Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy
Cafodd y Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy ei anelu at ddarpariaeth gofal plant, yn cynnwys cylchoedd meithrin, grwpiau chwarae, meithrinfeydd dydd, clybiau allan o’r ysgol a gwarchodwyr plant ac mae’n cydnabod lleoliadau gofal plant fel cyfranwyr gwerthfawr at iechyd a lles plant.
Mae’r cynllun yn cefnogi a chysylltu gyda nifer o feysydd allweddol o waith yn cynnwys y Cwricwlwm i Cymru, Dechrau’n Deg, Estyn, Arolygiaeth Gofal Cymru, Cynllun Gwên a Gwobr Snac Iach Safon Aur.
Mae amgylchedd gofal plant iach yn hyrwyddo ac yn diogelu iechyd a lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol ei chymuned. Mae hyn yn cynnwys datblygu polisi, cynllunio strategol, hyfforddiant staff ac ystyried yr ethos, yr amgylchedd ffisegol a chydberthynas â’r gymuned.
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch ag
AdeleJones@monmouthshire.gov.uk
neu ymweld â
Meini Prawf Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy
Ysgolion Hybu Iechyd
Mae Cynllun Ysgolion Hybu Iechyd Sir Fynwy yn bartneriaeth rhwng Iechyd ac Addysg, sy’n cydnabod y gellir sicrhau buddion ar y cyd mewn iechyd a chyrhaeddiad plant drwy gydweithio. Mae’r cynllun yn rhan o Gynlluniau Rhwydwaith Cymru o Ysgolion sy’n Hybu Iechyd a Lles a chafodd ei achredu gan Lywodraeth Cymru.
Mae ‘Ysgol Hybu Iechyd’ yn un sy’n cymryd cyfrifoldeb am gynnal a hybu iechyd pawb sy’n ‘dysgu, gweithio, chwarae a byw’ o’i mewn drwy addysgu disgyblion yn ffurfiol am sut i fyw bywyd iach a hefyd drwy alluogi disgyblion a staff i gymryd rheolaeth dros agweddau o amgylchedd yr ysgol sy’n dylanwadu ar eu hiechyd.
Mae’n hyrwyddo, diogelu ac ymwreiddio iechyd a lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol ei chymuned drwy weithredu cadarnhaol.
Gellir cyflawni hyn drwy bolisi, cynllunio strategol a datblygu staff am ei chwricwlwm, ethos, amgylchedd ffisegol a chydberthynas â’r gymuned.
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â:
emmataylor@monmouthshire.gov.uk
neu ymweld â
Cynlluniau Rhwydwaith Cymru o Ysgolion sy’n Hybu Iechyd a Lles – Iechyd Cyhoeddus Cymru
Ysgolion Bro
Mae ysgolion bro yn datblygu partneriaethau gydag ystod o sefydliadau ac yn gwneud gwasanaethau yn hygyrch yn lleol i deuluoedd a’r gymuned ehangach. Defnyddiant eu cyfleusterau ac adnoddau er budd y cymunedau a wasanaethant, gwella bywydau plant, cryfhau teuluoedd a meithrin cymunedau cryfach. Gallai hyn gynnwys agor adeiladau’r ysgol i’w defnyddio gan glybiau a chymdeithasau lleol, agor tir yr ysgol i’w ddefnyddio gan y gymuned ehangach ar benwythnosau neu yn ystod gwyliau, neu wahodd y gymuned leol i’r ysgol i rannu sgiliau neu hyd yn oed fwyd gyda’r plant.
Os hoffech wybod mwy am waith ysgolion bro neu’n teimlo y gallech gyfrannu mewn rhyw ffordd, cysylltwch â
LisaGrant@monmouthshire.gov.uk
neu ymweld ag
Ysgolion Bro [HTML] | LLYW.CYMRU i gael mwy o wybodaeth.
Newyddion Cysylltiedig

The Grub Club
Crëwyd cyfle gwych, The Grub Club, drwy’r fenter Ysgolion Bro i gefnogi pedair ysgol wledig yn Sir Fynwy i ymgysylltu â’u teuluoedd a’u cymunedau lleol.

Digwyddiad maetheg ar gyfer Ysgolion Cynradd Sir Fynwy
I ddathlu Wythnos Bwyta’n Iach, ymunodd cydweithwyr o Gyngor Sir Fynwy yn ddiweddar ag athrawon ymroddedig o ysgolion cynradd Sir Fynwy a phartneriaid o Dîm Addysg Bwyd Ffaith Bywyd Sefydliad Maetheg Prydain i ddysgu mwy am fwyta’n iach mewn ysgolion.

Digwyddiad Ysgolion a Chymunedau Ynghyd
Bydd y digwyddiadau’n arddangos grwpiau cymunedol lleol ac yn darparu gwybodaeth am wasanaethau cymorth i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Byddant hefyd yn darparu fforwm ar gyfer sgyrsiau am yr hyn sy’n bwysig i blant, pobl ifanc a theuluoedd.