Debyd Uniongyrchol
Gallwch yn awr dalu am dreth gyngor a threthi busnes yn defnyddio ein gwefan taliad diogel ar-lein.
Unwaith y byddwch wedi clicio’r ddolen dewiswch y ddolen ar gyfer gweld eich cyfrif treth gyngor neu drethi busnes
Dyma’r ffordd gyflymaf a mwyaf effeithlon o ran cost i dalu eich cyfrif. Lawrlwythwch fandad Debyd Uniongyrchol neu ofyn am ffurflen o’n Hybiau Cymunedol neu dîm refeniw. Byddant yn rhoi cyfarwyddyd i’ch banc drosglwyddo’r symiau priodol.
Dylid llenwi a dychwelyd y ffurflen drwy’r post at y tîm refeniw a ddangosir ar y ffurflen.
Mae dewis pedwar diwrnod rhandaliad – 1af, 8fed, 15fed a 24ain pob mis.
Gallwch dalu anfonebau’r cyngor drwy Ddebyd Uniongyrchol hefyd. Cysyllwch â’r tîm adfer i ofyn am ffurflen mandad.
Cofiwch roi eich enw, cyfeiriad a/neu gyfeirnod cyfrif os gwelwch yn dda.