Skip to Main Content
avatar

Philomena Vaughan

Tiwtor


Rwyf wedi bod yn dysgu yn Sir Fynwy ers 1985, ar hyn o bryd rwy’n dysgu yng Nghas-gwent, Cil-y-coed a Brynbuga.  Rwy’n ddarlithydd yn y Brifysgol ac yn artist proffesiynol cymwys.  Dwi’n dod o linell hir o artistiaid, roedd fy nhad a’i deulu i gyd yn beintwyr gwych.
Mae gennyf gymhwyster BA a TAR. Cefais fy anrhydeddu gyda Gwobr Tiwtor Oedolion Cymru yn 2003 gan NIACE.
Rwy’n addysgu dyfrlliw, acrylig, pasteli a phen ac inc – yn ystod tymhorau ysgol, lefelau dechreuwyr ac uwch.
Mae gen i hefyd weithdai undydd yn dysgu paentio olew a thechnegau wrth baentio llun dyfrlliw – ar bob lefel.
Rwy’n credu’n gryf mewn ailgylchu ac mae gen i ddosbarthiadau Uwchgylchu.
Mae cyrsiau 10 wythnos ar gael ynghyd â gweithdai dydd.
Rwy’n annog fy myfyrwyr i gymryd rhan yn eu prosiectau cymunedol lleol a pheintio tirluniau lleol.
Mae rhai o’m myfyrwyr ym Mrynbuga yn rhan o brosiect Velothon Cymru, sy’n cynnwys paentio ar ddisgiau polycarbonad i’w rhoi ar olwynion beic. Bydd y rhain yn cael eu harddangos o amgylch Brynbuga am 2 flynedd.
Rwy’n mwynhau dysgu ac yn cael pleser mawr wrth weld fy myfyriwr yn datblygu eu medrau peintio, rwy’n gosod arddangosfa gelf bob blwyddyn ym mhob canolfan ac yn annog fy myfyrwyr i arddangos eu gwaith.
Rwyf wrth fy modd yn arbrofi gyda phaent a lliw, boed ar bapur, cynfas neu sidan.

DISGRIFIAD CWRS:

Dyfrlliw a Darlunio Uwch
Ar y cwrs 15 wythnos yma byddwn yn defnyddio dyfrlliw a phaent arall seiliedig ar ddŵr. Byddwn yn edrych ar dechnegau o baentio cestyll Cymru ac astudio eu hanes.

Dyfrlliw a Darlunio i Ddechreuwyr
Ar y cwrs 15 wythnos yma byddwn yn defnyddio dyfrlliw a phaent arall seiliedig ar ddŵr gan edrych ar liw a thechnegau paentio tirluniau, morluniau, bywyd llonydd ac arddangosiad gan y tiwtor.