Skip to Main Content

Dylai marwolaeth gael ei chofrestru o fewn pum diwrnod o’r Dystysgrif Feddygol yn cael ei llofnodi a’i hanfon i’r Swyddfa Gofrestru.

Unwaith y bydd marwolaeth wedi digwydd, bydd y Meddyg Teulu neu’r Meddyg Ysbyty yn anfon hysbysiad at yr Archwiliwr Meddygol, gyda manylion cyswllt ar gyfer perthynas agosaf.  Yna bydd yr Archwiliwr Meddygol yn cysylltu â chi i drafod achos y farwolaeth ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych cyn i’r Dystysgrif Feddygol gael ei pharatoi a’i hanfon atom dros e-bost.  Mewn rhai achosion, bydd yr Archwiliwr Meddygol yn cyfeirio’r farwolaeth at y Crwner ar gyfer craffu ychwanegol a bydd yn trafod hynny gyda chi’n fanwl.

Dylai marwolaeth gael ei chofrestru yn yr ardal lle digwyddodd. Os bu farw’r person yn Sir Fynwy, mae angen i chi drefnu apwyntiad gyda swyddfa gofrestru Sir Fynwy.

Gellir rhoi manylion y farwolaeth mewn swyddfa gofrestru arall drwy wneud datganiad. Yn yr achos hwn, ni ellir cyhoeddi’r dogfennau angenrheidiol ar unwaith ond byddant yn cael eu hanfon atoch yn y post o swyddfa Sir Fynwy pan fydd y datganiad wedi’i dderbyn. Cysylltwch â’n swyddfa os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch.

Mae’n rhaid i chi drefnu apwyntiad i gofrestru marwolaeth. Byddwn yn cwrdd â’n hamseroedd apwyntiad mor agos â phosibl.

Gallwch weld y cofrestrydd yn Swyddfa Gofrestru Brynbuga neu yn Neuadd Nevill, Y Fenni, Hybiau Cymunedol yng Nghas-gwent neu Drefynwy.  Gellir gwneud apwyntiadau drwy ffonio’r swyddfa gofrestru ar y rhif isod:

Y Swyddfa Gofrestru
Cyngor Sir Fynwy
Y Rhadyr
Brynbuga
NP15 1GA
Rhif Ffôn: 01873 735435

Neu drwy e-bostio: registeroffice@monmouthshire.gov.uk

Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i chi gofrestru marwolaeth.  Mae angen i chi gofrestru marwolaeth i gael dogfennau ar gyfer y trefnydd angladdau ac ar gyfer delio ag ystâd yr ymadawedig.

Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i’r bobl ganlynol, yn y drefn hon, gofrestru marwolaeth:

  • perthynas a oedd yn bresennol ar adeg y farwolaeth
  • perthynas
  • partner yr ymadawedig
  • cynrychiolydd personol yr ymadawedig
  • person oedd yn bresennol ar adeg y farwolaeth
  • meddiannydd y fangre lle digwyddodd y farwolaeth, os oedd yn ymwybodol o’r farwolaeth
  • y person sy’n trefnu’r angladd (nid yw hyn yn golygu’r trefnydd angladd)

Rhaid bod tystysgrif feddygol o achos marwolaeth wedi’i chyhoeddi gan yr Archwiliwr Meddygol, cyn y gall y cofrestru ddigwydd.

Cost tystysgrifau marwolaeth yw £12.50 ar ddiwrnod cofrestru. Mae hyn yn aros ar gost o £12.50 ar ôl cofrestru, ar gyfer ein gwasanaeth safonol. Mae gwasanaeth blaenoriaeth (yr un diwrnod) ar gael am £38.50.

Ar ôl i’r farwolaeth gael ei chofrestru, os byddwch yn darganfod camgymeriad yn y cofnod, codir ffi o hyd at £99 i gywiro’r cofnod yn y gofrestr. Cysylltwch â’r Cofrestrydd am gyngor.

When someone has died, the death needs to be registered with the Registrar. Once that’s done, several oPan fydd rhywun wedi marw, mae angen cofrestru’r farwolaeth gyda’r Cofrestrydd.  Ar ôl gwneud hynny, efallai y bydd angen cysylltu â sawl sefydliad arall a rhoi’r un wybodaeth.

Gallwn eich helpu i roi’r wybodaeth i nifer o adrannau eraill y llywodraeth a gwasanaethau cynghorau lleol ar eich cyfer, gan gynnwys:

  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • Asiantaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn, Personél Gwasanaeth a Chyn-filwyr
  • Cyllid a Thollau EF
  • Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau
  • Cynghorau Lleol
  • Budd-daliadau Tai’r Cyngor
  • Y Dreth Gyngor
  • Llyfrgelloedd
  • Bathodynnau Glas Gwasanaethau Oedolion
  • Gwasanaethau Etholiadol
  • Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

Fel arfer, mae angen i chi fod wedi cofrestru’r farwolaeth cyn y gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth.  Mae’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith yn cael ei gynnig yn ystod yr un apwyntiad ond, os yw’n well gennych ddefnyddio’r gwasanaeth ar ryw adeg arall ar ôl cofrestru’r farwolaeth, gallwch wneud hynny dros y ffôn neu ar-lein. Gallwn roi’r manylion hynny i chi ar ôl eich apwyntiad.

I wneud apwyntiad i gofrestru marwolaeth a defnyddio’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith, ffoniwch 01873 735435.  Rydym ar agor o ddydd Llun i ddydd Iau rhwng 9am a 4.30pm a dydd Gwener rhwng 9am a 4.00pm.