Skip to Main Content

Datganiad i’r cyhoedd am ddigartrefedd a bwriadoldeb

Ar 27ain Ebrill 2015, cyflwynwyd Deddf Tai (Cymru) 2014 a wnaeth newidiadau i’r ffordd y mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn delio â digartrefedd.

Prif nod y Ddeddf newydd yw atal digartrefedd lle bynnag y bo modd, ac mae’n caniatáu i’r awdurdod a’r ymgeisydd weithio mewn partneriaeth i ddatrys eu problemau tai.

Mae tai cymdeithasol yn dod yn fwyfwy anodd i gael mynediad atynt, a chydnabuwyd bod rôl i’r sector rhentu preifat wrth helpu lleihau digartrefedd.  Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn caniatáu i awdurdodau lleol gyflawni eu dyletswydd ddigartrefedd ac atal drwy ddefnydd llety rhentu preifat, ar yr amod ei bod yn addas, yn fforddiadwy ac ar gael am fwy na 6 mis.

Daeth newid mawr o dan y Ddeddf newydd o ran bwriadoldeb.  Nid yw bwriadoldeb bellach yn ddyletswydd gyfreithiol ond yn bŵer y gall awdurdodau lleol ddewis ei gyflwyno.  Mae Cyngor Sir Fynwy wedi penderfynu y bydd bwriadoldeb yn cael ei ystyried wrth asesu anghenion tai’r grwpiau canlynol:

Mae’r canlynol yn gategorïau ymgeiswyr at ddibenion adran 78 (wrth benderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb) –

(a) Menyw feichiog neu berson y mae hi’n byw gyda nhw, neu y byddai’n rhesymol disgwyl iddo fyw gyda nhw;

(b) Person y mae plentyn dibynnol yn byw gyda nhw neu y bydd yn rhesymol disgwyl iddo fyw gyda nhw;

(c) Person –

(i) sy’n agored i niwed o ganlyniad i ryw reswm arbennig (er enghraifft: henaint, salwch corfforol neu feddyliol neu anabledd corfforol neu feddyliol), neu

(ii) sydd â rhywun sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn byw gyda nhw neu’n rhesymol disgwyl iddynt fyw gyda nhw;

(ch) Person –

(i) Sy’n ddigartref neu sydd dan fygythiad o ddigartrefedd o ganlyniad i argyfwng fel llifogydd, tân neu drychineb arall, neu

(ii) sydd â rhywun sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn byw gyda nhw neu’n rhesymol disgwyl iddynt fyw gyda nhw;

(d) Person –

(i) Sy’n ddigartref o ganlyniad i fod yn destun cam-drin yn y cartref, neu

(ii) sydd â rhywun sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn byw gyda nhw (heblaw’r camdrinwr) neu’n rhesymol disgwyl iddynt fyw gyda nhw;

(e) Person –

(i) Sy’n 16 neu’n 17 oed pan fydd y person hynny’n ymgeisio i awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gael neu gadw llety, neu

(ii) sydd â rhywun sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn byw gyda nhw neu’n rhesymol disgwyl iddynt fyw gyda nhw;

(f) Person –

(i) Sydd wedi cyrraedd 18 oed, pan fydd y person hynny’n ymgeisio i awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gael neu gadw llety, ond nid ydynt yn 21 oed, sydd mewn perygl arbennig o gaeu eu hecsbloetio’n rhywiol neu ariannol, neu

(ii) sydd â rhywun sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn byw gyda nhw (heblaw’r escbloetiwr neu’r ecsbloetiwr posib) neu’n rhesymol disgwyl iddynt fyw gyda nhw;

(ff) Person –

(i) Sydd wedi cyrraedd 18 oed, pan fydd y person hynny’n ymgeisio i  awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gael neu gadw llety, ond nid ydynt yn 21 oed, a oedd yn derbyn gofal, yn cael eu lletya neu eu maethu ar unrhyw adeg pan oeddynt dan 18 oed, neu

(ii) sydd â rhywun sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn byw gyda nhw neu’n rhesymol disgwyl iddynt fyw gyda nhw;

(g) Person –

(i) Sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog rheolaidd y Goron sydd wedi bod yn ddigartref ers gadael y lluoedd hynny, neu

(ii) sydd â rhywun sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn byw gyda nhw neu’n rhesymol disgwyl iddynt fyw gyda nhw;

(ng) Person sydd â chysylltiad lleol ag ardal yr awdurdod tai lleol ac sy’n agored i niwed o ganlyniad i un o’r rhesymau canlynol –

(i) Mae wedi derbyn dedfryd o garchar o fewn ystyr adran 76 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000(1),

(ii) Wedi cael ei ddanfon i, neu wedi’i gadw mewn dalfa drwy orchymyn llys, neu

(iii) Wedi cael ei ddanfon i lety cadw ieuenctid o dan adran 91(4) o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosb Troseddwyr 2012(2), neu’n berson y mae person o’r fath yn byw gyda nhw neu y byddai’n rhesymol disgwyl iddo fyw gyda nhw.

(k) person –

(i) sy’n ddigartref ac ar y stryd (o fewn ystyr adran 71(2)), neu

(ii) y gellid disgwyl yn rhesymol i berson a ddaw o fewn is-baragraff (i) breswylio gydag ef.

Adolygir y datganiad hwn ddwywaith y flwyddyn a bydd unrhyw newidiadau a wneir ar gael i’r cyhoedd eu gweld.  Daw hyn i rym ar 1af Gorffennaf 2015.