DISGRIFIAD O’R GWEITHDY:
Yn y gweithdy yma byddwch yn cynllunio ac yn gwnïo bag tote defnyddiol fydd yn berffaith ar gyfer siopa. Y canlyniad fydd bag unigryw gyda leinin llawn a orffenwyd gyda’ch cyffyrddiadau personol eich hun.
Gan ddefnyddio peiriant gwnïo, rhoddir cyfarwyddiadau cam wrth gam yn y dosbarth hamddenol ac anffurfiol yma. Perffaith i ddysgu sgiliau newydd neu fwynhau’r broses dylunio ar gyfer rhai gyda mwy o brofiad gwnio.
HANFODOL:
Dim
DEILLIANNAU:
Bag tote siopa unigryw wedi’i wneud gyda peiriant gwnïo.
UNRHYW DDEUNYDDIAU/OFFER SYDD EU HANGEN GAN FYFYRWYR:
Darperir yr holl ddeunyddiau ar gost o £7.50.
TIWTOR: Erin Taylor
Rwyf wedi bod yn gwneud crefft ers i mi fod yn ifanc, diolch i’m tad a oedd yn dysgu gweithdy modelu ac sydd hefyd yn grëwr awyddus o facramé. Dysgodd fy nwy mam-gu gwnïo, crosio a brodwaith i mi, ac fe ysgogwyd y dylanwadau hyn gariad ynof fi tuag at bopeth sydd wedi’i gwneud â llaw.
Dwi’n dwli ar wnïo ac rwyf wedi bod yn creu eitemau o ddillad i fi, i’r teulu ac i ffrindiau ers nifer o flynyddoedd gan gynnwys gwisg ffansi, o Cleopatra i Tinkerbell, dillad baban a’m gwisg priodas fy hun.
Mae gwaith glain a weiren yn apelio i’m natur wyddonol a dwi’n dwli cynllunio darnau cymhleth am achlysuron arbennig, tra bod crefftau papur yn apelio i’m hochr ddigymell lle gall y dyluniad llifo’n fwy rhydd.
Rwyf wedi dysgu dosbarthiadau o amryw feintiau ac oedrannau, o ddechreuwyr pur i grefftwyr profiadol sy’n dymuno dysgu technegau newydd.