Skip to Main Content

Cynghorion Ystafell Ddosbarth ar gyfer Addysgu Myfyrwyr gyda Dyslecsia

Amcangyfrifir fod dyslecsia yn effeithio ar rhwng 4-10% o’r boblogaeth. Mae’n debyg y bydd gennych o leiaf un disgybl yn eich dosbarth gyda thueddiadau dyslecsig. Mae Gwasanaeth Anawsterau Dysgu Penodol (SpLD) Sir Fynwy yn darparu’r llyfryn hwn i awgrymu rhai strategaethau defnyddiol.

Gall plentyn dyslecsig brofi anawsterau gyda llawer o’r dilynol:

  1. darllen
  2. ysgrifennu
  3. sillafu
  4. copïo
  5. cof tymor byr/gwaith
  6. straen golwg
  7. llawysgrifen
  8. rhoi pethau mewn trefn
  9. drysu llythyrau
  10. dysgu dweud faint o’r gloch yw hi/mathemateg meddyliol
  11. sgiliau trefnu
  12. hunan-barch/bod yn flinedig

Ymagweddau Aml-synhwyraidd

Cofio Pethau (Gor-ddysgu)

Defnyddio cynifer o sianeli synhwyraidd ag sydd modd (sain, gweledol, cinesthetig).

Defnyddio lliw a lluniau, symbolau, cartwnau, llafarganu, canu, record.

Dangos cardiau fflach yn erbyn y cloc/addysgu manwl; parau chwarae, snap neu Wordshark/gemau Nessy ar gyfer gor-ddysgu

Defnyddio technegau fel sillafu S.O.S/Fernald/ysgrifennu Enfys i helpu cadarnhau dysgu – DYWEDWCH ENWAU‘R LLYTHRENNAU BOB AMSER WRTH DDYSGU.

Ar gyfer y disgyblion hynny gyda Straen Golwg / Syndrom Irlen / Sensitifrwydd Sgotopig

Defnyddio gorddalenni / ffyn mesur marcio

Defnyddio papur lliw

Newid y lliw cefndir ar gyfrifiadur

Os na chafodd y plentyn ei asesu eisoes, awgrymu eu bod yn mynd i weld Optometrydd cymwys

Gall y Tiwtor Anawsterau Dysgu Penodol roi gwiriad rhagarweiniol

Cynghorion ar gyfer Arddangosiadau/Ysgrifennu ar Fyrddau Gwyn

Mae’n debyg y bydd disgyblion dyslecsig yn ei chael yn anodd iawn copïo o’r bwrdd. Osgowch os oes modd – yn lle hynny rhowch daenlenni i blant eu darllen/amlygu/ eu darlunio/gwneud mapiau meddwl ohonynt.

Os na fedrir eu hosgoi, yna defnyddiwch liwiau sylfaenol a newid y lliwiau mewn trefn fel y gall plentyn wybod lle maent drwy ddefnyddio’r lliwiau.

Defnyddio rhifau yn hytrach na dotiau ar gyfer pwyntiau bwled – mae’n haws dod o hyd i’r lle cywir.

Defnyddio ffont addas ee Comic Sans

Defnyddio teip trwm yn hytrach na italig i bwysleisio

Strategaethau Darllen

Ei wneud yn hwyl

Anelu codi hunan-barch ac ysgogi cariad at ddarllen

Mae’n hanfodol sicrhau geirfa weledol (200 gair HF cyntaf)

Mae cynllun darllen strwythuredig sy’n cynnwys ailadrodd a chyflwyno geiriau newydd yn araf yn bwysig. Mae’r strwythur yn sicrhau y caiff ffoneg eu dysgu mewn trefn briodol. Mae’r ailadrodd yn sicrhau fod plentyn yn datblygu hyder.

Peidio gwneud i blentyn dyslecsig ‘ddarllen yn uchel’ yn y dosbarth. Ystyried amser tawel gydag athro ar gyfer darllen neu roi amser ymlaen llaw i ddarllen deunydd darllen a ddetholwyd ymlaen llaw i’w hymarfer adref.

Bydd darllen mewn parau – brawddeg/paragraff – yn aml yn ysgogi brwdfrydedd.

