fod pawb yn gwybod sut i gefnogi eich plentyn i ddysgu, tyfu a chyflawni ei nodau.

Bydd y Cynllun Gweithredu yn cynnwys:

  • Pa gymorth mae eich plentyn ei angen
  • Pwy sy’n gyfrifol am roi’r cymorth (person a enwir)
  • Pryd a ble y bydd y cymorth yn digwydd
  • Sut y caiff cynnydd eu fesur

Ar ôl y cyfarfod, byddwch yn derbyn copi o’r Cynllun Gweithredu i’w adolygu a’i drafod gyda’ch plentyn.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch yma: ymarfer-sy’n-canolbwyntio-ar-yr-unigolyn-canllawiau-ar-gyfer-blynyddoedd-cynnar-ysgolion-a-cholegau-yng-nghymru.pdf

Pontio

Beth yw pontio?

Mae pontio yn cyfeirio at blentyn yn symud rhwng lleoliadau tebyg i ysgol Gynradd i ysgol Uwchradd.

Beth yw pontio manylach?

Mae pontio manylach yn rhoi cymorth ychwanegol a gall gynnwys:

  • Cyfarfodydd cynllunio mynediad
  • Ymgyfraniad Seicolegydd Addysgol
  • Cymorth gan Athro/Athrawes Arweiniol Canolfan Adnoddau Arbenigol neu’r Tîm Cymorth Addysg
  • Hyfforddiant staff

Defnyddir hyn ar gyfer pontio allweddol tebyg i:

  • Meithrinfa i ysgol – cliciwch yma am fwy o wybodaeth: EPS-Taflen Blynyddoedd Cynnar
  • Cynradd i Uwchradd link to schools & school nurseries
  • Prif ffrwd i Ganolfan Adnoddau Arbenigol (neu’r ffordd arall o amgylch) – lle cytunwyd hyn gan Banel Awdurdod Lleol, caiff pontio manylach ei ddatblygu drwy ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn gydag Athro/Athrawes Arweiniol Canolfan Adnoddau Arbenigol.
  • Pontio ôl-16 link to schools & school nurseries

Gweledigaeth Sir Fynwy ar gyfer Dysgwyr gydag ADY

Llinell Amser Pontio Cynradd i Uwchradd

Blwyddyn 5Tymor y Gwanwyn Cynnal cyfarfod adolygu Cynlluniau Datblygu Unigol yn Nhymor y Gwanwyn gyda ffocws ar bontio i ysgol uwchradd.Gwahodd Cydlynwyr ADY dalgylch prif ffrwd i fynychu’r cyfarfod hwn.Lle mae angen bydd yr ysgol yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Gwasanaeth Seicoleg Addysgol neu weithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio gyda’r plentyn.Yn ystod y cyfarfod gofynnir i rieni roi caniatâd i rannu gwybodaeth i alluogi’r ysgol uwchradd i dderbyn y Cynlluniau Datblygu Unigol a gwaith papur yr adolygiad blynyddol.
Blwyddyn 6Tymor yr Hydref Rhieni yn gwneud ceisiadau am leoedd ysgol uwchradd.Cynnal Adolygiadau Blynyddol Blwyddyn 6. Gwahoddir Cydlynwyr ADY uwchradd. Mae trefniadau am Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol.Cydlynwyr ADY clwstwr yn cwrdd i ddynodi gofynion ar gyfer pontio manylach a dechrau cynllunio’r rhaglen sydd ei hangen.Os oes angen mwy o addasiadau amgylcheddol i’r adeilad uwchradd, caiff atgyfeiriadau priodol eu gwneud.  Tymor y Gwanwyn Cynnal cyfarfodydd pontio manylach ar ôl cynnig lleoedd ysgol (1 Mawrth), mae’r rhain yn dynodi’r angen a’r camau gweithredu sydd eu hangen.Dylai person a enwir yn yr ysgol uwchradd fod yn ddolen ar gyfer unrhyw gwestiynau neu ymholiadau.Lle mae hynny’n briodol ac yn bosibl, mae staff uwchradd ADY yn dechrau ymweld â’r ysgolion cynradd. Tymor yr Haf Pontio manylach yn mynd rhagddo, gydag adborth parhaus a’r wybodaeth ddiweddaraf i rieni.
Blwyddyn 7Tymor yr Hydref Adolygu pontio a dynodi unrhyw anghenion cymorth ychwanegol.

