Skip to Main Content

Ydych chi’n cymryd cyffuriau, yfed alcohol neu gymryd glud er mwyn hwyl, i ddianc rhag anhapusrwydd, i leihau pryder a diflastod, neu i gael teimlad o berthyn?

Rydym i gyd yn gwybod bod cymryd cyffuriau ac yfed yn ormodol yn beryglus. Gall fod pris i’w dalu: marwolaeth, problemau iechyd difrifol, carcharu, a nifer o sgîl-effeithiau a allai beri ofn i chi ac i’r rhai sydd o’ch cwmpas.

Os ydych yn amau bod rhywun wedi cymryd cyffuriau ac yn adweithio’n ddrwg iddynt, ffoniwch am yr ambiwlans ar 999. Peidiwch â gwastraffu amser, gweithredwch ar unwaith; fydd pobl ddim yn eich beio am helpu ffrind – a gallwch hyd yn oed arbed bywyd!

  • Gwasanaeth alcohol caleidosgop
  • Rhaglen ymyriad cyffuriau Gwent (RhYC)

Gwasanaeth alcohol caleidosgop

Gall gwasanaeth alcohol caleidosgop eich helpu chi. Mae’r gwasanaeth hwn yn cynnig amrediad o gymorth ar gyfer unigolion a allai fod yn yfed gormod, ac hefyd ar gyfer aelodau teulu sy’n cael eu heffeithio gan y problem. Mae trefn, ffocws a chynllun eu gwaith wedi eu gweddu i’ch anghenion, pa faint bynnag yw eich problem.

Gall Caleidosgop drefnu i’ch gweld mewn un o’n siopau un stop; er mwyn trefnu cyfarfod, ffoniwch 01291 635355. Mae’n bwysig dros ben sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu darparu mor leol ag y bo modd.

Gallwch gyfeirio eich hunan, neu fe allech gael eich cyfeirio gan rywun arall, fel meddyg teulu, gweithiwr cefnogi, neu aelod o’r teulu.

Er mwyn cyfeirio eich hunan neu rywun arall, cysyllter â:

The Junction
Cedar House
Heol yr Orsaf
Cas-gwent
NP16 5PB
Ffôn: 01291 635355

Rhaglen ymyriad cyffuriau Gwent

Mae rhaglen ymyriad cyffuriau Gwent (RhYC) yn rhan o raglan gefnogi o’r cychwyn i’r diwedd sy’n dilyn ac yn rheoli troseddwyr wrth iddynt fynd trwy’r system gyfiawnder troseddol, gan gynnwys:

  • Dalfa’r heddlu
  • Llysoedd
  • Carchar
  • Profiannaeth
  • Triniaeth
  • Ôl-ofal

Mae rhaglen ymyriad cyffuriau Gwent (RhYC) yn cynnal sesiynau cyfrinachol yn Canolbwynt Cymunedolyng Nghaldicot ac yn eu canolfan Sir Fynwy yng Nghas-gwent:

Canolfan Aml-asiantaeth Camddefnyddio Sylweddau Ardal Sir Fynwy
The Junction
Cedar House
Heol yr Orsaf
Cas-gwent
Sir Fynwy
NP16 5PB

Gellir cysylltu â hwy ar 01291 635345 neu drwy ffacs: 01291 630228