Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gyfrifol am reoli a chynnal mannau cyhoeddus ar draws y sir, ac rydym yn ffodus fod gennym gymaint o leoliadau anhygoel. Mae’r cyfoeth o fannau cyhoeddus sydd gennym yn atyniad enfawr i drigolion, busnesau ac ymwelwyr â’r sir ac maent yn cefnogi perchnogaeth cŵn da.

Rydym yn cydnabod bod y mwyafrif o berchnogion cŵn yn ymddwyn yn gyfrifol ac yn cadw eu ci(cŵn) dan reolaeth. Mae hyn yn cynnwys clirio ar eu hôl mewn man cyhoeddus. Fodd bynnag, mae’r cyngor yn derbyn nifer sylweddol o gwynion ynghylch materion yn ymwneud â chŵn mewn mannau cyhoeddus, yn enwedig baw ci. Mae’r rhain yn parhau er gwaethaf ymdrechion gorau’r cyngor a’i bartneriaid i godi ymwybyddiaeth o natur wrthgymdeithasol cŵn yn baeddu a materion cysylltiedig.

Mae’r cyngor, a hysbyswyd gan ymgynghoriad cyhoeddus tri mis yn 2021, wedi bod yn adolygu’r rheolaethau presennol sydd ar waith er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn effeithiol o ran cynnal lle glanach, iachach a mwy diogel i fyw a gweithio ynddo yn ogystal ag ymweld ag ef.

Crynodeb o’r Cynigion

Darperir y rheolaethau cŵn presennol yn y sir gan Orchymyn Dynodi (Baeddu Tir gan Gŵn) Cyngor Sir Fynwy (Sir Fynwy) (Rhif 1) 1998. Mae hyn yn ei gwneud yn drosedd i beidio â chodi baw eich ci os yw’n baeddu mewn rhai mannau cyhoeddus penodol. Nid yw’n cynnwys pob man cyhoeddus.

Yn 2021 fe ymgynghorom â’r cyhoedd er mwyn canfod a oedd cefnogaeth i roi rhagor o reolaethau cŵn ar waith yn y sir. Ers hynny bu ymgynghori eang ag aelodau etholedig, clybiau a chymdeithasau chwaraeon a thirfeddianwyr allweddol mannau cyhoeddus er mwyn mireinio cynigion. Mae gan y PSPO drafft bum rheoliad cŵn arfaethedig:

  • Darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person sydd â gofal am gi i lanhau os yw’n baeddu mewn man cyhoeddus. Bydd hyn yn berthnasol ar BOB darn o dir y mae gan y cyhoedd fynediad ato yn Sir Fynwy.
  • Darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gyfrifol am gi mewn man cyhoeddus gael dull priodol (e.e. bag ci) i godi unrhyw faw a adawyd gan y ci hwnnw a dangos bod ganddo/ganddi fag(iau) os gofynnir iddynt wneud hynny gan swyddog awdurdodedig.
  • Darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person sydd â gofal am y ci, pan fyddant mewn man cyhoeddus, roi’r ci ar dennyn, nad yw’n hirach na 2 fetr o hyd, pan gaiff ei gyfarwyddo i wneud hynny gan swyddog awdurdodedig, pan fernir bod y ci allan o reolaeth, neu’n achosi braw neu drallod, neu er mwyn atal niwsans.
  • Cyflwyno nifer o ardaloedd gwahardd cŵn, a nodwyd drwy ymgynghoriad fel meysydd risg uchel o ran iechyd y cyhoedd ac sydd angen eu hamddiffyn ymhellach rhag baw cŵn. Yn gyffredinol, mannau chwarae i blant a meysydd chwaraeon wedi’u marcio yw’r rhain.
  • Cyflwyno nifer o ardaloedd, a nodwyd drwy ymgynghori ar sail achosion unigol, lle mae angen cadw ci ar dennyn heb fod yn fwy na 2 fetr o hyd.

Mae yna hefyd nifer o eithriadau yn y gorchymyn:

  • Ni fydd y darpariaethau baw cŵn yn berthnasol i rai pobl anabl, y mae eu golwg neu anableddau eraill yn eu hatal rhag gallu glanhau ar ôl eu cŵn.
  • Ni fydd y darpariaethau gwahardd cŵn yn berthnasol i gi sydd wedi’i hyfforddi gan elusen gofrestredig i gynorthwyo person ag anabledd ac y mae person anabl yn dibynnu arno am gymorth.
  • Ni fydd unrhyw un o’r darpariaethau yn berthnasol i weithgareddau arferol ci gwaith, tra bydd y ci yn gweithio.

