Skip to Main Content

Os ydych yn rhiant neu’n ofalwr sy’n gweithio, gallwch gael hyd at £500 bob tri mis (hyd at £2,000 y flwyddyn ar gyfer pob plentyn) i helpu gyda chostau gofal plant. Os oes gan eich plentyn anabledd, gallwch gael hyd at £1,000 bob tri mis (hyd at £4,000 y flwyddyn ar gyfer pob plentyn).

Gallwch ei ddefnyddio i dalu am ofal plant, gan gynnwys:

Gwarchodwyr plant

Meithrinfeydd dydd a grwpiau chwarae

Clybiau cyn ysgol, clybiau ar ôl ysgol a chlybiau gwyliau.

Rhaid i’r darparwyr gofal plant hyn fod wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Gofynnwch i’ch darparwr i gael gwybod a yw wedi cofrestru.

Sut mae’n gweithio:

Byddwch yn creu cyfrif gofal plant ar-lein ar gyfer eich plentyn. Am bob £8 y byddwch chi’n ei dalu i mewn i’r cyfrif hwn, bydd y llywodraeth yn talu £2 iddo, hyd at uchafswm o £2,000 y flwyddyn (neu £4,000 os oes gan eich plentyn anabledd). Yna gallwch ddefnyddio’r arian i dalu’r darparwr gofal plant.

Bydd angen i chi ail-gadarnhau eich cymhwystra am Ofal Plant Di-dreth bob tri mis.

Cewch neges destun i’ch atgoffa ac mae’n hawdd gwneud hynny drwy eich cyfrif gofal plant ar-lein.

Ydw i’n gymwys?

Er mwyn cael Gofal Plant Di-dreth, mae’n rhaid eich bod yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos, ac yn ennill o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys bod:

yn hunangyflogedig

ar absenoldeb mamolaeth neu riant

ar absenoldeb salwch neu wyliau blynyddol.

Mae eich plentyn yn gymwys hyd at y mis Medi ar ôl ei ben-blwydd yn 11 oed, neu hyd at ei ben-blwydd yn 17 oed os oes ganddo anabledd. Gall pob rhiant neu ofalwr ennill hyd at £100,000 y flwyddyn a pharhau i fod yn gymwys i gael Gofal Plant Di-dreth. Nid yw eich cymhwystra yn dibynnu ar faint o dreth rydych chi’n ei dalu, felly ni fydd yn effeithio ar eich atebolrwydd treth incwm nac unrhyw dreth arall, megis TAW.

Ni allwch hawlio Gofal Plant Di-dreth yr un pryd â Chredyd Treth Gwaith, Credyd Treth Plant na Chredyd Cynhwysol. Gallwch hawlio gofal plant di-dreth ar gyfer yr arian ychwanegol rydych chi’n ei dalu ar ben y Cynnig Gofal Plant.

I ganfod faint o arian y gallwch ei gael tuag at eich costau gofal plant ac i ganfod a ydych yn gymwys, ewch i www.childcarechoices.gov.uk

Sut alla i wneud cais am Ofal Plant Di-dreth?

Gallwch wneud cais am Ofal Plant Di-dreth ar wefan Childcare Choices.

Bydd angen y canlynol arnoch chi a’ch partner, os oes gennych un:

Eich Rhif(au) Yswiriant Gwladol

Manylion un neu fwy o’r canlynol – Pasbort y DU, credydau treth, P60 neu slip cyflog diweddar.

Yn y rhan fwyaf o achosion, cewch wybod a yw eich cais yn llwyddiannus ar unwaith. Mewn rhai achosion, efallai y bydd rhaid i CThEM wneud archwiliadau ychwanegol er mwyn cadarnhau eich bod yn gymwys, felly mae’n bwysig eich bod yn gwneud cais mewn da bryd. Os nad ydych yn gymwys, cewch wybod y rheswm am hynny.

Nid oes gennyf fynediad i’r rhyngrwyd. Sut alla i wneud cais?

Os bydd angen cymorth arnoch neu os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd, gallwch ffonio’r llinell gymorth gwasanaethau gofal plant ar 0300 123 4097 a gwneud cais dros y ffôn.

Rwyf wedi gwneud cais am Ofal Plant Di-dreth ond nid wyf yn gymwys. Pa gymorth arall sydd ar gael ar gyfer fy nghostau gofal plant?

Mae gan Childcare Choices Gyfrifiannell Gofal Plant sy’n rhoi mwy o wybodaeth i chi ynglŷn â pha gynigion gan y llywodraeth sydd fwyaf addas i chi, a ydych yn debygol o fod yn gymwys i’w cael a sut i wneud cais.

www.childcarechoices.gov.uk

Lawrlwythwch ein llyfryn Cymorth Ariannol i ganfod os ydych yn gymwys am unrhyw fath arall o gymorth:

https://www.monmouthshire.gov.uk/app/uploads/2024/01/Support-for-Families-in-Monmouthshire-digital-WELSH.pdf