Skip to Main Content

Mae Gwasanaeth Addysgu Arbenigol Sir Fynwy (MoSTS) yn dîm o athrawon arbenigol a Chynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch sy’n cydweithio ag ysgolion i helpu disgyblion i oresgyn rhwystrau wrth gaffael sgiliau llythrennedd.

Fel rhan o’u cefnogaeth a’u gwaith gydag ysgolion, mae MoSTS hefyd yn darparu ymyriadau llythrennedd i grwpiau unigol a bach o ddisgyblion. 

Mae ysgolion, fel arfer trwy’r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol, yn gyfrifol am ymgysylltu â MoSTS.

Cydsyniad Gwybodus

Ceisir caniatâd a chydsyniad wedi’i lofnodi bob amser gan rieni/gofalwyr, cyn ymgysylltu â MoSTS.

Gwerthoedd Sir Fynwy

Rydym yn gweithio o fewn Gwerthoedd Allweddol ac Ymddygiad Cyngor Sir Fynwy:

Mae ein diben yn seiliedig ar ymdeimlad clir o bwy ydym ni fel sefydliad.  Rydym yn disgwyl i bobl sy’n gweithio gyda ni rannu set gwerth cryf a disgwyl bod y rhain yn amlwg yn y ffyrdd yr ydym yn gweithio ac yn ymgysylltu â’n cymunedau.



GwaithTîm
Byddwn yn gweithio gyda chi a’n partneriaid i gefnogi ac ysbrydoli pawb i gymryd
rhan.  Byddwn yn gwneud y gorau o’r
syniadau, a’r adnoddau sydd ar gael er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y pethau
sy’n cael effaith fwyaf cadarnhaol ar ein pobl a’n lleoedd.

Bod yn Agored
Rydym yn agored ac yn onest.  Mae pobl yn cael y
cyfle i gymryd rhan a dweud wrthym beth sy’n bwysig.

Hyblygrwydd
Rydym yn hyblyg er mwyn gallu darparu’r gwasanaethau mwyaf effeithiol ac
effeithlon.  Mae hyn yn golygu ymrwymiad
gwirioneddol i weithio gyda phawb i gofleidio ffyrdd newydd o weithio.

Tegwch
Rydym yn darparu cyfleoedd i bobl a chymunedau ffynnu. 
Byddwn bob amser yn ceisio trin pawb yn deg ac yn gyson.

Caredigrwydd
Byddwn yn dangos caredigrwydd i bawb yr ydym yn gweithio gyda nhw, gan roi pwysigrwydd
perthnasoedd a’r cysylltiadau sydd gennym â’n gilydd wrth wraidd pob
rhyngweithio

Cwrdd â’r Tîm

Lynsey Harris

Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel Uwch Rhan Amser

Nicola Owens

Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel Uwch

Brenda Rees

Athrawes Arbenigol Rhan Amser


Gwybodaeth Bellach

Taflen Rhieni/Gofalwyr MoSTS

Gwybodaeth MoSTS ar gyfer Plant a Phobl Ifanc

Gwybodaeth MoSTS i Ysgolion 2023-24

Addysgu Plant a Phobl Ifanc sydd ag Anawsterau Llythrennedd. Canllawiau Ymarfer ar gyfer Ysgolion Cyngor Sir Fynwy.pdf

Adnoddau ar gyfer Staff Ysgol Gwasanaeth Addysgu Arbenigol Sir Fynwy (sharepoint.com)