DISGRIFIAD O’R CWRS:
Cynlluniwyd Sgwrsio Ffrangeg ar gyfer y rhai sy’n dychwelyd i astudio Ffrangeg ac mae’n rhoi’r holl gyfleoedd y byddwch eu hangen i siarad a deall Ffrangeg yn hyderus mewn awyrgylch difyr a chyfeillgar.
Mae’r holl weithgareddau yn seiliedig ar sefyllfaoedd cymdeithasol a phroffesiynol, gyda defnydd deunyddiau go iawn megis bwydlenni, hysbysebion a thaflenni. Yn ogystal â siarad, i wella rhugledd a hyder, mae Sgwrsio Ffrangeg hefyd yn cynnwys amrywiaeth eang o weithgareddau dysgu i wella dealltwriaeth.
Cynnwys:
- Pobl a bywyd bob dydd, disgrifiadau ac arferion
- Hobïau a hamdden, gwyliau’r gorffennol a dewisiadau
- Trefi a newidiadau dros gyfnod, problemau amgylcheddol a’r dyfodol
- Gwneud ymholiadau a deall atebion
- Prynu a gwerthu
- Dilyn cyfarwyddiadau a gwneud argymhellion
Esbonio problemau a chwynion
Tiwtor: Ceri Seager
Mae gennyf Radd mewn Ffrangeg ac Almaeneg o Brifysgol Manceinion ac rwyf wedi gweithio gyda chwmnïau Ffrengig yn y diwydiant hysbysebu ers dros 11 mlynedd. Rwyf wedi bod yn dysgu ers 2012, ar ôl cwblhau fy Nhystysgrif Addysg i Raddedigion ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd ac rwyf wedi dysgu disgyblion o bob oed.
Ar hyn o bryd rwy’n addysgu oedolion ar sail ran-amser. Rwy’n mwynhau gweld cynnydd fy myfyrwyr wrth iddynt dyfu mewn rhuglder a hyder. Mae fy nosbarthiadau yn rhai ymlaciol a chyfeillgar ac yn lle gwych i gwrdd â phobl eraill sydd am ddeall a mwynhau diwylliant Ffrainc.
