Skip to Main Content

 Tiwtor: Peter Hamiltion

DISGRIFIAD O’R CWRS:

  • Mynd dros y cwrs blaenorol i smwddio unrhyw wendid.
  • Datblygiad pellach wrth ddysgu a meistroli Sbaeneg i lefel uwch.
  • Ffocws mwy ar ynganu, sgwrs esmwyth a defnydd o ffurfiau berf mwy cymhleth.
  • Ymwybyddiaeth o batrymau cyson ac anghysondebau yn strwythur y iaith.
  • Chwarae rôl yn ail-greu ac yn gweithio trwy sefyllfaoedd dydd i ddydd tebygol gan ddefnyddio adnabyddiaeth o Sbaeneg.
  • Cyflwyniadau gan aelodau unigol o’r dosbarth a grwpiau.
  • Ymarferion sydd wedi’u creu i wella cyfathrebu ar bapur.
  • Golwg ar Sbaeneg mewn cyd-destun mwy academaidd megis materion cyfoes, gwleidyddiaeth, materion cymdeithasol.
  • Gwaith cartref gyda strwythur ac adolygu rheolaidd o ddeunydd sydd wedi’i gyflwyno eisoes gan gynnwys rhai cwisiau adolygu.
  • Cwestiynau ac atebion ar ddiwedd bob sesiwn.

RHAG-AMODAU:

Awydd i wella ymwybyddiaeth bresennol o Sbaeneg.

Awydd i ddefnyddio menter y tu allan i’r dosbarth i ymchwilio geirfa, gramadeg a phynciau llosg ym myd cyfrwng y Sbaeneg.

CANLYNIADAU:

Ehangu gallu yn Sbaeneg gan gynnig yr hyder i ymestyn astudiaethau i lefel uwch ac/neu i ddefnyddio sgiliau uwch wrth ymweld â Sbaen neu De America. Bydd y cwrs hefyd yn parhau i hybu chwilfrydedd am hanes, diwylliant a gwleidyddiaeth y byd cyfrwng Sbaeneg.

UNRHYW DDEUNYDDIAU/OFFER SYDD ANGEN GAN FYFYRWYR:

Rydym yn argymell geiriadur da. Un da iawn yw Collins Concise Spanish Dictionary. Yn ogystal mae cwrs BBC, Talk Spanish Complete, ar gael ar ffurf pecyn llyfr a CD (gellir ei brynu o Amazon) a bydd cynnwys efallai yn cael ei ddefnyddio o bryd i’w gilydd yn ystod y cwrs hwn.

Tiwtor: Peter Hamilton

Rwyf wedi bod yn addysgu mewn Dysgu Cymunedol am bron 2 mlynedd, ar ôl gyrfa dros 40 mlynedd mewn yswiriant, gan arbenigo mewn Peirianneg ac Adeiladu. Treuliais lawer o amser yn delio gyda phrosiectau adeiladu yn America Ladin gan fyw yn Venezuela am gyfnod byr. Cefais fy magu ym Manceinion ond treuliais dros 30 mlynedd yn gweithio yn Llundain  yn ogystal ag yn Venezuela a Gwlad Belg. Rwyf bellach yn awr yn byw yn ymyl Tryleg, ar ôl gadael Surrey dros ddwy flynedd yn ôl am dawelwch cefn gwlad Cymru.

Ar ôl cwblhau 3 cwrs Sbaeneg i Ddechreuwyr, rwyf wedi datblygu’r hyder a dychymyg i wneud fy nosbarthiadau yn ddiddorol a hwyl.

Dysgais Sbaeneg yn ystod fy ngyrfa lle’r oeddwn yn aml yn cyfarfod pobl o America Ladin neu’n astudio dogfennau Sbaeneg. Roedd hefyd yn helpu fy mod wedi astudio Lladin a Ffrangeg yn yr ysgol.

Rwy’n mwynhau addysgu fel her ffres gyda’r cyfle i ddarganfod technegau ymarferol o wneud patrymau cyson yn yr iaith. Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi’n fawr y cyfle i gadw fy Sbaeneg fy hunan rhag mynd yn rhydlyd.

Rwyf wrthi’n dilyn cwrs lle byddaf yn cael y sgiliau i addysgu ieithoedd tramor i ddysgwyr gyda dyslecsia.

Rwyf hefyd yn hoff iawn o gerddoriaeth gwledig, gwerin, blŵs ac enaid ac mae’r dosbarthiadau’n cynnwys ychydig o gerddoriaeth Sbaeneg.