Skip to Main Content

Mae deddfwriaeth diogelwch bwyd yn ei gwneud yn ofynnol i chi weithredu a nodi mesurau effeithiol ar gyfer rheoli diogelwch bwyd a sicrhau y caiff bwyd ei gynhyrchu’n ddiogel fel na chaiff iechyd eich cwsmeriaid ei beryglu.

Mae dulliau rheoli’n cynnwys:

  • Cadw safle’n lân ac mewn cyflwr da
  • Draeniad, goleuadau ac awyriant da
  • Digon o gyfleusterau gwaredu â gwastraff
  • Cyfleusterau toiled ar gyfer staff
  • Offer mewn cyflwr da ac yn cael ei gadw’n lân
  • Trefniadau parhaol ar gyfer rheoli pla sy’n gwarchod rhag pla llygod, pryfed, chwilod du a thrychfilod eraill
  • Trefn lanhau effeithiol
  • Staff yn gwisgo dillad addas, wedi eu hyfforddi a gydag arferion glanweithdra personol da
  • Trefniadau ar gyfer sicrhau fod yr holl fwydydd a ddaw i mewn i’r safle mewn cyflwr da
  • Arferion trin, storio a chludiant sy’n cyflawni gofynion rheoli tymheredd ac osgoi halogiad

Rhaid i chi ddynodi peryglon posibl yn gysylltiedig gyda’ch busnes a chyflwyno arferion a fydd yn rheoli’r risgiau ac yn sicrhau diogelwch bwyd. Mae Bwyd Diogelach Busnes Gwell yn enghraifft o’r math yma o system.

Mae mwy o wybodaeth ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac o’r canllaw y medrir ei lawrlwytho.

Mae canllawiau penodol ar gael ar gyfer busnesau newydd yma.

Os oes unrhyw gwestiwn na chaiff ei ateb yn y tudalennau hyn, cysylltwch â’r tîm masnachol yn eich ardal.

Archwiliadau busnesau bwyd

Beth sy’n digwydd pan gaiff eich busnes bwyd ei archwilio?

Fel arfer bydd Archwilwyr Bwyd yn dod heb roi rhybudd ac nid yw’n rhaid iddynt wneud apwyntiad. Byddwn fel arfer yn ymweld yn ystod oriau agor; mae hyn fel y gallwn edrych ar eich busnes yn gweithredu.

Yn ystod yr arolwg, byddwn yn edrych o amgylch pob ardal o’ch busnes ac os yn bosibl, yn edrych sut y caiff bwyd ei drin. Efallai y byddwn hefyd am gymryd samplau neu ffotograffau ac efallai y byddwn am edrych ar eich cofnodion.

Byddwn yn trafod unrhyw broblemau gyda chi ac yn rhoi cyngor ar ddatrysiadau posibl.

Beth sy’n digwydd ar ôl i fusnes gael ei archwilio?

Byddwn fel arfer yn ysgrifennu atoch yn anffurfiol yn gofyn i chi unioni unrhyw broblemau a welsom. Byddwn hefyd yn glir am yr hyn yw’n ofyniad cyfreithiol a beth sy’n argymhelliad o arfer da.

Byddwn yn rhoi cyfnod rhesymol i chi wneud gwelliannau i gyflawni’r gofynion statudol. Lle mae hylendid bwyd yn wael, gellir cyhoeddi Hysbysiad Gwella.

Os gwelir risg uniongyrchol i iechyd y cyhoedd gallwn gyhoeddi Hysbysiad Gwahardd Argyfwng sy’n rhwystro defnyddio safle neu offer – mae’n rhaid i lys gadarnhau’r hysbysiad hwn. Gallwn hefyd gadw neu fynd â bwyd o’r safle.

Byddwn yn erlyn mewn achosion difrifol iawn. Gallai erlyniad llwyddiannus arwain at ddirwy, neu mewn rai achosion garchar ar gyfer y gweithredydd busnes. Gall y llys wahardd person rhag rhedeg busnes bwyd neu ddefnyddio safle ar gyfer busnes bwyd.

Pa mor aml y caiff busnes ei archwilio?

Bydd hyn yn dibynnu ar y risg bosibl a achosir gan y math o fusnes a’i record flaenorol. Gall rhai safleoedd gael eu harchwilio o leiaf bob chwe mis, eraill yn llai aml.