Tiwtor: Janet Whiteman
DISGRIFIAD O’R CWRS:
Mae’r cwrs hwn ar gyfer dechreuwyr llwyr. Mae ar gyfer chwarae am bleser – ni fydd disgwyl i chi ddysgu nodiant cerddorol!
Byddwn yn dechrau gyda chordiau syml: chwarae i gydfynd ag amrywiaeth o ganeuon o bop, roc, gwerin, caneuon plant. Yn nes ymlaen, hyd yn oed rai caneuon jazz.
Byddwn yn edrych ar wahanol arddulliau plycio a symud ymlaen i arddulliau pigo. Yn nes ymlaen bydd posibilrwydd dysgu rhai darnau clasuron syml iawn.
HANFODOL:
Dim angen unrhyw wybodaeth flaenorol!
DEILLIANNAU:
Mewn dim o dro dylech fedru chwarae amrywiaeth enfawr o ganeuon gyda’r pedwar cord cyntaf y byddwn yn eu dysgu (a hyd yn oed fwy o ganeuon wrth i ni symud ymlaen!).
UNRHYW DDEUNYDDIAU/OFFER SYDD EU HANGEN GAN FYFYRWYR:
Byddwch neu angen:
Ukulele neu gitâr. Daw ukuleles mewn tri maint: Soprano: y lleiaf; Cyngerdd: y maint nesaf; Tenor: ychydig yn fwy na’r cyngerdd. (Os ydych yn ddyn efallai y byddai’n well gennych ukulele cyngerdd neu denor).
Stand cerddoriaeth a ffolder A4 dalenni rhydd. Rhoddir dalenni caneuon ac ati i chi a byddwch angen ffolder dalenni rhydd i’w cadw.
Tiwtor: Janet Whiteman
Rwyf wedi bod yn dysgu gitâr (gwerin, pigio-bysedd a dechreuwyr clasurol) ers diwedd y 1970au ac rwyf wedi dysgu iwcalili (gwerin, pigio-bysedd a rhai darnau clasurol dechreuwyr) ers 2014. Rwyf hefyd yn arwain Grŵp Iwcalili U3A (ein henw yw “Offa’s Tykes”): pob Haf a Nadolig, rydym yn cymryd set newydd o ganeuon i amrywiaeth o grwpiau o fewn ac o gwmpas Cas-gwent. Rwyf wedi chwarae mewn bandiau gwerin a bandiau ceilidh (lle roeddwn i’n chwarae mandolin) ers blynyddoedd lawer ac rwyf yn aelod o bedwarawd iwcalili o’r enw “Big Bad Woof” ar hyn o bryd.
Nid yw byth yn rhy hwyr i ddysgu offeryn – prynais fy ngitâr gyntaf yn 21 oed a dysgais fy hun i’w chwarae – ac nid wyf byth wedi edrych yn ôl. Rwy’n chwarae gitâr, iwcalili, mandolin, (piano os nad oes neb yn gwrando!) ac rwy’n ceisio gwella fy sgiliau chwarae feiolin – er na fyddaf yn dysgu’r offeryn hwnnw unrhyw bryd yn fuan!
Mae cerddoriaeth wedi rhoi llawer o bleser i mi gydol fy mywyd, ac rwy’n mwynhau dysgu hyn a gobeithiaf ledaenu’r pleser hwn i fwy o bobl nad ydynt efallai wedi ceisio chwarae offeryn o’r blaen.