Skip to Main Content
         Fydd manylion am sut i gyrchu gwasanaethau cynllunio ar gael yma. Mae sut y byddwn yn defnyddio'ch data i'w weld yn ein hysbysiad preifatrwydd

Chwilio a Gwneud Sylw ar Geisiadau Cynllunio
Argymhellwn eich bod yn cofrestru’ch manylion personol fel eich bod yn gallu derbyn diweddariadau rheolaidd am gynnydd y ceisiadau. Mae opsiwn uwch ar gael hefyd lle gallwch osod meini prawf gwahanol er mwyn i chi dderbyn gwybodaeth ychwanegol.

Gwneud sylw ar gais
Bydd unrhyw sylwadau a gyflwynir yn ymddangos ar-lein ond yn cael eu hadolygu a’u gwirio am ddata personol arall. Bydd sylwadau amhriodol sy’n cael eu hystyried yn sarhaus, hiliol, enllibus neu fel arall yn dramgwyddus, yn cael eu dileu ac rydym yn cadw’r hawl i ddileu’r sylw yn ei gyfanrwydd. 

Ni fydd yr holl sylwadau a gyflwynir gan y cyhoedd yn cael eu cyhoeddi nes bod cynnwys y sylw wedi’i wirio i gadarnhau a yw’n cydymffurfio â materion diogelu data. Ein nod yw sicrhau bod sylwadau’n cael eu cyhoeddi o fewn 5 diwrnod gwaith wedi iddynt gael eu derbyn. 

Gweld Ceisiadau Cynllunio i wneud sylw. Os oes gennych unrhyw broblem, cysylltwch â 01633 644880.

Rydym yn cael problemau technegol gyda’r chwiliad mapiau, mae ein cyflenwr meddalwedd yn ymchwilio i hyn. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Cyngor Sir Fynwy yw’r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu’ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu’n caniatáu i ni wneud hynny.

Mae cyfraith diogelu data’n disgrifio’r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir Fynwy’n defnyddio’ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd corfforaethol ar ein gwefan.