Skip to Main Content

Mae byw mewn ardal ‘Dechrau’n Deg’ yn rhoi mynediad awtomatig i chi at ystod eang o wasanaethau sydd wedi’u cynllunio i roi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i’ch plentyn. Gellir darparu cymorth yn eich cartref neu mewn Canolfan ‘Dechrau’n Deg’, yn dibynnu ar yr hyn sy’n gweithio orau i chi a’ch teulu.

Mae’r gwasanaethau sydd ar gael yn cynnwys:

•               Rhaglenni cyn-genedigol a chymorth un-i-un

•               Ymweliadau iechyd

•               Rhaglen ‘Rhieni fel Athrawon Cyntaf’

•               Rhaglenni magu plant a chymorth unigol

•               Cyngor a gweithgareddau ynghylch datblygiad iaith a phlant yn eu blynyddoedd cynnar

•               Cymorth i Dadau

•               Cymorth lles teuluol

•               Cymorth i gael mynediad at y cynnig gofal plant newydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru

•               Grwpiau tylino babanod a gweithgareddau

•               Canllawiau diogelwch yn y cartref

•               Cymorth gyda bwydo babanod

•               Cyngor ar faeth a diddyfnu

•               Cymorth gyda hyfforddiant toiled

•               Cyngor ar gwsg

•               A llawer mwy!

Ddim yn byw mewn cod post ‘Dechrau’n Deg’? Peidiwch â phoeni.

Gall pob teulu gael cyngor, arweiniad a chymorth pan fydd ei angen arnynt, waeth ble maent yn byw. Os nad ydych yn byw mewn ardal ‘Dechrau’n Deg’, gallwch barhau i dderbyn cymorth i chi’ch hun, eich babi a’ch teulu drwy lenwi’r Ffurflen Cymorth Blynyddoedd Cynnar a Magu Plant gan ddefnyddio’r ddolen isod.

Cymorth Blynyddoedd Cynnar a Magu Plant Sir Fynwy – Ffurflen Cais am Gymorth