Hysbysiad o Etholiad – Senedd Cymru – Sir Fynwy Torfaen
Datganiad o Bersonau a Phleidiau a Enwebwyd, Hysbysiad o Bleidlais a Lleoliad Gorsafoedd Pleidleisio
Hysbysiad am Benodi Cynrychiolydd Etholiadol
Cynhelir etholiad i ethol chwe aelod o’r Senedd ar gyfer etholaeth Sir Fynwy Torfaen ar 7fed Mai 2026.
Dyma’r etholiad cyntaf i’r Senedd a gynhelir o dan reolau newydd. Bydd Sir Fynwy yn rhan o Etholaeth Sir Fynwy Torfaen sy’n cyfuno’r canlyniad ar gyfer Sir Fynwy a Thorfaen gyda’i gilydd. Bydd chwe Aelod o’r Senedd yn cael eu hethol i gynrychioli’r etholaeth newydd. Bydd y canlyniad yn cael ei gyfrif gan ddefnyddio math o gynrychiolaeth gyfrannol.
Mae Bwrdd Rheoli Etholiadol Cymru wedi cyflwyno platfform gwybodaeth i bleidleiswyr. Mae gwybodaeth am yr etholiad ar y platfform, gan gynnwys hysbysiadau swyddogol, gwybodaeth am orsafoedd bleidleisio a datganiadau ymgeiswyr. Gallwch gyrchu’r platfform trwy https://bwrwpleidlais.cymru. Bydd y platfform ar gael o ddiwedd mis Mawrth 2026.
Sut ydw i’n gwybod pwy sy’n sefyll yn yr etholiad?
Dim ond ar ôl 9 Ebrill 2026 y bydd manylion am yr ymgeiswyr a fydd yn sefyll ar gyfer etholiad yn hysbys
Sut ydw i’n pleidleisio yn yr etholiad?
Ar 7 Mai 2026, bydd 89 o orsafoedd pleidleisio ar agor ledled Sir Fynwy rhwng 7am a 10pm. Cyhyd â’ch bod chi wedi cofrestru i bleidleisio ac nad ydych wedi’ch cofrestru i bleidleisio drwy’r post, byddwch yn derbyn cerdyn pleidleisio erbyn 26 Mawrth 2026 a fydd yn dweud wrthych ym mha orsaf bleidleisio rydych chi wedi eich cofrestru i bleidleisio ynddi.
Meddwl am Sefyll yn yr Etholiad?
Bydd angen i unrhyw un sydd eisiau sefyll ar gyfer yr etholiad gwblhau a chyflwyno papurau enwebu. Mae copïau o’r papurau enwebu ar gael isod. Argymhellir eich bod yn cysylltu â’r tîm etholiadau trwy elections@monmouthshire.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth am y broses etholiadol.
Ffurflenni Unigol Ymgeisydd Rhestr Plaid
Ydych chi wedi eich cofrestru i Bleidleisio?
YDYCH CHI WEDI EICH COFRESTRU I BLEIDLEISIO?
Os nad ydych wedi cofrestru i bleidleisio, ni fyddwch yn gallu pleidleisio yn yr etholiad
Y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yn yr etholiad hwn yw 20 Ebrill 2026
Mae pobl ifanc 16 ac 17 oed yn ogystal â gwladolion tramor yn gymwys i gofrestru a phleidleisio mewn etholiad Senedd Cymru
Ddim yn siŵr ble mae eich gorsaf bleidleisio?
Gallwch ddefnyddio’r teclyn chwilio isod i’ch helpu i ddod o hyd i leoliad eich gorsaf bleidleisio a mwy o wybodaeth amdani.
Pleidleisio drwy’r Post
Os nad ydych yn mynd i allu ymweld â gorsaf bleidleisio neu os byddai’n well gennych bleidleisio trwy ddulliau eraill, yna gallwch wneud trefniadau amgen i bleidleisio drwy’r post, neu benodi dirprwy i bleidleisio ar eich rhan yn eich gorsaf bleidleisio.
