Skip to Main Content

Nod Cyngor Sir Fynwy yw bod pob plentyn yn y sir yn cael y dechrau gorau mewn bywyd. Mae mynychu’r ysgol yn rheolaidd yn gwella siawns plentyn o gyflawni ei botensial a derbyn addysg llawn amser.

Mae’r gyfraith yn rhoi hawl i bob plentyn o oedran ysgol gorfodol gael addysg effeithlon, llawn amser sy’n addas i’w hoedran, eu gallu, ac unrhyw angen addysgol arbennig sydd ganddynt.

Mae mynd i’r ysgol yn rheolaidd yn cael effaith gadarnhaol ar blant a phobl ifanc ac effaith gref ar ganlyniadau, safonau a dilyniant dysgwyr. Mae presenoldeb rheolaidd yn cefnogi datblygiad sgiliau llythrennedd a rhifedd, a’r ddealltwriaeth gysyniadol sydd ei hangen ar gyfer astudiaethau pellach, a llwyddo yn y gweithle. 

Pennaeth yr Ysgol neu’r Arweinydd Presenoldeb yw’r cysylltiadau allweddol yn y lle cyntaf os oes gostyngiad mewn presenoldeb a gellir cynnal trafodaethau ynghylch y cymorth sydd ar gael i’w wella. Os oes angen cymorth pellach, a bod presenoldeb wedi gostwng islaw’r lefel absenoldeb parhaus, gall yr ysgol atgyfeirio i gael cymorth gan y Gwasanaeth Lles Addysg.  

Cyngor ar bresenoldeb ysgol

Os nad yw rhieni’n rhoi gwybod i’r ysgol ar ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb, bydd pob ysgol yn dilyn eu prosesau Ymateb Diwrnod Cyntaf i fynd ar drywydd disgyblion sy’n absennol.  Gall hyn gynnwys cyswllt dros y ffôn neu wahodd rhieni a’r disgybl i gyfarfod yn yr ysgol.

Mae gan bob ysgol Swyddog Lles Addysg (SLlA) penodol yn Sir Fynwy. Maent mewn cysylltiad â’r ysgol ac yn ymweld yn rheolaidd i gwrdd â’r Pennaeth neu’r aelod o staff dynodedig.

Pan fydd ysgol wedi dilyn ei phrosesau mewnol i’r eithaf cyn atgyfeirio’r achos at y Gwasanaeth Lles Addysg, mae’r ysgol a’r Swyddog Lles Addysg yn cynnal trafodaethau. Bydd unrhyw faterion sy’n rhwystro ymgysylltu, a’r diffyg presenoldeb a allai fod yn effeithio ar bresenoldeb y plentyn yn yr ysgol yn cael eu trafod, a roddir strategaethau ar waith i roi cymorth. Bydd y Swyddog Lles Addysg hefyd yn amlinellu’r ddeddfwriaeth a’r cyfrifoldebau cyfreithiol, a phwysigrwydd presenoldeb rheolaidd.

Mae’r rhieni’n cyflawni trosedd os nad ydynt yn sicrhau bod eu plentyn/plant yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd ac ar amser, hyd yn oed os ydyn nhw i ffwrdd o’r ysgol heb yn wybod i’r rhieni (Triwantiaeth)

Pan fydd yr ysgol a’r Gwasanaeth Lles Addysg wedi rhoi cynnig ar bob cymorth i wella presenoldeb ac mae absenoldebau anawdurdodedig dal i fod, ac nid yw’r presenoldeb wedi gwella, mae’n ddyletswydd ar y Gwasanaeth Lles Addysg i ystyried camau cyfreithiol. Gall rhieni gael eu herlyn yn y Llys Ynadon.

Gall yr Awdurdod Lleol hefyd ofyn am Orchymyn Rhianta, Gorchymyn Mynychu’r Ysgol (SAO) neu Orchymyn Goruchwylio Addysg (ESO) drwy’r llys.

Cefnogi presenoldeb ysgol

Yr hyn y gall rhieni ei ystyried wrth gefnogi presenoldeb eu plentyn yn yr ysgol

Bydd trafodaethau gyda rhieni a’u plentyn yn galluogi’r ysgol i drafod mesurau posibl i gynnig cefnogaeth, a all arwain at wella presenoldeb ac adeiladu ar y berthynas rhwng yr ysgol a’r cartref.

Mae elfennau cefnogol y gellir eu hystyried gartref, er enghraifft:

  • Cyfleu gwerth addysg
  • Cyfleu unrhyw broblemau gyda’r ysgol
  • Adeiladu ar arferion a strwythurau da o ran amser gwely, gwisg a brecwast
  • Sicrhau bod yr holl offer angenrheidiol a phriodol ar gael
  • Sicrhau bod y wisg yn gywir, fel yr amlinellir ym mholisi’r ysgol
  • Cymryd diddordeb yn addysg y plentyn
  • Gofyn i’r plentyn am ei ddiwrnod, gwrando, rhoi canmoliaeth ac annog cyflawniadau a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar eu presenoldeb.

Mae asiantaethau ar gael i gefnogi plant a theuluoedd yn Sir Fynwy. Gall rhieni holi’r ysgol am fanylion cyswlltd families within Monmouthshire, parent can speak to their school for contact details



Os oes gennych ymholiadau cyffredinol, cysylltwch ar y cyfeiriad e-bost canlynol:

CSF – Gwasanaeth Lles Addysg 
EducationWelfareService@monmouthshire.gov.uk