Mae ein gwasanaeth BorrowBox yn golygu y gall aelodau llyfrgell fenthyca eLyfrau ac eLyfrauSain i’w mwynhau ar ffôn clyfar, dyfais llechen neu gyfrifiadur – i gyd yn rhad ac am ddim! Gallwch gofrestru i gael cerdyn llyfrgell ar-lein a byddwch angen PIN i fewngofnodi.
Mae miloedd o eLyfrau ac eLyfrauSain ar gyfer oedolion, plant a phobl ifanc mewn ystod eang o genres, i gyd o un wefan. Mae’r casgliad yn tyfu’n gyson felly dewch yn ôl yn gyson i fwynhau’r ychwanegiadau diweddaraf.
- Gallwch fenthyg neu gadw hyd at 10 e-lyfr 10 neu 10 e-Lyfr llafar ar y tro.
- Bydd eich benthyciadau yn dod i ben yn naturiol ar ôl 3 wythnos neu fe allwch eu dychwelyd yn gynharach os ydych wedi gorffen.
Sut i ddefnyddio Borrowbox;
Y ffordd fwyaf poblogaidd o fwynhau BorrowBox yw trwy’r ap BorrowBox.
Mae’n hawdd iawn i’w ddefnyddio, yn syml:
- Lawrlwythwch yr ap BorrowBox i’ch ffôn clyfar a/neu eich tabled. Mae BorrowBox ar gael ar gyfer dyfeisiau Apple, Android a Kindle Fire. Chwiliwch am BorrowBox o fewn siop ap eich dyfais.
- Teipiwch Sir Fynwy ym maes chwilio’r llyfrgell a dewis eich llyfrgell
- Mewngofnodwch i ddefnyddio eich Rhif Cerdyn Llyfrgell a PHIN Llyfrgell (gofynnwch i’ch llyfrgell os oes angen nodyn atgoffa o’ch PIN)
Yna gallwch bori a benthyg e-lyfrau ac e-lyfrau Llafar a ‘u llwytho i lawr i’w mwynhau o fewn yr ap
Gallwch hefyd ddarllen e-lyfrau a gwrando ar e-lyfrau llafar ar gyfrifiadur neu liniadur trwy ymweld â’n gwefan BorrowBox a mewngofnodi gyda’ch rhif cerdyn llyfrgell a PHIN.
Os byddwch yn benthyg ar gyfrifiadur, gallwch drosglwyddo ffeiliau i eReader neu MP3 Player. Ewch i Dudalennau Cymorth BorrowBox am ragor o wybodaeth ynghylch hyn