Mae Gorchymyn Rheoleiddio Traffig parhaol yn orchymyn cyfreithiol sy’n rheoli sut y gellir defnyddio ffordd. Gall osod terfyn cyflymder, cyflwyno cyfyngiadau aros a pharcio, creu stryd un ffordd, gwahardd symudiad troi, gosod terfyn pwysau neu led neu gyfyngu rhai cerbydau. Unwaith y’u gwnaed, mae Gorchymyn Rheoleiddio Traffig parhaol yn dal mewn grym nes y bydd y cyngor yn ei newid neu yn cyflwyno gorchymyn arall yn ei le.
Mae Cyngor Sir Fynwy yn gwneud Gorchmynion Rheoleiddio Traffig parhaol dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984.
Yr hyn y gall Gorchymyn Rheoleiddio Traffig parhaol ei wneud
Gall y cyngor wneud Gorchymyn Rheoleiddio Traffig parhaol pan mae’n fodlon fod cyfiawnhad dros wneud hynny ar gyfer un o’r dibenion a nodir yn Neddf Rheoleiddio Traffig Ffordd 1984. Mae hyn yn cynnwys osgoi perygl i bobl neu draffig, atal difrod i’r ffordd, gwneud y ffordd yn rhwyddach i’w defnyddio a chadw neu wella cymeriad neu amwynder ardal. Enghreifftiau cyffredin yw:
- terfynau cyflymder
- cyfyngiadau aros a llwytho, tebyg i linellau melyn
- lleoedd pario, baeau llwytho a pharthau parcio hawlen
- strydoedd un-ffordd a gwaharddiadau troi
- terfynau pwysau a lled
- lonydd bws a pharthau cerddwyr neu feiciau
- baeau parcio i’r anabl
Mae terfynau cyflymder yn fath cyffredin o Orchmynion Rheoleiddio Traffig parhaol . Yng Nghymru y terfyn diofyn ar y rhan fwyaf o ffyrdd cyfyngedig, y rhai gyda goleuadau stryd cyffredin, yw 20mya. Mae’r cyngor yn defnyddio Gorchymyn Rheoleiddio Traffig parhaol i osod terfyn gwahanol lle mae cyfiawnhad dros hynny.
Sut mae’r cyngor yn gwneud Gorchymyn Rheoleiddio Traffig parhaol
- Cyfiawnhau’r gorchymyn. Mae’n rhaid i’r cyngor fod yn fodlon fod angen y gorchymyn ar gyfer un o’r dibenion yn Neddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984.
- Ymgynghori. Cyn gwneud y gorchymyn, mae’r cyngor yn ymgynghori â’r heddlu a rhanddeiliaid eraill a nodir yn y rheoliadau.
- Hysbysebu’r cais. Mae’r cyngor yn cyhoeddi hysbysiad o gynigion mewn papur newydd lleol, ar wefan Cyngor Sir Fynwy ac yn gosod hysbysiadau ar y safle. Caiff y gorchymyn drafft, cynllun a datganiad o resymau wedyn ei wneud ar gael i’r cyhoedd i’w archwilio yn bersonol ac ar-lein.
- Gwahodd sylwadau. Gall unrhyw un gyflwyno sylwadau mewn ysgrifen o fewn cyfnod penodol o 21 diwrnod o leiaf o ddyddiad cyhoeddi’r hysbysiad.
- Ystyried sylwadau. Mae’r cyngor yn ystyried ac yn ymateb i bob ymateb.
- Penderfynu. Mae’r cyngor yn penderfynu p’un ai i wneud y gorchymyn fel y’i cynigiwyd, ei wneud gyda newidiadau, neu beidio ei wneud.
- Gwneud y gorchymyn. Mae’r cyngor yn selio’r gorchymyn ac yn cyhoeddi y cafodd hysbysiad ei wneud. Daw’r gorchymyn i rym ar y dyddiad a nodir arno.
- Hawl i herio. Am chwe wythnos ar ôl gwneud y gorchymyn, gall person wneud cais i’r Uchel Lys i gwestiynu os yw o fewn pwerau’r cyngor neu os dilynwyd y drefn gywir.
Pa mor hir y mae’n parhau a pha mor hir y mae’n ei gymryd
Nid oes dyddiad olaf ar Orchymyn Rheoleiddio Traffig parhaol. Mae’n parhau mewn grym nes fod y cyngor yn ei amrywio neu ei ddiddymu drwy orchymyn pellach. Oherwydd y camau ymgynghori a hysbysebu, mae’n cymryd nifer o fisoedd fel arfer i wneud Gorchymyn Rheoleiddio Traffig parhaol.
Pwy sy’n gwneud y gorchymyn
Mae’r cyngor yn gwneud gorchmynion ar gyfer ffyrdd lle mai ef yw’r awdurdod priffyrdd. Mae cefnffyrdd, sy’n ffurfio’r rhwydwaith strategol, yn gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru, sy’n gwneud unrhyw orchmynion sy’n berthnasol iddynt drwy ei asiant cefnffyrdd.
Os dymunwch wneud cais am Orchymyn Rheoleiddio Traffig parhaol, gellir cyflwyno hyn drwy ap Fy Sir Fynwy dan ‘Trafnidiaeth a Pharcio – Traffig a Diogelwch Ffyrdd’ neu gellir ei gael yn uniongyrchol yma: Fy Sir Fynwy
Unwaith y’i cyflwynwyd, caiff eich cais ei adolygu gan Dîm Traffig Cyngor Sir Fynwy, fydd yn asesu os yw Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn briodol ac yn cysylltu â chi wedyn.