TIWTOR: Erin Taylor
DISGRIFIAD O’R CWRS:
Dysgu defnyddio peiriant gwnïo a dilyn patrymau mewn amgylchedd hwyliog a chyfeillgar. Addas ar gyfer pob lefel, bydd y dosbarth hwn yn addysgu sgiliau newydd i chi ac yn eich galluogi i gynyddu mewn hyder, p’un ai a ddymunwch wneud celfi cartref neu ddillad. Byddwch yn disgyn dilyn patrymau a sicrhau gorffeniad proffesiynol.
Bydd peiriannau gwnïo ar gael neu gallwch ddod â’ch peiriant gwnïo eich hun.
HANFODOL:
Dim
DEILLIANNAU:
Dysgu gwnïo gyda pheiriant a chwblhau prosiectau gwnïo.
UNRHYW DDEUNYDDIAU/OFFER SYDD EU HANGEN GAN FYFYRWYR:
- Byddai offer gwnïo sylfaenol yn ddefnyddiol ond bydd popeth hanfodol ar gael i’w defnyddio.
- Deunydd a phatrymau ar gyfer prosiectau penodol os dymunir gan y myfyriwr.
- Peiriant gwnïo os oes gennych un.
TIWTOR: Erin Taylor
Rwyf wedi bod yn gwneud crefft ers i mi fod yn ifanc, diolch i’m tad a oedd yn dysgu gweithdy modelu ac sydd hefyd yn grëwr awyddus o facramé. Dysgodd fy nwy mam-gu gwnïo, crosio a brodwaith i mi, ac fe ysgogwyd y dylanwadau hyn gariad ynof fi tuag at bopeth sydd wedi’i gwneud â llaw.
Dwi’n dwli ar wnïo ac rwyf wedi bod yn creu eitemau o ddillad i fi, i’r teulu ac i ffrindiau ers nifer o flynyddoedd gan gynnwys gwisg ffansi, o Cleopatra i Tinkerbell, dillad baban a’m gwisg priodas fy hun.
Mae gwaith glain a weiren yn apelio i’m natur wyddonol a dwi’n dwli cynllunio darnau cymhleth am achlysuron arbennig, tra bod crefftau papur yn apelio i’m hochr ddigymell lle gall y dyluniad llifo’n fwy rhydd.
Rwyf wedi dysgu dosbarthiadau o amryw feintiau ac oedrannau, o ddechreuwyr pur i grefftwyr profiadol sy’n dymuno dysgu technegau newydd.