Bydd gwrando ar dapiau stori yn hybu cyfoethogi gyrfa. Dylai plentyn olrhain.

Torri ffenestri allan neu ddefnyddio ffon fesur gorddalen liw neu ffon fesur Cooler i helpu cadw lle.

Sicrhau bod deunydd darllen o oedran darllen/lefel oed diddordeb addas.

Ystyried llyfrau gyda phrint/papur cyfeillgar i ddyslecsia megis Barrington Stoke gyda’r lefelau wedi eu nodi’n glir

Mae gemau darllen fel SWAP yn rhagorol – adalw hwyliog a chyflym ar eiriau mewn patrymau ffonig

Sgiliau Deall

Sylweddoli oherwydd anhawster disgybl dyslecsig gyda chodio/darllen cyffredinol y gall fod gwahaniaeth rhwng eu dealltwriaeth lafar a’u dealltwriaeth ddarllen.

Sicrhau fod y cwestiynau a’r deunydd darllen yn gymesur â gallu darllen y plentyn.

Gall defnyddio pennau amlygu fod yn ddefnyddiol i ddisgyblion dyslecsig sy’n aml yn cael anawsterau gyda threfn pethau a thracio felly mae amlygu geiriau allweddol/rhannau yn helpu dod o hyd i eiriad perthnasol.

 

Anawsterau Rhoi Pethau mewn Trefn

Arddangos yr wyddor, dyddiau’r wythnos, misoedd y flwyddyn.

Sicrhau fod gan y plentyn sgwâr tablau amser (yn arbennig ar gyfer mathemateg feddyliol neu ddysgu rhannu.

Bob amser defnyddio deunydd cadarn ar gyfer mathemateg.

Technegau Sillafu

Angen dysgu rheolau a phatrymau iaith mewn ffordd strwythuredig a systematig.

Addysgu un patrwm ar y tro (sillafu ar eiriau seiliedig ar strwythur nid pwnc)

Dangos cliwiau gweledol o amgylch yr ystafell ddosbarth i brocio’r cof os oes angen

Mae codi hunan-barch yn hollbwysig – rhowch strategaethau a chliwiau!

Defnyddio cofeiriau ar gyfer geiriau afreolaidd sy’n digwydd yn aml

Rhoi cyfleoedd ymarfer ar bapur gwyn/llythyrau magnetig, pennau ysgrifennu y gellir eu rhwbio allan

Defnyddio techneg amlsynhwyraidd – S.O.S/Fernald

Wrth farcio sicrhau mai dim ond geiriau a gaiff eu hymarfer a amlygir os yn anghywir a dim ond tanlinella’r rhan o’r gair sy’n anghywir

Sicrhau fod plant yn gyfarwydd â defnyddio geiriadur ACE a gwirwyr sillafu a’u bod ar gael iddynt

Mae gor-ddysgu yn hanfodol – defnyddio adnoddau fel WordShark ar gyfer ymarfer bob dydd

Chwarae gemau Defnyddio syniadau gweledol i helpu procio cof

Llawysgrifen

Mae plant dyslecsig yn aml yn cael anhawster gyda llawysgrifen. Wrth ddysgu darllen, mae’n rhaid i blant yn gyntaf gysylltu siâp y gair gyda’i sain. Pan ddaw i ysgrifennu mae’n rhaid iddynt ailgreu’r siâp hwnnw. Gall fod yn anodd iawn i blant dyslecsig ddadgodio’r patrymau hynny a gwneud y cysylltiadau a gallant yn aml fethu datblygu llif awtomatig ysgrifen fydd yn eu helpu i’w mynegi eu hunain yn rhwydd mewn ysgrifen.

Argymhellir fod plentyn yn dysgu’r arddull rhedeg parhaus. Caiff pob llythyren ei ffurfio heb dynnu’r bensel oddi ar y papur – felly caiff pob gair ei ffurfio yn un symudiad sy’n llifo. Mae hyn yn galluogi eu dwylo i ddatblygu ‘cof corfforol’ ohono. Oherwydd bod llythrennau’n llifo o’r chwith i’r dde, mae plant yn llai tebygol o droi llythyrau ar i chwith. Mae gwahaniaeth cliriach rhwng priflythrennau a llythrennau bach. Mae llif parhaus ysgrifennu yn y pen draw yn cynyddu cyflymder a sillafu.

