Skip to Main Content

  TIWTOR: Carol Ann Young

DISGRIFIAD O’R CWRS:

Diben y cwrs yw cynnig blas bras o rai o’r cysyniadau sy’n rhan o gwnsela.  Dros 10 sesiwn bydd y cwrs yn cynnig adnabyddiaeth o gwnsela a’r profiad o ddefnyddio sgiliau cyfathrebu sylfaenol yn ogystal ag annog twf mewn hunanymwybyddiaeth.  Isod yw ychydig o’r meysydd bydd yn cael eu cwmpasu:

  • Y gwahaniaeth rhwng cwnsela a defnydd sgiliau cwnsela mewn sefyllfaoedd help
  • Y rhinweddau sydd eu hangen ar gyfer cwnsela
  • Sut i ddefnyddio sgiliau cyfathrebu sylfaenol
  • Cysyniadau sylfaenol o Gwnsela Person-ganolog
  • Cysyniadau sylfaenol o Gwnsela Seicodynamig
  • Cysyniadau sylfaenol o Therapi Ymddygiadol Gwybyddol
  • Pwysigrwydd hunanymwybyddiaeth
  • Archwilio ffiniau a rhagfarn

Bydd gwaith cwrs pob wythnos sy’n cynnwys ysgrifennu Dyddlyfr Dysgu o tua 250 gair.  Dylai’r dyddlyfr adlewyrchu’r hyn yr ydych wedi ei ddysgu yn y sesiwn a’ch ymateb personol.  Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol i’r rheini sydd yn dymuno datblygu ymhellach a chofrestru ar y Dystysgrif CPCAB Lefel 2 mewn Sgiliau Cwnsela.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiad neu gwestiwn, e-bostiwch y tiwtor, os gwelwch yn dda:

carolann.bronygarth@btinternet.com