Skip to Main Content

Mae’r Wythnos Addysg Oedolion, dan arweiniad y Sefydliad Dysgu a Gwaith, yn gwahodd sefydliadau a chymunedau ar draws Cymru i gymryd rhan mewn gweithgareddau addysg oedolion i arddangos yr ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael i oedolion sy’n gobeithio parhau neu ddychwelyd i ddysgu. Nod yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth o werth addysg oedolion, dathlu llwyddiannau dysgwyr a darparwyr, ac ysbrydoli mwy o bobl i ddarganfod sut y gall dysgu newid eu bywydau mewn modd cadarnhaol.

Bu Dysgu Cymunedol Sir Fynwy yn dathlu ‘Wythnos Addysg Oedolion’ ar hyd wythnos 18 Mehefin 2018. Fel rhan o hynny fe wnaethom gynnal 43 sesiwn flasu am ddim yn ein pum lleoliad yn Sir Fynwy gan roi cyfle i bobl ddod a rhoi cynnig ar rywbeth newydd drwy geisio sgil ymarferol neu sesiwn flasu fer. Dros yr wythnos bu dros 190 o bobl yn bresennol yn y sesiynau gyda 102 o bobl yn llofnodi ar gyfer cwrs yn y dyfodol fel canlyniad.

Fe wnaethom gynnal ystod eang o sesiynau yn cynnwys: ieithoedd tramor, cefnogaeth ddigidol (sgiliau cyfrifiadureg, Ipad/llechen neu gamera digidol), Iaith Arwyddion Prydeinig, ynghyd ag amrywiaeth o wahanol sesiynau celf a chrefft a therapïau holistig. Hefyd, ynghyd â’r sesiynau blasu fe wnaethom ddangos gwaith dysgwyr, gan ddathlu llwyddiant gwych dysgwyr drwy fynychu cwrs gyda ni yn y gorffennol neu ar hyn o bryd.

Rhoddodd y digwyddiadau hyn gyfle i ni hyrwyddo cyfranogiad mewn dysgu, gan ein galluogi i wirioneddol ddangos yr hyn mae Dysgu Cymunedol yn ei ddarparu yn Sir Fynwy. Roedd ein digwyddiadau o fudd arbennig i unigolion sydd wedi ei chael yn anodd ymgysylltu neu efallai heb ystyried mynychu dosbarth yn flaenorol a’n cynorthwyo i ymgysylltu gyda dysgwyr a’u cefnogi i symud ymlaen i gyrsiau i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth ymhellach.

Hefyd, yn ystod yr Wythnos Addysg Oedolion afe wnaethom ail-lansio ein deunydd marchnata’n swyddogol sy’n cynnwys gwefan ar wedd newydd (dal i gael ei hadeiladu), posteri/taflenni cyrsiau  llyfrynnau penodol i safle, gan roi taith i ddysgwyr newydd a darpar ddysgwyr o’n deunyddiau marchnata newydd a chael eu hadborth fel y gallwn wneud yn siŵr ein bod yn darparu’r holl wybodaeth maent ei angen.

Roedd yr Wythnos Addysg Oedolion yn Sir Fynwy yn llwyddiant mawr gan adeiladu ar flynyddoedd blaenorol ac yn cyfathrebu’n glir ein hymrwymiad parhaus i Ddysgu Oedolion yn y Gymuned yn y sir. Diolch i bawb wnaeth  helpu i’w gwneud yn bosibl, rydym yn edrych ymlaen eisoes at y flwyddyn nesaf!