Skip to Main Content

Mae’n ofynnol cynnal Adolygiadau Dynladdiad Domestig yn ôl y gyfraith ac yn Sir Fynwy, y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus sy’n gyfrifol am hyn.

Diben ADD yw ystyried yr amgylchiadau a arweiniodd at ddynladdiad trais domestig fel y gall cyrff cyhoeddus, sefydliadau yn y sectorau cymunedol a gwirfoddol, nodi lle y gallai bod gwell ymatebion wedi bod i’r sefyllfa.

Nid yw ADD yn ceisio bwrw bai ond mae’n ystyried yr hyn a ddigwyddodd a’r hyn y gellid bod wedi ei wneud yn wahanol. Nid yw ADDau yn disodli unrhyw gwest neu fath arall o ymchwiliad i’r dynladdiad, maent yn ychwanegol i’r rheiny.

Ar ôl i’r Swyddfa Gartref gytuno ar adolygiadau, cânt eu cyhoeddi a byddant ar gael ar-lein.

Mae ADD yn adolygiad o’r amgylchiadau lle mae marwolaeth person sy’n 16 oed neu’n hŷn wedi deillio, neu’n ôl pob golwg wedi deillio, o ganlyniad i drais, camdriniaeth neu esgeulustod gan:

  • berson yr oedd yn gysylltiedig ag ef/hi neu y bu’n ymwneud ag ef/hi neu yr oedd wedi bod mewn perthynas bersonol agos ag ef/hi, neu
  • aelod o’r un aelwyd

Diben ADD yw:

  1. sefydlu pa wersi y gellir eu dysgu o’r dynladdiad domestig ynghylch y modd y mae gweithwyr proffesiynol a sefydliadau lleol yn gweithio’n unigol a gyda’i gilydd er mwyn diogelu dioddefwyr
  2. nodi’n glir beth yw’r gwersi hynny o fewn a rhwng asiantaethau, sut ac o fewn pa amserlenni y byddant yn cael eu gweithredu, a beth y disgwylir iddo newid o ganlyniad
  3. cymhwyso’r gwersi hyn i ymatebion gwasanaeth gan gynnwys newidiadau i lywio polisïau a gweithdrefnau cenedlaethol a lleol fel y bo’n briodol
  4. atal trais yn y cartref a dynladdiad a gwella ymatebion gwasanaethau ar gyfer pob dioddefwr trais a cham-drin domestig a’u plant drwy ddatblygu dull aml-asiantaeth cydgysylltiedig er mwyn sicrhau y caiff cam-drin domestig ei nodi ac yr ymatebir iddo’n effeithiol ar y cyfle cynharaf
  5. cyfrannu at ddealltwriaeth well o natur trais domestig a chamdriniaeth
  6. tynnu sylw at arferion da

Pan fydd dynladdiad domestig yn digwydd, bydd yr heddlu perthnasol yn hysbysu’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn ysgrifenedig am y digwyddiad. Y Partneriaethau Diogelwch Cymunedol lleol sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol am gynnal adolygiad, gan eu bod mewn sefyllfa ddelfrydol i sefydlu panel adolygu a phenderfynu.

Yn Sir Fynwy, mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol drwy Grŵp Sir Fynwy Ddiogelach.

Gellir gweld adolygiadau a gwblhawyd yn Sir Fynwy isod.

ADD 1 – ‘Belle’

D-APR 1