Amserlen Pontio Ôl-16

Blwyddyn  9Cynnal adolygiadau blynyddol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac ystyried pontio Cyfnod Allweddol 4 a symud ymlaen i ôl-16. Caiff hyn ei gofnodi yn Adran 3 y Cynllun Datblygu Unigol.Gyrfa Cymru ar gael i roi arweiniad ar opsiynau addysg ôl-16 a hyfforddiant. Ysgol yn cyflenwi cynnwys cwricwlwm i helpu dysgwyr i ymchwilio llwybrau ar gyfer y dyfodol.
Blwyddyn 10Mae’n debyg y cynhelir adolygiadau blynyddol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn nhymor yr hydref.Gwahodd Gyrfa Cymru a darparwyr coleg lleol.Bydd y person ifanc, rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol perthnasol hefyd yn mynychu.Caiff teuluoedd ei cyfeirio at gyfleoedd tebyg i:Nosweithiau agored mewn colegauFfeiriau gyrfaoedd ac addysg uwchDigwyddiadau eraill i ymchwilio llwybrau ôl-16Bydd yr adolygiad hefyd yn ystyried deilliannau yn gysylltiedig gydag annibyniaeth a phontio, a gofnodwyd yn Adran 2 y Cynllun Datblygu Unigol. Gall hyn cynnwys:Hyfforddiant teithioDatblygu sgiliau bywydBydd ysgolion yn adolygu a gwneud unrhyw atgyfeiriadau neu ail-atgyfeiriadau sydd eu hangen i asiantaethau allanol i gefnogi pontio llyfn.
Blwyddyn11Cynnal adolygiadau blynyddol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn nhymor yr hydref.Elfennau allweddol yr adolygiad:Cynllunio pontio: Trafod yr opsiynau sydd ar gael, prosesau cais a phosibilrwydd cymorth pontio manylach.Ymgyfraniad asiantaethau: Ystyrir atgyfeirio neu ail-atgyfeirio at wasanaethau allanol i gefnogi’r pontio.Annibyniaeth a chydnerthedd: Caiff deilliannau eu hadolygu gyda ffocws ar ddatblygu sgiliau ar gyfer annibyniaeth, tebyg i hyfforddiant teithio (cofnodir yn Adran 2 y Cynllun Datblygu Unigol).Caniatâd: Ceisir caniatâd y plentyn i rannu gwybodaeth allweddol a chadarnhau os ydynt eisiau trosglwyddo eu Cynllun Datblygu Unigol i ddarparydd ôl-16.Ceisiadau am gyllid: Caiff unrhyw argymhellion ar gyfer darpariaeth a gyllidir eu cyflwyno i Banel Cynhwysiant yr Awdurdod Lleol i gael eu hystyried.Tymor y Gwanwyn: Cynnal cyfarfod cynllunio pontio manylach.Tymor yr Haf: Cynnal gweithgareddau pontio manylach gydag adolygiad a chymorth parhaus.
Ôl-16Bydd adolygiadau blynyddol yn parhau yn ystod darpariaeth ôl-16.Mae ffocws yr adolygiadau hyn ar baratoi ar gyfer bywyd fel oedolyn a gallant gynnwys: lleoliadau gwaithaddysg bellach neu hyfforddiantllwybrau i gyflogaethGwahoddir gweithwyr proffesiynol perthnasol i gefnogi cynllunio  sicrhau fod y cyngor a chanllawiau cywir ar gael.Rhoddir ystyriaeth i unrhyw ofynion cymorth ychwanegol neu gyngor pellach sydd ei angen