Skip to Main Content

 Tiwtor: Mary Reed

DISGRIFIAD O’R CWRS:

Mae’r cwrs hwn yn cael ei anelu at rai sydd eisoes wedi dechrau ymchwilio i’w coeden deuluol a HEL achau.

Bydd y cwrs hwn yn datblygu sgiliau gan ddefnyddio dolenni Hyb Brynbuga i wahanol safleoedd ymchwil.

Mae’r pynciau’n cynnwys: Enghreifftiau o goed teulu, technegau ymchwil, dadansoddi gwahanol fathau o gofnodion, astudio tystiolaeth ddogfennol a darganfod tarddiadau ac ystyron enwau teuluol er mwyn parhau i ymchwilio i hanes eich teulu eich hun.

Bydd hwn yn grŵp gallu cymysg gyda phynciau fel “taro waliau brics neu astudio cofnodion milwrol” yn cael eu trafod ac wedyn byddech yn mynd ymlaen i ymchwilio i’ch Hanes Teulu eich hun dan arweiniad tiwtor TGCh.

HANFODOL:

Byddai sgiliau TGCh yn fanteisiol ond nid yn hanfodol

DEILLIANNAU:

Ymchwilio i hanes eich teulu eich hun

UNRHYW DDEFNYDDIAU/OFFER SYDD EU HANGEN GAN FYFYRWYR:

Gall pennau a phad ysgrifennu, a dyfais storio USB fod yn ddefnyddiol ynghyd ag unrhyw ymchwil ydych chi wedi’i wneud o’r blaen

TIWTOR: Mary Reed

Rwyf wedi bod yn addysgu TGCh am rai blynyddoedd. Cefais fy nghymhwyster cyfrifiadurol ym Mhrifysgol Caerdydd a thystysgrif addysgu yng Nghaerllion. Cedwais yn gyfredol drwy gael fy nghymhwyster addysgu llythrennedd digidol. Mynychais lawer o gyrsiau dan arweiniad Cannon UK a chwrs y Brifysgol Agored ar bwnc deall achau.

Rwy’n addysgu cyfrifiadureg i ddechreuwyr hyd at haen 3 lefel “A”, gan gyflwyno dysgwyr i’r byd digidol yn defnyddio eu dyfeisiau eu hunain yn cynnwys camerâu digidol. Roedd fy menter newydd y llynedd i fyd hanes teulu a hel achau. Eleni rwy’n datblygu cyrsiau’n seiliedig ar storio cwmwl a chymwysiadau.

Rwyf wrth fy modd yn rhannu gwybodaeth a llwyddiant myfyrwyr yn yr hyn y maent yn ei gyflawni.