Skip to Main Content

Mae addysg yn y cartref yn derm sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio pan fydd rhieni, gwarcheidwaid a gofalwyr yn dewis addysgu eu plant yn y cartref yn hytrach na’u hanfon i’r ysgol. Yng Nghymru, yn yr un modd â gweddill y DU, er bod addysg yn orfodol, nid yw mynd i’r ysgol yn orfodol.

Nid oes angen caniatâd arnoch gan yr awdurdod lleol i addysgu gartref (oni bai bod eich plentyn wedi’i gofrestru mewn ysgol arbennig). Mae gennych hawl i addysgu eich plentyn gartref ar yr amod eich bod yn bodloni gofynion Adran 7, Deddf Addysg 1996. Mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar rieni pob plentyn o oedran ysgol gorfodol i dderbyn addysg amser llawn, sy’n effeithlon ac yn addas i’w hoedran, a’u gallu, ac yn diwallu unrhyw anghenion addysgol arbennig sydd ganddynt, naill ai trwy fynd i’r ysgol neu fel arall, yn rheolaidd.

Nid ar chwarae bach y mae gwneud penderfyniad i addysgu eich plentyn yn y cartref. Mae’n golygu y bydd angen i chi rhoi o’ch amser a’ch egni, a hynny’n sylweddol. Nid oes cyllid i rieni sy’n dewis addysgu yn y cartref, felly os ydych chi’n dewis addysgu eich plant yn y cartref rhaid i chi fod yn barod i gymryd cyfrifoldeb ariannol llawn, gan gynnwys talu costau unrhyw arholiadau cyhoeddus.

Mae gan Gyngor Sir Fynwy rwymedigaeth statudol i sicrhau bod pob plentyn o oedran ysgol yn yr ALl yn derbyn addysg addas yn yr ysgol neu fel arall, ac nad ydynt yn blentyn sy’n colli addysg (CME).

Os yw plentyn yn mynd i’r ysgol, dylai’r rhiant ysgrifennu at bennaeth yr ysgol i roi gwybod eu bod yn dymuno dadgofrestru’r plentyn o gofrestr yr ysgol.

Pan fydd dysgwr yn dewis cael ei addysg yn y cartref, cynigir cyfarfod cychwynnol gydag aelod o’r tîm Addysg Ddewisol yn y Cartref (EHE) i drafod cynllun addysg ac archwilio unrhyw gyngor neu gymorth sydd ei angen.  Cynhelir cyfarfodydd mewn lleoliadau y cytunir arnynt ar y cyd ac wedi hynny, bydd y Swyddog EHE yn cysylltu â theuluoedd sy’n addysgu yn y cartref, o leiaf unwaith y flwyddyn. Bydd hyn yn rhoi cyfle i gynnig gwybodaeth, cymorth a chyngor, yn ogystal â gwrando ar farn y plentyn a’r teulu ac ymateb iddo.

Mae gan dîm Addysg Ddewisol yn y Cartref Sir Fynwy ddyletswydd i wneud trefniadau i nodi plant o oedran ysgol gorfodol nad ydynt yn derbyn addysg addas. Gofynnir i rieni sy’n addysgu eu plant heblaw yn yr ysgol, gyflwyno gwybodaeth am yr addysg y mae eu plentyn yn ei derbyn. Wrth asesu pa mor effeithlon ac addas yw’r addysg sy’n cael ei darparu drwy addysg yn y cartref, byddwn yn ystyried a yw’r ddarpariaeth addysgol a ddarperir gan y rhieni yn adlewyrchu amrywiaeth o ddulliau a diddordebau. Efallai y bydd rhai rhieni yn dymuno addysgu mewn ffordd ffurfiol a strwythuredig, tra bydd eraill yn penderfynu addysgu mewn ffordd mwy anffurfiol sy’n ymateb i ddiddordebau datblygol y plentyn.

Er mwyn cyflawni’r nod o sicrhau bod pob plentyn o oedran ysgol gorfodol sy’n derbyn addysg yn y cartref, yn cael addysg effeithlon ac addas, rydyn ni’n annog cydweithio a chyfathrebu yn weddol reolaidd.

Eich dewis chi yw pa gyfleoedd dysgu rydych chi’n eu cynnig, a sut mae eich plentyn yn dysgu, ar yr amod bod yr addysg yr ydych yn ei rhoi yn addysg ‘llawn amser, ‘addas’ ac ‘effeithlon’. Nid oes unrhyw rwymedigaeth i ddilyn cwricwlwm neu’r un dulliau ag ysgol, ond gallai hyn fod yn ddefnyddiol i chi fel fframwaith wrth benderfynu pa feysydd dysgu a phrofiad i’w cynnwys a sut i asesu cyflawniad eich plentyn.

Byddai addysg addas yn cynnwys sgiliau rhifedd, llythrennedd ac iaith, sy’n addas i oedran a gallu’r plentyn ac unrhyw ADY sydd gan y plentyn. Nid mater o ddysgu academaidd yn unig yw addysg addas ond dylai hefyd gynnwys cymdeithasu. Mae’r rhain yn sgiliau hanfodol wrth baratoi’r plentyn i fod yn rhan o gymdeithas.

Os yw’n ymddangos i awdurdod lleol Sir Fynwy nad yw plentyn o oedran ysgol gorfodol yn derbyn addysg addas, rhaid inni gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r rhiant sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r rhiant hwnnw ein bodloni bod y plentyn yn derbyn addysg o’r fath, a hynny o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad (sef dim llai na 15 diwrnod o’r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad). Os yw’r rhiant yn methu â bodloni’r awdurdod lleol o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, a bod yr awdurdod lleol o’r farn y byddai’n fuddiol i’r plentyn fynychu’r ysgol,  rhaid i ni gyflwyno gorchymyn mynychu’r ysgol (SAO) i’r rhiant mewn perthynas â’r plentyn hwnnw, yn manylu ar yr ysgol y dylai’r plentyn ei mynychu. 

Yn unol â chynnig cyffredinol Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgwyr sy’n dewis addysg yn y cartref, mae adran Addysg Ddewisol yn y Cartref Cyngor Sir Fynwy yn ganolfan arholi gofrestredig ar gyfer y dysgwyr dan sylw sy’n byw yn y Sir.  Rydym yn cynnig cyfleoedd i bob dysgwr 11 oed sy’n dewis addysg yn y cartref, sefyll arholiadau TGAU a TGAU Rhyngwladol yn ystod cyfnod arholiadau’r haf yn unig.  Rhieni sy’n gyfrifol am gostau sefyll arholiadau.