Skip to Main Content

Mae pob eiddo yn dod o dan fand ar gyfer Treth y Cyngor yn dibynnu ar ei werth.

Caiff bandiau Treth y Cyngor eu gosod gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Dyrannwyd un o wyth band i bob eiddo yn unol â’i werth cyfalaf ar y farchnad agored ar 1af Ebrill 1991. Fodd bynnag, y mae mwyafrif o eiddo wedi profi cynnydd sylweddol o ran ei werth ers 1991 felly daeth bandiau prisio newydd i rym ar 1af Ebrill 2005 wedi’u seilio ar werthoedd cyfalaf ar 1af Ebrill 2003.

Mae eich bil Treth y Cyngor yn nodi i ba fand y mae eich eiddo yn perthyn.

I weld y swm sydd i’w dalu ar gyfer pob band prisio yn yr amryw ardaloedd cymunedol ledled yr Awdurdod ewch i Taliadau Treth y Cyngor.

Bandiau Prisio – ystod o werthoedd a ddaeth i rym ar 1af Ebrill 2005.

A Hyd at £44,000
B Dros £44,000 ond yn llai na £65,000
C Dros £65,000 ond yn llai na £91,000
D Dros £91,000 ond yn llai na £123,000
E Dros £123,000 ond yn llai na £162,000
F Dros £162,000 ond yn llai na £223,000
G Dros £223,000 ond yn llai na £324,000
H Dros £324,000 ond yn llai na £424,000
I Dros £424,000


Sut i apelio yn erbyn dyfarniad band eich Treth y Cyngor

Band Prisio
Mae’r swm eich bod yn ei dalu wedi’i seilio ar eich band prisio fel yr aseswyd gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio sydd yn rhan o Gyllid y Wlad. Mae eich band cyfredol yn cynrychioli gwerth cyfalaf eich cartref ar ddyddiad y prisio sef 1af Ebrill 2003.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau yn ymwneud â’ch bandio neu eich bod yn credu bod eich t? o dan y band anghywir, mae’n rhaid i chi anfon apêl at Asiantaeth y Swyddfa Brisio ond mae terfyn amser o ran yr hawl i apelio hon.

Am wybodaeth bellach a chyngor ar anfon apêl bellach at y Tribiwnlys Prisio cysylltwch ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio naill ai ar ei gwefan neu i’r cyfeiriad isod:

Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Ty Glyder
339 Y Stryd Fawr
Bangor
Gogledd Cymru
LL57 1EP

Ffôn: 03000 505505

Atebolrwydd / Taliadau Treth y Cyngor
Os ydych chi’n credu nad ydych yn agored i dalu’r taliad neu fod gostyngiad neu esemptiad bod gennych chi hawl iddo heb ei dynnu, yn gyntaf dylech chi ysgrifennu at y Cyngor gan roi esboniad llawn o’ch amgylchiadau. Wedi hynny, byddwn yn ail-asesu eich achos a’ch hysbysu am ein penderfyniad. Os nad ydych chi’n fodlon ar yr ymateb mae gennych chi hawl i apelio ymhellach at y Tribiwnlys Prisio.

Y Tribiwnlys Prisio
Corff annibynnol yw hwn sydd yn penderfynu ar apelau yn ymwneud ag atebolrwydd, anghydfodau o ran yr hawl i dderbyn gostyngiadau ac esemptiadau a, hefyd, anghydfodau yn ymwneud â bandiau prisio. Mae modd cysylltu â nhw trwy:

22 Gold Tops
Casnewydd
NP20 4PG

Ffôn: 01633 266367


Byddwch yn ymwybodol o sgamiau

Mae wedi dod i’n sylw bod cwmnïau yn gofyn am arian i herio eich Band Treth y Cyngor a’ch Ad-daliad Treth y Cyngor. Mae rhai trethdalwyr wedi ein hysbysu bod y cwmnïau hyn wedi gofyn iddynt dalu ffioedd o flaen llaw a rhoi manylion eu cyfrifon banc.

Byddwch yn ymwybodol nad oes angen i chi wario arian i holi ynghylch eich band.

Asiantaeth y Swyddfa Brisio (rhan o Gyllid y Wlad) sydd yn cyfrifo band eich Treth y Cyngor. Os ydych chi’n meddwl bod hyn yn anghywir cysylltwch â’r swyddfa yn uniongyrchol ar 03000 505505.

Os oes angen i chi holi ynghylch unrhyw fater arall yn ymwneud â Threth y Cyngor ffoniwch 01633 644630 neu e-bostio: counciltax@monmouthshire.gov.uk