DISGRIFIAD:
- Yn ystod o cwrs 10 wythnos yma bydd myfyrwyr yn rhoi sylw i’r dilynol:
- Blodau’r gwanwyn:
- Freesia, blodau ceirios, mimosa a chennin Pedr
- Sgiliau crefft siwgr:
- Stensilio a llythrennu
- Os oes amser, technegau eisin brenhinol
Caiff myfyrwyr eu hannog i ymarfer y sgiliau hyn yn eu hamser eu hunain.
Bob wythnos dywedir wrth y myfyrwyr beth i ddod ag ef yr wythnos ddilynol.
CANLYNIADAU:
Bydd myfyrwyr yn gadael y cwrs gyda’r sgiliau sydd eu hangen i wneud blodau gwanwyn a thechnegau crefft siwgr.
UNRHYW DDEUNYDDIAU/OFFER SYDD EU HANGEN GAN FYFYRWYR:
Torrwyr ar gyfer blodau – tiwtor i hysbysu
Bwrdd teisennau/dymi i weithio wrth wneud sgiliau crefft siwgr.
Codir ffi o £2 ar gyfer pob myfyriwr bob wythnos am y pâst siwgr, gwifau a thap
Caiff yr holl offer arall ei gyflenwi gan yr Hyb.
Tiwtor: Bernadette Chapman
Blodeuwr Siwgr ydw i sy’n dwli ar gelf Crefft Siwgr a Blodeuwriaeth Porslen Oer.
Dechreuodd fy niddordeb am Grefft Siwgr dros 25 mlynedd yn ôl pan es i i Goleg Sir Gaint ym Maidstone, lle hyfforddais i ym mhob agwedd o Grefft Siwgr.
Galluogodd yr hyfforddiant yma i mi greu tusw priodas fy hun wedi’i greu yn gyfan gwbl allan o siwgr.
Dros y blynyddoedd diwethaf, rwyf wedi mynychu nifer o gyrsiau yn Ysgol Ryngwladol Fawreddog Cegin Squires yn Farnham yn Surrey. Cefais fy hyfforddi gan diwtoriaid sy’n enwog ar draws y byd gan gynnwys Alan Dunn, Paddi Clark, Ceri D.D. Griffiths a Mark Tilling, ac enillais dair Tystysgrif Feistr yn sgil y cyrsiau hyn. Mae gen i Ddiploma Proffesiynol o Ysgol PME am Addurno Cacennau a Chelf Felysion Knightsbridge.
Rydw i hefyd yn aelod o Ild Crefft Siwgr Prydain.
Rydw i bob amser yn awyddus i basio fy sgiliau a phrofiad ymlaen i bobl o’r un anian, sydd â diddordeb mewn dysgu am Grefft Siwgr a chyfrwng Porslen Oer.
Dwi wrth fy modd pan mae pobl eraill yn cyflawni beth maent yn meddwl sydd y tu hwnt i’w gallu.