CYN CWBLHAU’R HOLIADUR. PLÎS DARLLENWCH Y CRYNODEB, DRAFFT GORCHYMYN AR GWESTIYNAU CYFFREDINOL

Noder Roedd mapiau 094

Noder Roedd mapiau 094 yn y gorchymyn drafft wedi’i ddangos yn anghywir fel Ardal Waharddedig. Newidiwyd hyn i ddangos Tenynnau yn Unig ar 12fed Hydref 2023

CWESTIYNAU CYFFREDINOL

Cliciwch y cwestiwn i weld yr ateb:

Pam mae angen Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (PSPO) Rheoli Cŵn?
Mae’r Cyngor yn derbyn llawer o adroddiadau bob blwyddyn mewn perthynas â baw cŵn a chŵn sy’n niwsans. Mae llawer o waith wedi’i wneud trwy fentrau fel Rhowch Gerdyn Coch i Faw Cŵn sy’n codi ymwybyddiaeth o’r angen i fod yn berchennog cŵn cyfrifol. Fodd bynnag, mae pryderon yn parhau ac mae Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yn adnodd defnyddiol sy’n helpu i atal ymddygiad afresymol mewn mannau cyhoeddus a allai fel arall gael effaith niweidiol ar bobl eraill. Y gobaith yw gwella’r mwynhad pawb o fannau cyhoeddus.
Beth yw’r hyn y bwriedir ei gwmpasu gan y PSPO hwn o ran Rheoli Cŵn?
Gofyniad i lanhau ar ôl ci os yw’n baeddu unrhyw fan cyhoeddus yn y sir.
Gofyniad i fod â bagiau cŵn yn eich meddiant os ydych yn mynd â chi am dro mewn unrhyw fan cyhoeddus yn y sir; a gofyniad i allu dangos y bagiau hynny ar gais swyddog awdurdodedig.

Gofyniad i roi ci ar dennyn heb fod yn fwy na 2 fetr o hyd ar gais swyddog awdurdodedig, pan teimlir fod y ci allan o reolaeth, neu’n achosi braw neu ofid neu er mwyn atal niwsans. Mae hyn yn berthnasol i unrhyw fan cyhoeddus yn y sir.

Cyflwyno ardaloedd y mae cŵn wedi’u gwahardd ohonynt. Mae’r rhain yn ardaloedd y teimlir sydd angen eu hamddiffyn ymhellach rhag baw cŵn.  Ardaloedd chwarae i blant, caeau chwaraeon wedi’u marcio a thir ysgol/canolfannau hamdden yw’r rhain yn bennaf.

Cyflwyno mannau lle mae’n rhaid cadw ci ar dennyn nad yw’n fwy na 2 fetr o hyd. Edrychwyd ar bob ardal yn unigol cyn penderfynu a yw’n briodol i gi gael ei gadw o dan reolaeth agos ynddi.
Beth y mae “gofod cyhoeddus” yn ei olygu?
Mae’r diffiniad o fan cyhoeddus yn un eang ac yn golygu unrhyw fan y mae gan y cyhoedd neu unrhyw garfan o’r cyhoedd fynediad ato, drwy dalu neu fel arall, yn unol â’u hawliau neu yn rhinwedd caniatâd datganedig neu ganiatâd ymhlyg.
Rwyf wedi rhoi baw fy nghi mewn bag ond does dim bin baw cŵn o gwmpas. Beth ddylwn i ei wneud?
Gellir rhoi baw cŵn mewn bag a’i roi mewn unrhyw fin cyhoeddus, nid oes rhaid iddo fynd mewn bin ‘baw cŵn’. Os nad oes biniau o gwmpas, dylid mynd ag ef gartref a’i roi yng ngwastraff y cartref.
A oes unrhyw eithriadau’n cael eu cynnig?
Oes. Ni fydd y ddarpariaethau baw cŵn yn berthnasol i rai pobl anabl, y mae’r nam sydd ganddynt ar eu golwg neu anableddau eraill yn eu hatal rhag gallu glanhau ar ôl eu cŵn.
Ni fydd y darpariaethau gwahardd cŵn yn berthnasol i gi sydd wedi’i hyfforddi gan elusen gofrestredig i gynorthwyo unigolyn ag anabledd ac y mae person anabl yn dibynnu arno am gymorth.
Ni fydd yr un o’r darpariaethau’n berthnasol i weithgareddau arferol ci gwaith, tra bod y ci’n gweithio.
Pam, fel perchennog/cerddwr ci, y gofynnir i mi gario bagiau baw neu fagiau tebyg?
Rydym am atgyfnerthu’r neges i gerddwyr cŵn fod angen iddynt fod yn barod a dangos eu bod yn bwriadu glanhau ar ôl eu ci.
Beth os y daw rhywun ataf ar ôl i mi ddefnyddio’r bagiau cŵn oedd gennyf ar y daith gerdded?
Bydd swyddogion yn defnyddio synnwyr cyffredin o ran y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus. Nid diben y cynllun yw gwneud arian na cheisio dal perchnogion cŵn cyfrifol allan. Fodd bynnag, mae’n fodd o orfodi yn seiliedig ar gudd-wybodaeth. Er enghraifft, pan fydd y cyngor yn derbyn adroddiad nad yw cerddwr cŵn penodol byth yn codi baw ci, mae’n rhesymol i swyddog fynd at yr unigolyn hwnnw a gofyn am gael gweld ei fagiau cŵn.
Beth os gofynnir i mi ddangos bag baw cŵn ond rwy’n gwrthod?  A oes gan swyddogion y Cyngor bwerau i stopio a chwilio?
Nid oes gan swyddogion unrhyw bwerau stopio a chwilio. Fodd bynnag, bydd methu â chyflwyno bag neu ddull arall ar gyfer codi ar ôl eich ci ar gais person awdurdodedig yn drosedd.
Pwy fydd yn cael ei awdurdodi i ofyn?
Cwnstabl Heddlu neu berson a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan y Cyngor at ddibenion y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus.
Pam eich bod yn gwahardd cŵn o rai ardaloedd?
Mae’r cyngor wedi ymgynghori’n helaeth yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf a’r neges sy’n deillio o’r ymgynghori yw bod awydd i amddiffyn rhai ardaloedd ymhellach rhag baw cŵn.  Mae’r rhain fel arfer yn fannau chwarae i blant, caeau chwaraeon wedi’u marcio a thir ysgol/canolfannau hamdden.
A allaf gerdded fy nghi ar gae chwaraeon pan nad yw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau chwaraeon?
Os yw’r cae chwaraeon wedi’i restru yn y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus fel man y mae cŵn wedi’i wahardd ohono (a fod arwyddion yn dangos hynny) yna ni ddylech fynd â’ch ci am dro ar y cae hyd yn oed os nad yw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau chwaraeon bryd hynny. Y rheswm dros hyn yw ei bod yn debygol y bydd rhywfaint o weddillion baw cŵn yn aros ar y glaswellt hyd yn oed os yw’r rhan fwyaf ohono’n cael ei gasglu,  a gall aros yno nes bod y cae’n cael ei ddefnyddio.

