Tiwtor : Philomena Vaughan
DISGRIFIAD O’R CWRS:
Ar y cwrs 15 wythnos hwn byddwn yn edrych ar dirluniau Cymreig, bywyd llonydd ac yn astudio gwaith un o’r artistiaid mawr.
Defnyddio paent dyfrlliw a phaentiau sylfaen dyfrlliw eraill.
Edrych ar liw a thechnegau wrth ddefnyddio paentiau dyfrlliw.
Dangosiadau gan diwtoriaid
UNRHYW DDEFNYDDIAU/OFFER SYDD EU HANGEN GAN FYFYRWYR:
Paentiau dyfrlliw, papur, brwsiau
Galwch heibio a siarad gyda’ch tiwtor ar y diwrnod
Tiwtor: Philomena Vaughan
Rwyf wedi bod yn dysgu yn Sir Fynwy ers 1985, ar hyn o bryd rwy’n dysgu yng Nghas-gwent, Cil-y-coed a Brynbuga. Rwy’n ddarlithydd yn y Brifysgol ac yn artist proffesiynol cymwys. Dwi’n dod o linell hir o artistiaid, roedd fy nhad a’i deulu i gyd yn beintwyr gwych.
Mae gennyf gymhwyster BA a TAR. Cefais fy anrhydeddu gyda Gwobr Tiwtor Oedolion Cymru yn 2003 gan NIACE.
Rwy’n addysgu dyfrlliw, acrylig, pasteli a phen ac inc – yn ystod tymhorau ysgol, lefelau dechreuwyr ac uwch.
Mae gen i hefyd weithdai undydd yn dysgu paentio olew a thechnegau wrth baentio llun dyfrlliw – ar bob lefel.
Rwy’n credu’n gryf mewn ailgylchu ac mae gen i ddosbarthiadau Uwchgylchu.
Mae cyrsiau 10 wythnos ar gael ynghyd â gweithdai dydd.
Rwy’n annog fy myfyrwyr i gymryd rhan yn eu prosiectau cymunedol lleol a pheintio tirluniau lleol.
Mae rhai o’m myfyrwyr ym Mrynbuga yn rhan o brosiect Velothon Cymru, sy’n cynnwys paentio ar ddisgiau polycarbonad i’w rhoi ar olwynion beic. Bydd y rhain yn cael eu harddangos o amgylch Brynbuga am 2 flynedd.
Rwy’n mwynhau dysgu ac yn cael pleser mawr wrth weld fy myfyriwr yn datblygu eu medrau peintio, rwy’n gosod arddangosfa gelf bob blwyddyn ym mhob canolfan ac yn annog fy myfyrwyr i arddangos eu gwaith.
Rwyf wrth fy modd yn arbrofi gyda phaent a lliw, boed ar bapur, cynfas neu sidan.
Rwy’n aml yn eistedd ar y traeth yn Aber-porth a’r ardal gyfagos, gan beintio glannau’r môr a’r dirwedd gyfagos. Rwyf hefyd yn mwynhau paentio bywyd llonydd a lluniau haniaethol.