Cymerwn ran mewn nifer o gynlluniau samplo yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig. Mae awdurdodau lleol ym mhob rhan o’r wlad yn cydweithio i ddynodi problemau diogelwch bwyd yn ymwneud â gwahanol fathau o safleoedd, prosesau a bwydydd a sicrhau na chaiff defnyddwyr eu camarwain gan labelu bwyd anghywir.
Y mathau o samplo a gynhaliwn
Archwiliad microbiolegol
Mae hyn yn archwiliad o fwyd ar gyfer bacteria fel Salmonela ac E Coli. Mae’r math yma o samplo yn dangos os cafodd bwyd ei drin yn lanwaith, ei storio’n gywir a’i goginio’n iawn. Gall y canlyniadau ddweud wrthym os yw bwyd heb fod yn ffit i bobl ei fwyta neu’n debygol o achosi gwenwyn bwyd.
Safonau Bwyd (cyfansoddiad a labeli)
Mae’r math yma o samplo yn ein helpu i benderfynu os yw bwyd wedi ei labelu’n gywir a bod sail dros yr hyn a honnir. Mae labeli cywir yn galluogi pobl gydag alergedd neu rai sy’n dymuno osgoi rhai bwydydd am resymau iechyd neu grefyddol i wneud hynny. Gall samplo safonau bwyd hefyd benderfynu os yw bwyd o’r natur, sylwedd neu’r ansawdd a fynnir.
Mae’r math yma o samplo hefyd yn edrych ar gemegau penodol sydd i’w cael mewn bwyd, a all achosi salwch dros gyfnod hir e.e. llawer o blwm neu arsenic. Mae hefyd yn ein galluogi i ddynodi ffynhonnell llygredd pethau dieithr megis gwydr, metel ac ati.
I gael mwy o wybodaeth am samplo bwyd cysylltwch ag iechyd yr amgylchedd.