
Mae’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd wedi cymeradwyo brechlyn PFIzer BioNTech COVID-19 . Bellach, mae gennym frechlyn COVID-19 diogel ac effeithiol i’w ddefnyddio yng Nghymru.
NEWYDDION DIWEDDARAF
Datganiad Ysgrifenedig: Trefniadau dychwelyd i’r ysgol a’r coleg
Mae’r cyngor i’r rhai sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol, y cynllun ‘gwarchod’ gynt, wedi newid o heddiw ymlaen. Y cyngor nawr yw na ddylai’r rhai yn y grŵp hwn fynd i’r gwaith na’r ysgol y tu allan i’w cartref. Mae’r cyngor yn arbennig o berthnasol i’r rhai sy’n gweithio mewn swydd sydd â chysylltiad rheolaidd neu barhaus â phobl eraill, neu swydd lle mae unigolion, am gyfnodau hir, yn rhannu gweithle sydd heb lawer o awyr iach. Bydd llythyr gan Brif Swyddog Meddygol Cymru yn cael ei anfon i gadarnhau’r cyngor hwn ond bydd yn cymryd peth amser i gyrraedd pobl oherwydd cyfnod y Nadolig. Gellir defnyddio’r llythyr hwn fel tystiolaeth i hawlio tâl salwch statudol.
Gwnaed y penderfyniad hwn ar sail nifer o ffactorau ond y dylanwad diweddaraf oedd y twf sylweddol diweddar yn y cyfraddau heintio, o bosibl yn sgil yr amrywiolyn newydd o’r coronafeirws. Rydym hefyd wedi ystyried y pwysau sydd ar ein gwasanaethau iechyd, gyda niferoedd cynyddol o gleifion mewn ysbytai. Bydd y cyngor hwn yn cael ei adolygu bob tair wythnos, yn unol ag adolygiadau Llywodraeth Cymru o’r lefelau rhybudd ledled Cymru. https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-cyngor-newydd-ir-rhai-syn-eithriadol-o-agored-i-niwed-yn-glinigol-y-cynllun?_ga=&fbclid=IwAR31SDcETcUuGdSNWHVUfmlrH3JqTK0sXAY-YNCJV7JLWpAhoSM1xnOFtiM
O hanner nos ar 19/12/2020, gosodwyd Cymru gyfan o fewn Lefel Rhybudd 4. Am fwy o wybodaeth:https://llyw.cymru/canllaw-lefel-rhybudd-4?_ga=2.179357668.150116871.1608403095-1006427786.1593779723
Beth sy’n rhaid i chi wneud ar lefel rhybudd 4
Ar lefel rhybudd 4, rhaid ichi:
- Gadw at y rheolau cadw pellter cymdeithasol â phobl sydd ddim yn byw gyda chi neu sydd ddim yn eich swigen gefnogaeth.
- Gwisgo gorchudd wyneb (os ydych yn gallu) yn mhob lle cyhoeddus dan do.
- Aros gartre.
- Peidio â ffurfio aelwyd estynedig (mae oedolion sy’n byw ar eu pen eu hunain neu rieni sengl yn cael ymuno ag un aelwyd arall i greu swigen gefnogaeth).
- Peidio â chwrdd dan do â neb ond y bobl rydych chi’n byw gyda nhw neu sy yn eich swigen gefnogaeth.
- Peidio â chwrdd â neb ond eich aelwyd neu’ch swigen gefnogaeth mewn gardd breifat.
- Peidio â chwrdd â neb ond eich aelwyd neu’ch swigen gefnogaeth yn yr awyr agored.
- Gweithio gartre os medrwch.
- Peidio â theithio heb esgus resymol.
- Peidio â theithio dramor heb esgus resymol.
Beth sy’n gallu agor ar lefel rhybudd 4
- Ysgolion, colegau a darparwyr gofal plant (gofal plant anffurfiol – hanfodol yn unig)
- Sefydliadau Addysg Uwch (cymysgedd o ddarlithoedd personol ac ar-lein)
- Addoldai
- Canolfannau cymunedol – oriau agor cyfyngedig (er enghraifft i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol)
- Amlosgfeydd
- Parciau chwarae a pharciau cyhoeddus
- Priodasau ac angladdau (y lleoliad fydd yn pennu nifer y bobl)
Beth sy’n gorfod cau ar lefel rhybudd 4
- Canolfannau digwyddiadau a chynadledda
- Theatrau a neuaddau cyngerdd
- Atyniadau dan do ac awyr agored i ymwelwyr
- Mannau o adloniant
- Derbyniad priodas / Te angladd / gwylnos
- Cyrtiau chwaraeon, cyrsiau golff
- Cyfleusterau hamdden a ffitrwydd
- Atyniadau awyr agored i ymwelwyr
- Llety gwyliau (dim ond os yw’n hanfodol er enghraifft gwaith neu resymau eraill)
- Lletygarwch (heblaw am dêcawê a danfon)
- Gwasanaethau cyswllt agos
- Siopau nad ydyn nhw’n hanfodol (dim ond clicio a chasglu)
- Safleoedd trwyddedig – Têcawê a danfon yn unig rhwng 6am a 10pm
- Llyfrgelloedd ac archifdai (clicio a chasglu yn unig)
- Gweithgareddau wedi’u trefnu – dim ond gwasanaethau cyhoeddus a gwirfoddol
- Clybiau nos a mannau adloniant i oedolion
Y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau
Lleihau’r cyfnod hunan-ynysu a chwarantin ar gyfer y coronafeirws i ddeng niwrnod yng Nghymru
Ynglŷn â’r brechlyn
Cynllun cymorth hunanynysu
Cynllun rheoli’r coronafeirws: lefelau rhybudd yng Nghymru
Archebwch brawf yma https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws-covid-19
Os gofynnir i chi hunan-ynysu, dylech wneud hynny er mwyn atal y feirws rhag lledaenu ymhellach. Cofiwch hunan-ynysu wrth aros am ganlyniadau prawf.
Am wybodaeth a fydd yn ateb llawer o’ch cwestiynau, ewch i
- Cliciwch yma i weld Cyngor diweddaraf Llywodraeth Cymru
- Gwybodaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Olrhain cyswllt: eich cwestiynau
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am y system Profi, Olrhain, Diogelu
Map Achosion Coronafeirws Sir Fynwy
Gwelwch ein Strategaeth Coronafeirws yma: Strategaeth y Coronafeirws
Cliciwch ar y teils isod i ganfod gwybodaeth benodol am y gwasanaethau
Diweddariadau Ysgol

Ailgylchu a Gwastraff

Gwasanaethau Cymdeithasol

Trafnidiaeth a Theithio

Gwybodaeth am Adeiladau Ar Gau ac yn Ailagor
