Adolygu Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol
Mae Pennod 7 o God Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 yn dweud fod yn rhaid i awdurdodau lleol gadw’r ddarpariaeth anghenion ychwanegol dan adolygiad ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
Mae hyn yn sail i’n cynllunio a gwneud penderfyniadau ynghylch darpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Gweithiwn gyda’n hysgolion a Chanolfannau Adnoddau Arbenigol i gwblhau hunan-werthusiad a gefnogir o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol. Fel rhan o’r broses hon, caiff ysgolion a Chanolfannau Adnoddau Arbenigol eu hadolygu bob dwy flynedd.
Bydd hyn yn cynnwys gweithgareddau tebyg i:
- Trafodaeth gyda’r Cydlynydd ADY/Arweinydd Canolfan Adnoddau Arweiniol a dolen uwch arweinyddiaeth
- Adolygu gwaith papur a pholisïau allweddol
- Taith ddysgu
- Craffu gwaith
- Llais disgyblion
- Ymgysylltu â staf
Mae crynodeb o ganlyniadau adolygiadau Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol ar gael drwy’r ddolen isod: