Skip to Main Content

Ymgynghori a chyhoeddusrwydd 

Pan gofrestrir cais cynllunio, hysbysir y canlynol:

Cynghorau tref neu gymuned 

Cyrff statudol neu gyrff priodol eraill megis Cyfoeth Naturiol Cymru 

Isadrannau o fewn y Cyngor e.e. priffyrdd, ecoleg, rheoli adeiladu

Cymdogion

Mae Hysbysiadau Safle yn cael eu harddangos lle bo’n briodol ac mae hysbysiadau i’r wasg yn cael eu hysbysebu yn Y Wasg Rydd ar ddydd Mercher.

Fel arfer, rhoddir 21 diwrnod i ymgyngoreion ymateb. Gellir edrych ar geisiadau a’u holrhain ar-lein. Gallwch wneud sylwadau neu wrthwynebiadau ar unrhyw geisiadau cyfredol. Noder, os gwelwch yn dda, y bydd angen cyfeirnod y cais er mwyn gwneud sylw neu wrthwynebiad. Adolygir eich sylw gan swyddog cynllunio a chaiff ei ystyried fel rhan o’r broses gwneud penderfyniadau yn gyffredinol. Am unrhyw gymorth, cysylltwch â planning@monmouthshire.gov.uk neu ffoniwch 01633 644 880 Mae’r cyfleuster Gwybodaeth Leol yn galluogi partïon â diddordeb i gael gwybod am geisiadau yng nghyffiniau eu heiddo / cod post.

Gellir cyflwyno sylwadau ar ôl y dyddiad a roddwyd os na phenderfynwyd ar y cais ond dylid cytuno ar estyniad amser gyda’r swyddog achos.

Fel arfer mae’r swyddog achos ar gael i ateb ymholiadau sy’n ymwneud â’r cais.