Skip to Main Content

Mae’n rhaid i chi fod wedi cofrestru gyda’r awdurdod lleol os ydych yn storio, paratoi, dosbarthu neu werthu bwyd ar safleoedd. Mae safleoedd yn cynnwys bwytai, caffes, gwestai, siopau, ffreuturau, stondinau marchnad, faniau arlwyo symudol a faniau dosbarthu bwyd. Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n dechrau busnes bwyd newydd gofrestru gyda ni o leiaf 28 diwrnod cyn gwneud hynny. Yn ychwanegol, gall fod angen i rai cynhyrchwyr sy’n trin cynnyrch anifeiliaid megis cig, pysgod a chynnyrch llaeth, gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod lleol. Cysylltwch â’r awdurdod lleol os ydych yn ansicr os oes angen i’ch busnes gael ei gymeradwyo.

Pwy ddylai gofrestru?

Os ydych yn rhedeg  busnes bwyd, mae’n rhaid i chi ddweud (neu drefnu i rywun arall ddweud) wrth yr awdurdod lleol am unrhyw safleoedd a ddefnyddiwch ar gyfer storio, gwerthu, dosbarthu neu baratoi bwyd. Mae safleoedd bwyd yn cynnwys bwytai, gwestai, caffes, siopau, archfarchnadoedd, ffreuturau staff, ceginau mewn swyddfeydd, warysau, tai llety, cerbydau dosbarthu, ceir bwffe ar drenau, stondinau marchnad a stondinau eraill, faniau cwn poeth a hufen ia ac ati. Os defnyddiwch gerbydau ar gyfer eich busnes bwyd mewn cysylltiad gyda safle parhaol megis siop neu warws, dim ond dweud faint o gerbydau sydd gennych sydd angen i chi. Nid yw’n rhaid i chi gofrestru pob cerbyd ar wahân. Os oes gennych un neu fwy o gerbydau ond dim safle parhaol, mae’n rhaid i chi ddweud wrth yr awdurdod lle cânt eu cadw fel arfer. Os defnyddiwch safleoedd mewn ardal mwy nag un awdurdod lleol, mae’n rhaid i chi gofrestru gyda phob awdurdod ar wahân. Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n dechrau busnes bwyd newydd gofrestru gyda’r awdurdod lleol o leiaf 28 diwrnod cyn dechrau masnachu. Mae’n rhaid cofrestru mwyafrif safleoedd. Fodd bynnag caiff rhai safleoedd eu heithrio rhag cofrestru e.e. rhai sydd eisoes wedi cofrestru ar gyfer dibenion cyfraith bwyd, rhai safleoedd amaethyddol, ceir, pebyll (ond dim stondinau), rhai safleoedd domestig a rhai neuaddau pentref. Dylech  gysylltu â’ch awdurdod lleol  os credwch y medrech fod wedi eich eithrio. Mae’r nodiadau hyn er gwybodaeth yn unig a ni ddyled eu hystyried fel datganiad cyflawn o’r gyfraith.

Sut y gallaf gofrestru neu newid fy nghofrestriad?

I gofrestru eich busnes, llenwch ffurflen ar-lein. Ni ellir gwrthod cofrestriadau ac ni chodir tâl. Mae’n rhaid anfon y ffurflen gofrestru atom o leiaf 28 diwrnod cyn eich bod yn bwriadu dechrau masnachu. Mae’n rhaid i chi dicio’r holl flychau sy’n berthnasol i’ch busnes, ateb yr holl gwestiynau a rhoi’r holl wybodaeth a geisir. Dylai busnesau tymhorol sy’n gweithredu am gyfnod penodol bob blwyddyn roi’r dyddiadau y byddant ar agor. Bydd eich awdurdod lleol yn eich helpu os oes gennych unrhyw gwestiynau. Mae’n drosedd rhoi gwybodaeth y gwyddoch nad yw’n wir. Beth sy’n digwydd i’r wybodaeth a roddir ar y ffurflen? Bydd yr awdurdod lleol yn rhoi’r manylion ar ei Gofrestr.  Bydd cofrestr o enw’r busnes (os oes ganddo un), y cyfeiriad, rhif ffôn a’r math o fusnes a gynhelir ar y safle ar gael i’w archwilio gan y cyhoedd. Ni fydd cofnodion o’r wybodaeth arall a roddir ar gael i’r cyhoedd. Unwaith y byddwch wedi cofrestru gyda’r awdurdod lleol, dim ond os oes newid yng ngweithredydd y busnes bwyd, os yw natur y busnes yn newid, neu os oes newid i’r cyfeiriad lle cedwir safleoedd symudol eu cadw y mae angen i chi hysbysu’r awdurdod lleol. Llenwch y ffurflen hon i’w hysbysu am unrhyw newidiadau. Bydd yn rhaid i’r perchennog newydd lenwi ffurflen gais. Os yw’r awdurdod lleol yn dymuno newid y cofnod yn y Gofrestr oherwydd gwybodaeth a gaiff gan rywun arall, bydd yn rhoi 28 diwrnod o hysbysiad i chi a chyfle i roi sylwadau ar y newid arfaethedig. Dim ond er gwybodaeth y rhoddir y nodiadau hyn ac ni ddylent gael eu hystyried fel datganiad cyflawn o’r gyfraith.

Cofrestr Gweithredwyr Busnesau Bwyd

Rydym yn cadw cofrestr o fusnesau bwyd sy’n cynnwys y manylion dilynol:

  • Enw’r busnes bwyd
  • Cyfeiriad y sefydliad busnes bwyd
  • Manylion a natur y busnes bwyd

Mae’r gofrestr, sydd â manylion mwy o 1,000 fusnesau arni, yn newid yn barhaol ac nid yw ar gael ar y wefan. Gellir ei gweld drwy wneud apwyntiad yn un o swyddfeydd y Cyngor. Dylech ei gwneud yn glir yn eich cais os oes gennych ddiddordeb mewn busnesau bwyd o fath neilltuol. Bydd hyn yn ein helpu i roi’r wybodaeth i chi yr ydych ei hangen. Mae Erthygl 6(2) Rheoliad (CE) 852/2004 yn nodi gofyniad i weithredwyr busnes bwyd gofrestru gyda’r awdurdod lleol.