Skip to Main Content

Cynhelir Etholiad Cyffredinol ar 12 Rhagfyr 2019. Oherwydd y rhybudd byr am yr etholiad yma, dylech ddisgwyl derbyn gwybodaeth am y bleidlais yn ddiweddarach nag a fyddech ar gyfer etholiadau eraill a defnyddio’r wybodaeth islaw i gynllunio eich trefniadau pleidleisio yn unol â hynny.

Bydd dros 90 gorsaf bleidleisio ar agor ledled Sir Fynwy rhwng 7am a 10pm ar 12 Rhagfyr 2019 i’ch galluogi i fwrw eich pleidlais. Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi gael eich cynnwys ar y gofrestr etholiadol i fwrw eich pleidlais.  Anfonir cerdyn pleidleisio at bob etholwr sydd wedi cofrestru ar y gofrestr etholiadol – bydd hyn yn dweud wrthych pa orsaf bleidleisio i’w defnyddio a sut i fwrw eich pleidlais. Dylech dderbyn eich cerdyn pleidleisio erbyn 22 Tachwedd 2019 nad yw’n gadael llawer o amser i wneud trefniadau pleidleisio eraill pe byddai angen i chi. Cysylltwch â ni ar 01633 644212 os nad ydych yn derbyn eich cerdyn pleidleisio erbyn diwedd y dyddiad hwn i sicrhau eich bod wedi cofrestru.

Mae Cwestiynau Cyffredin ar yr Etholiad Cyffredinol ar gael yma. Lawrlwytho

Cofrestru i Bleidleisio

Os ydych eisiau pleidleisio yn yr etholiad yma mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod wedi cofrestru i bleidleisio. Cofrestrwch nawr os gwelwch yn dda os na wnaethoch hynny eisoes. Gallwch gofrestru ar-lein yn www.gov.uk/registertovote a byddwch angen eich rhif yswiriant gwladol a’ch dyddiad geni er mwyn cwblhau’r broses gofrestru.

Rhaid derbyn ceisiadau i gofrestru erbyn 25 Tachwedd 2019.

Pleidleisio drwy’r Post neu Ddirprwy

Os na fyddwch yn medru ymweld â’ch gorsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad i fwrw eich pleidlais, yna gallwch wneud trefniadau eraill i bleidleisio drwy’r post neu ddirprwy (lle penodwyd rhywun i bleidleisio drosoch). Mae mwy o wybodaeth ar bleidleisio drwy’r post neu ddirprwy yn cynnwys ffurflenni cais ar gael neu gallwch gysylltu â’r swyddfa etholiadau ar 01633 644212 neu anfon e-bost at elections@monmouthshire.gov.uk. Gellir dychwelyd ceisiadau fel delweddau wedi’u sganio i’r cyfeiriad e-bost uchod neu drwy’r post at Cofrestru Etholiadol, Cyngor Sir Fynwy, Neuadd y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA.

Caiff pleidleisiau post eu hanfon mewn dwy ddogn. Bydd unrhyw etholwr oedd wedi cofrestru am bleidlais post cyn 30 Hydref 2019 yn derbyn eu pleidlais bost tua 29 Tachwedd 2019. Dylai unrhyw etholwr sy’n gwneud cais i bleidleisio drwy’r post ar ôl 30 Hydref 2019 ddisgwyl derbyn eu pleidlais bost tua 2 Rhagfyr 2019. Bydd angen i chi ystyried y dyddiadau hyn wrth wneud cais am bleidlais post i sicrhau eich bod yn derbyn eich papur pleidleisio drwy’r post os byddwch i ffwrdd ar wyliau.

Rhaid cyflwyno ceisiadau am bleidleisio drwy’r post yn gywir erbyn 5pm ar 26 Tachwedd 2019.

Rhaid cyflwyno ceisiadau am bleidleisio drwy ddirprwy yn gywir erbyn 5pm ar 4 Rhagfyr 2019.

Caiff canllawiau ar sut i lenwi eich pleidlais bost eu cynnwys gyda’ch pleidlais bost. Os nad ydych yn derbyn eich pleidlais bost, ni fedrir anfon un arall yn ei lle tan 6 Rhagfyr 2019. Byddem yn argymell eich bod yn ymweld â Neuadd y Sir, Brynbuga gan ddod a dull adnabod gyda ffotograff arno gyda chi er mwyn cael pleidlais post arall yn hytrach na dibynnu ar i un arall gael ei phostio atoch oherwydd bod y diwrnod pleidleisio mor agos.

Am beth ac i bwy y byddaf yn pleidleisio ?

Bydd pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr annibynnol sy’n dymuno sefyll am etholiad yn cyflwyno papurau enwebu, yn cynnwys manylion ymgeiswyr addas, i’r Swyddog Etholiadol erbyn 4pm ar 14 Tachwedd 2019. Ar 5pm ar y diwrnod hwnnw, caiff rhestr lawn o’r rhai sy’n sefyll etholiad ei chyhoeddi a y dudalen gwefan yma.