Mae tocsocariasis yn haint a achosir gan lyngyr bach a geir ym maw rhai cŵn. Yr hyn sy’n bwysig i’w gofio nad yw’n cael ei ddal o faw ffres. Fel arfer mae’n cael ei ddal o bridd neu dywod sydd wedi cynnwys wyau llyngyr am ychydig wythnosau neu fisoedd.
Pam fod angen cadw cŵn ar dennyn mewn rhai ardaloedd?
Mae ystyriaeth wedi ei rhoi i bob un o’r ardaloedd yma’n unigol drwy ymgynghori ac maent yn ardaloedd y mae angen cadw cŵn dan reolaeth agos ynddynt oherwydd natur y gofod cyhoeddus a’r prif ddefnydd a wneir ohono. Er enghraifft mynwentydd, safleoedd treftadaeth a bywyd gwyllt, gerddi ffurfiol a pharciau sglefrio.
A fydd y rheolau newydd yn berthnasol i gerddwyr cŵn proffesiynol yn ogystal â phobl sy’n cerdded gyda’u cŵn eu hunain?
Byddant. Byddant yn berthnasol i’r person sy’n gyfrifol am y ci. Golyga hyn mai’r person sydd â’r ci yn ei feddiant, yn eu gofal neu yn eu cwmni ar y pryd os cyflawnir trosedd, neu fel arall, y perchennog neu’r person sydd â’r ci yn ei feddiant fel arfer.
Beth fyddai’r gosb am beidio â chydymffurfio â’r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus?
Gellir rhoi Hysbysiad Cosb Benodedig (FPN) o £100 yn daladwy o fewn 14 diwrnod, wedi’i ostwng i £75 os caiff ei dalu o fewn 10 diwrnod. Fodd bynnag, ar gyfer achosion sy’n cael eu cymryd i’r llys e.e. am beidio â thalu FPN, gallai’r ddirwy fod hyd at £1000.
Beth sy’n digwydd ar ôl y cyfnod ymgynghori?
Bydd y cyngor yn ystyried yr adborth a dderbyniwyd ac yn gwneud penderfyniad terfynol. Mae’n debygol y bydd hyn yn gynnar yn 2024.
Sut y byddwch yn rhoi gwybod i bobl am y rheolau newydd os caiff Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ei gyflwyno?
Arwyddion clir ar unrhyw fan y mae cŵn wedi’u gwahardd ohono neu unrhyw fan y mae angen eu cadw ar dennyn. Bydd nodiadau atgoffa rheolaidd ar y cyfryngau cymdeithasol, papurau newydd lleol a bydd y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ar wefan y cyngor.
How long does a PSPO last for?Am ba hyd y mae Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yn para?
Mae’n para am 3 blynedd, ac ar ôl hynny gellir ei ymestyn os yw’n dal i gael ei ystyried yn angenrheidiol ar ôl ymgynghori pellach.
A oes gan gynghorau eraill PSPO ar gyfer rheoli cŵn?
Oes, mae gan 14 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru PSPO ar hyn o bryd ar gyfer rheoli cŵn.