Gellir ymarfer yn defnyddio deunyddiau amlsynhwyraidd – tywod/halen ac yn y blaen.

Defnyddio llyfrau llawysgrifen (medrir prynu rhai lliw gan Crossbow Education) ar gyfer maint llythrennau.

Rhowch strategaethau i helpu gyda drysu rhwng llythrennau b/d ac yn y blaen.

Ysgrifennu

Defnyddio fframiau ysgrifennu/mapiau meddwl gyda nodiadau Stick It i helpu gyda darnau hirach o ysgrifennu.

Rhoi mwy o amser ar gyfer darllen, cynllunio, ailysgrifennu a phrawfddarllen eu gwaith.

Teipio Cyffwrdd

Mae rhai disgyblion gyda dyslecsia ac anawsterau eraill cysylltiedig fel dyspracsia yn canfod y gall yr anawsterau’n gysylltiedig gyda llawysgrifen lesteirio eu gallu i strwythuro ac ysgrifennu darn o waith. Gall llawysgrifen olygu gormod o ganolbwyntio ac ymdrech.

Gall addysgu sgiliau cyffwrdd a galluogi disgyblion i ddefnyddio cyfrifiadur ar gyfer gwaith ysgrifenedig eu galluogi i ganolbwyntio mwy ar gynnwys y darn.

Amrywio ffyrdd o ddangos gwybodaeth a dealltwriaeth (nid yw’n rhaid iddo bob amser fod yn ysgrifenedig

Derbyn atebion llafar

Defnyddio diagramau/lluniau/byrddau stori/mapiau meddwl

Recordio ar gyfer rhywun i’w drawsysgrifio/fideo atebion plentyn ar ipad

Modelu

Drama/cyfweliadau

Prosesu geiriau

Trefnu

Cael rhestr wirio weledol

Defnyddio amserydd

Gwaith cartref – a yw’n glir beth mae eisiau iddynt ei wneud / a oes ganddynt gynllunydd gwaith cartref / a yw’r cartref yn gwybod pryd mae gwaith cartref yn dod ac a yw’n ddealladwy

Addysgu defnydd dyddiadur/cynllunydd

Cod lliw

Dangos cliwiau gweledol

Offer Ystafell Ddosbarth

  • Gwirwyr sillafu/geiriaduron ACE/cyfrifianellau
  • Dangos cliwiau lluniau b/d (drysu llythrennau) ar ffyn mesur/desgiau/waliau
  • Arddangosiadau patrwm sillafu
  • Wordshark/Nessy neu raglenni i sicrhau gor-ddysgu ee Stile Tiles
  • Byrddau gwyn/pennau ysgrifennu y gellir eu rhwbio allan/pennau ysgrifennu magnetig/deunyddiau amlsynhwyraidd
  • Llyfr darllen priodol (lefel oedran/lefel diddordeb/lliw tudalen/geiriad)
  • Gorddalenni lliw
  • Marcwyr darllen/ffon fesur Cooler
  • Er mwyn i fyfyrwyr gael trefniadau ar gyfer arholiadau cyhoeddus, dylid nodi fod angen iddynt fod wedi defnyddio’r trefniadau addysgu/profi hynny ar hyd eu haddysg ysgol

Mae Gwasanaeth SpLD Sir Fynwy yn cyflwyno cyrsiau ar:-

  1. Dynodi plant dyslecsig yn eich ystafell ddosbarth
  2. Strategaethau addysgu ar gyfer myfyrwyr dyslecsig

Rydym hefyd yn hapus i gyflwyno cyrsiau ar raglenni penodol cyfeillgar i ddyslecsia fel Wordshark a Spelling Mastery a hyfforddiant ar bynciau megis deunyddiau asesu.

Rydym wrthi’n datblygu rhaglen hyfforddiant ar gyfer rhieni ar y ffordd orau i helpu eu plentyn i ddarllen.

Mae pawb sy’n cymryd rhan yn ein cyrsiau hyfforddi yn derbyn achrediad a chânt eu cofnodi yn ffeiliau’r sir gan ein bod yn ymdrechu i sicrhau fod pob ysgol yn y sir yn gyfeillgar i ddyslecsia.