Skip to Main Content

Os yw’ch amgylchiadau yn newid ar ôl i’ch hawliad am Fudd-dal Tai a/neu Ostyngiad yn y Dreth Gyngor gael ei asesu, gallai effeithio ar swm y budd-dal a dderbyniwch. Dylech ddweud wrthym yn syth.

Os ydych yn oedi gallech golli budd-dal, hawlio gormod o ddisgownt neu dderbyn gormod o fudd-dal a gofynnir i chi ad-dalu’r arian.

Y ffordd gyflymaf a mwyaf cyfleus i roi gwybod am newid yn eich amgylchiadau yw ar wefan y Cyngor neu ap ffôn clyfar. Gallwch lawrlwytho’r ap am ddim o stôr ap eich ffôn neu fynd i www.torfaen.gov.uk. Gall preswylwyr Sir Fynwy hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth yma.

Gallwch hefyd ein hysbysu am y newid

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar ein  gwefan.

 

Noder os gwelwch yn dda – Caiff Gwasanaeth Budd-daliadau Sir Fynwy ei ddarparu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.