Gallwch lawrlwytho cais i bleidleisio drwy’r post trwy glicio yma. Mae angen eich llofnod inc gwlyb ar y cais felly argraffwch a chwblhewch y ffurflen gais. Yna gallwch bostio’r cais yn ôl atom yn Cofrestru Etholiadol, Cyngor Sir Fynwy, Neuadd y Sir, Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA neu ei e-bostio at elections@monmouthshire.gov.uk.
Ni fydd unrhyw etholwr sydd â phleidlais bost bresennol yn derbyn eu pleidlais bost cyn 25 Ebrill 2026. Gall unrhyw un sy’n gwneud cais am bleidlais bost ar ôl 9 Mawrth 2026 ddisgwyl derbyn eu pleidlais bost tua 1 Mai 2026. Bydd angen i chi ystyried y dyddiadau hyn wrth wneud cais am bleidlais bost. Os nad yw’r rhain yn briodol, efallai yr hoffech ystyried penodi dirprwy lle mae rhywun arall yn bwrw eich pleidlais ar eich rhan.
Os oes angen i chi ganslo eich pleidlais bost bresennol, rhaid ei chanslo erbyn 5pm ar 21 Ebrill 2026 fel y gallwch wneud trefniadau amgen.
Rhaid cyflwyno ceisiadau am bleidleisio drwy’r post yn gywir erbyn 5pm ar 21 Ebrill 2026.
Rhaid cyflwyno ceisiadau am bleidleisio drwy ddirprwy yn gywir erbyn 5pm ar 28 Ebrill 2026. Gallwch wneud cais i gofrestru i bleidleisio drwy ddirprwy yma
Mae canllaw ar sut i gwblhau a dychwelyd eich pleidlais bost wedi’i gynnwys yn eich pleidlais bost.
Os na fyddwch yn derbyn eich pleidlais bost yn ôl y disgwyl, ni ellir cyhoeddi pleidlais newydd tan 30 Ebrill 2026. Byddem yn argymell eich bod yn ymweld â Neuadd y Sir, Brynbuga, gan ddod ag ID ffotograffig gyda chi, i gael pleidlais bost newydd yn hytrach na dibynnu ar fod pleidlais arall yn cael ei phostio atoch o ystyried pa mor agos fydd diwrnod pleidleisio.
Anogir pleidleiswyr i ddychwelyd eu pleidlais bost cyn gynted â phosibl i sicrhau bod eu pleidlais yn cael ei chyfrif.
ID Pleidleisiwr
Nid yw’n ofynnol i bleidleiswyr gyflwyno ID Pleidleisiwr yn Etholiad Senedd Cymru.
Sut byddaf i’n gwybod pwy sydd wedi ennill?
Bydd cyfrif y pleidleisiau yn digwydd y diwrnod ar ôl y bleidlais ar 8 Mai 2026.
Bydd manylion canlyniad yr etholiad ar gael ar dudalen hafan gwefan y Cyngor unwaith y bydd yn cael ei ddatgan yn ogystal ag ar Lwyfan Gwybodaeth Etholiadol Cymru.
Newidiadau i Etholiad y Senedd
O fis Mai 2026 ymlaen, bydd nifer etholaethau’r Senedd yn gostwng o 40 i 16, ond bydd chwe Aelod yn cynrychioli pob un. Bydd cyfanswm nifer yr Aelodau yn cynyddu o 60 i 96.
Bydd etholaethau Sir Fynwy a Thorfaen yn creu etholaeth Senedd Cymru Sir Fynwy Torfaen.
Bydd y ffordd y mae pobl yn pleidleisio hefyd yn newid.
Bydd y papur pleidleisio yn dangos y rhestr lawn o ymgeiswyr yn eich etholaeth, fel y gallwch weld pwy rydych chi’n pleidleisio drosto. Os bydd plaid yn ennill digon o bleidleisiau, byddant yn ennill un neu fwy o seddi yn y Senedd. Os bydd ymgeisydd annibynnol yn ennill digon o bleidleisiau, byddant yn ennill sedd yn y Senedd. Bydd seddi yn adlewyrchu canran y pleidleisiau y mae pob plaid neu ymgeisydd annibynnol yn eu cael.
Gelwir y system bleidleisio newydd yn system rhestr gyfrannol gaeedig.