Skip to Main Content
avatar

Rebecca Way

Tiwtor Celf

Rwyf wedi bod yn athrawes gelf addysg oedolion ers 1995. Graddiais mewn Celf ac Estheteg (Addysg Celf) yng Nghaerdydd, yna wneud fy TAR cyntaf mewn Addysg Bellach ym Mhrifysgol Caerllion a fy ail TAR mewn Addysg Uwchradd ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr yn 2012/13. Rwyf wedi dysgu mewn ysgolion, colegau ac addysg oedolion.
Rwyf wedi bod yn artist proffesiynol, yn gwerthu fy ngwaith ers 1987. Rwyf wedi arddangos paentiadau mewn sioeau solo a chymysg, gwerthu gwaith yn lleol ac yng Nghaerdydd a Chanolbarth Cymru. Rwyf wedi paentio llawer o gomisiynau o anifeiliaid ac mae gennyf fy nhudalen Facebook fy hun ar eu cyfer REBECCA WAY ART gwefan; www.portrayedpets.co.uk.
Ar ôl gorffen yn yr ysgol gweithiais am nifer o flynyddoedd mewn oriel a siop gelf a wnaeth fy ysbrydoli i addysgu ac oedd yn ddefnyddiol iawn gyda fy ngwybodaeth pwnc.
Rwy’n addysgu ar gyrsiau o ddechreuwyr i uwch, a gweithdai ym mhob rhan o Sir Fynwy, Blaenau Gwent, Caerffili, Swydd Caerloyw, Gwent, Swydd Henffordd a Phowys. Rwy’n cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau amrywiol mewn gwahanol gyfryngau fel dyfrlliw, pen a dyfrlliw, inciau acrylig, pastelau, gouache a chyfryngau cymysg. Rwyf hefyd yn cael fy ngwahodd i arddangos a chynnal gweithdai ar gyfer llawer o gymdeithasau a chlybiau celf o amgylch yr ardal. Rwyf hefyd yn addysgu’n rheolaidd yn Stiwdios Bwthyn y Capel yn Llanddewi Rhydderch ger y Fenni, lle’r wyf wedi bod yn addysgu ac yn arddangos am fwy na 10 mlynedd.
Mae fy arddull o addysgu yn cynnwys arddangos y technegau y dymunaf i fy myfyrwyr eu cyflawni, yn ogystal â helpu’n unigol ar sail un i un. Os yw amser yn caniatáu, rydym yn dod i ben gyda beirniadaeth i ddod â’r holl waith ynghyd. Rwy’n canfod fod hyn yn help enfawr gyda chynnydd a hyder myfyrwyr yn y cyfrwng ac, fel canlyniad, eu taith greadigol. Rwyf wrth fy modd yn addysgu, nid yw’r sgiliau creadigol a thechnegol mae myfyrwyr yn eu datblygu yn fy ysbrydoli yn gyson.

Offer neu ddeunyddiau

 

Wedi'i roi ar ddiwrnod cyntaf y dosbarth.

Cynnwys y cwrs

Bydd y cwrs hwn yn cyflwyno myfyrwyr i amrywiaeth o wahanol dechnegau gwneud marc gyda phen ac inc, yn defnyddio brwshys a pheniau ysgrifennu. Yn ogystal ychwanegir technegau paentio dyfrlliw yn ogystal â chyfryngau eraill e.e. halen, cwyr ac yn y blaen. Defnyddir pynciau bywyd llonydd a thirlun o ffotograffau yn y broses.
Mae arddangosiadau gan y tiwtor yn helpu ac annog myfyrwyr i ddysgu’r technegau newydd. Mae addysgu un i un wedyn yn dilyn y broses yma ac weithiau (os yw’r amser yn caniatau) gynulliad hamddenol ar ddiwedd neu ddechrau’r sesiwn ddilynol i gymell, datrblygu a dod â’r holl waith at ei gilydd. Rwy’n cael hyn yn effeithlon tu hwnt.