Data agored yw data y gall unrhyw un gael mynediad iddo, ei ddefnyddio neu ei rannu.
Mae’r dudalen Data Agored newydd hon yn cael ei threialu ar hyn o bryd, a gofynnir i chi beidio dibynnu ar yr wybodaeth. Llenwch y ffurflen islaw os gwelwch yn dda a byddwn yn gadael i chi wybod pan aiff yn fyw. I gael mwy o wybodaeth am Data Agored edrychwch ar wefan y Sefydliad Data Agored.
Mae Cyngor Sir Fynwy yn datblygu ei gynnig data agored ac rydym yn awyddus i ddechrau dialog gyda phobl sydd eisiau defnyddio ein data. Helpwch ni i ddeall y ffordd orau i ni wasanaethu eich anghenion data.
Rydym eisiau gwybod mwy am y mathau o ddata y dylem ei gyhoeddi a’r ffyrdd y bydd pobl eisiau ei ddefnyddio, bydd hyn yn sicrhau fod ein tudalen Data Agored mor ddefnyddiol ag sydd modd.
Cliciwch yma i ddweud eich barn
Setiau Data Sir Fynwy
Data a gyhoeddwyd gan Gyngor Sir Fynwy
- Rhestr gwariant dros £500
- Ein data gwariant fel dangosfwrdd defnyddiol
- Graddiadau hylendid bwyd
- Set Ddata Eiddo Busnes
- Rhestr Ysgolion Cynradd yn Sir Fynwy
- Rhestr Ysgolion Uwchradd yn Sir Fynwy
Data am Sir Fynwy a gyhoeddwyd gan sefydliadau eraill
- Mae amrywiaeth fawr o ddata am yr economi, amgylchedd a chymuned Sir Fynwy ar gael ar dudalen Sir Fynwy o Ystadegau Cymdogaeth.
- Caiff gwybodaeth am fusnes, cyflogau a chyflogaeth yn Sir Fynwy ei gyhoeddi gan wasanaeth NOMIS .
- Manylion ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a wneir drwy What do they know
Ffynonellau eraill o ddata agored yng Nghymru
- Llawer o wybodaeth am sut mae Sir Fynwy yn cymharu gyda rhannau eraill o Gymru ar gael yn Ystadegau Cymru
- Data amgylcheddol gan amrywiaeth o sefydliadau ar draws Cymru ar gael ar wasanaeth Lle
- Data am ysgolion yn Sir Fynwy ar gael ar safle mySchools
Mae gan Sir Fynwy bolisi Data Agored lle anelwn gyhoeddi pob data nad yw’n gyfrinachol. Credwn y dylai data sector cyhoeddus fod yn y parth cyhoeddus. Ni fyddwn byth yn cyhoeddi data personol neu unrhyw beth y gellir ei gysylltu’n ôl i unigolyn – dim ond data sy’n rhoi ffeithiau ac ystadegau sylweddol am ein sir.
Os na nodir fel arall, caiff popeth ar y wefan yma ei gyhoeddi dan Drwydded Llywodraeth Agored sy’n golygu y gallwch ei ailgyhoeddi a’i atgynhyrchu fel y dymunwch, gyda dim ond ychydig o amodau.
Gallwch ddefnyddio ein data i greu apiau neu gysylltu’n uniongyrchol gyda’ch gwefannau.