Skip to Main Content

Rhai Asesiadau y gall Gwasanaeth Anawsterau Dysgu Penodol (SpLD) Sir Fynwu eu defnyddio.

Osyw ysgol yn gofyn i’r Gwasanaeth SpLD i asesu un o’u disgyblion, mae’r profion islaw yn rhai o’r dulliau asesu y gellir eu defnyddio.

Asesiad York o Amgyffred Darllen

Mae’r asesiad hwn yn edrych ar 3 elfen darllen: cywirdeb, cyflymder ac amgyffred. Gall roi gwybodaeth werthfawr am y ffordd y mae plentyn yn darllen.

Prawf Cyflawniad Ystod Eang (WRAT 4)

Mae gan y prawf hwn y cyfleuster i asesu Darllen Geiriau, Amgyffred,Sillafu a Chyfrifiad Mathemateg sylfaenol.

Prawf Diagnostig o Prosesau Darllen Geiriau

Mae’r prawf hwn yn canolbwyntio ar y prosesau gwybyddol sylfaenol sy’n cynorthwyo adnabod a deall geiriau ysgrifenedig.

Y Prawf Deallusrwydd Ystod Eang (WRIT)

Mae’r asesiad hwn yn rhoi mesur o alluoedd gwybyddol sylfaenol person.

Y Batri Aessiad Ffonolegol  (PhAB)

Mae asesiad PhAB yn helpu i edrych ar sgiliau ac ymwybyddiaeth ffonolegol disgybl ac yn dangos meysydd o nerth a gwendid.

Y Prawf Cynhwysfawr o Brosesu Ffonolegol: CTOPP:

Yn asesu ymwybyddiaeth ffonolegol, cof ffonolegol ac enwi cyflym. Gall unigolion gyda diffygion yn un neu fwy o’r mathau hyn o brosesu ffonolegol gael mwy o anhawster yn dysgu darllen.

Graddfa Geirfa Lluniau Prydeinig: BPVS

Aessu geirfa derbyn (clyw) disgyblion 3-16 oed.

Prawf Sillafu Helen Arkell:

Prawf sillafu un gair a ddatblygwyd ar gyfer athrawon a seicolegwyr addysgol i’w ddefnyddio gyda unigolion rhwng 5 oed ac oedolion.