Skip to Main Content

 Tiwtor : Emma Rhydderch Price

DISGRIFIAD O’R CWRS:

Cwrs i ddechreuwyr. Cyflwyniad i gelfyddyd gain cyfryngau cymysg.

Bydd myfyrwyr yn dysgu technegau darlunio a phaentio mewn dull cam wrth gam, er enghraifft:

  1. Darlunio – marciau pensel, tôn, gwead.
  2. Paentio – defnyddio acrylig – lliw, tôn, nodweddion 3D, gwahanol arddulliau techneg, cyfansoddiad.
  3. Paentio – dyfrlliwiau – defnyddio palet a lliw, cyfansoddiad gwead gwlyb/gwlyb.
  4. Dysgu am y brwshys, pensiliau a phapur cywir.

Pynciau a cynhwysir – Tirluniau, Bywyd Llonydd

Ymweliadau ag orielau lleol drwy gydol y flwyddyn yn ogystal â thripiau Hanes Celf

UNRHYW DDEUNYDDIAU/OFFER SYDD EU HANGEN GAN FYFYRWYR:

Pensiliau HB/2B

Papur ar gyfer dyfrlliwiau/acrylig

Gellir defnyddio rhai deunyddiau o’r Hyb ar y dechrau, e.e. brwshys ar gyfer acrylig/dyfrlliwiau.

Tiwtor: Emma Rhydderch Price

“Rydw i wedi bod yn dysgu gwahanol lefelau Celf ers dros ugain mlynedd, rwyf wedi dysgu mewn ysgolion, colegau ac addysg oedolion.

Rwy’n ddarlithydd celf gain ac yn artist proffesiynol. Dilynais fy ngradd mewn Celfyddydau Cain gyda’r Athro Terry Shave.  Cwblheais TAR mewn Addysg ym Mhrifysgol Caerdydd, cymhwyster a oedd yn fy ngalluogi i ddysgu Celf o TGAU i lefel Gradd.

Rwyf wedi arddangos paentiadau mewn sioeau unigol a chymysg, yn gwerthu gwaith yn lleol ac yng Nghaerdydd. Yng Nghaerdydd, gweithiais ar bwyllgor oriel gyda’r Artist Tony Goble ac artistiaid eraill a oedd yn werthfawr ac mor ysbrydoledig.

Rwy’n dal i fod yn frwdfrydig wrth ddysgu sgiliau newydd i fyfyrwyr ac wrth fy modd yn trosglwyddo fy arbenigedd ymarferol a damcaniaethol i’r rhai yr wyf yn eu haddysgu.

Rwy’n addysgu amrywiaeth o wahanol ddosbarthiadau o ddechreuwyr i gyrsiau uwch a gweithdai yn y Fenni a Brynbuga, gan gynnwys gwahanol gyfryngau megis dyfrlliw, acrylig, portreadau a chyrsiau cyfryngau cymysg.

Rwy’n mwynhau gweld gwaith creadigol y myfyriwr, y medrau creadigol a thechnegol amrywiol y maent yn eu datblygu trwy eu dysgu drwy Ddysgu Cymunedol Sir Fynwy.

Roeddwn wrth fy modd i gael fy enwebu fel ‘Tiwtor y Flwyddyn’ gan fy myfyrwyr a fynychodd gyrsiau yn Hyb Cymunedol Brynbuga.  Es ymlaen i ennill y teitl ‘Tiwtor y Flwyddyn 2017 Sir Fynwy’, a oedd yn foment falch iawn yn fy ngyrfa.

Rydym yn trefnu gwahanol arddangosfeydd celf trwy gydol y flwyddyn, lle rydym yn gwahodd ein dysgwyr i arddangos. Mae’n wirioneddol werth chweil i weld gwaith celf y dysgwr yn cael ei arddangos a chlywed y sylwadau gwych am y gwaith maen nhw wedi’u creu. ”