Skip to Main Content

Cynhelir cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar y dydd Mawrth cyntaf o bob mis.

Mae pob cynghorydd ar y Pwyllgor Cynllunio yn derbyn hyfforddiant cynllunio ac mae’r cadeirydd a’r is-gadeirydd yn cael eu penodi’n flynyddol gan y pwyllgor. Mae’r pwyllgor yn derbyn cyngor gan swyddogion y cyngor, yn enwedig mewn perthynas â chynllunio a materion cyfreithiol. Mae’r ceisiadau sy’n cael eu cyflwyno i’r pwyllgor cynllunio fel arfer yn geisiadau mwy ac yn geisiadau mwy arwyddocaol sy’n codi nifer o faterion cynllunio. Byddai’r rhan fwyaf o geisiadau yn cael eu penderfynu gan swyddogion drwy’r cynllun dirprwyo (dolen i’r siart llif) 

Pan fydd angen i geisiadau fynd i’r Pwyllgor Cynllunio, mae swyddogion yn ysgrifennu adroddiad ac argymhelliad a gyflwynir i aelodau’r Pwyllgor Cynllunio. Caniateir siarad yn gyhoeddus yn y Pwyllgor Cynllunio yn unol â’r protocol siarad cyhoeddus yn unig. Mae angen i bobl sy’n dymuno cyflwyno sylwadau yn ystod cyfarfod y pwyllgor cynllunio ofyn i’r gwasanaethau Democrataidd am ganiatâd o fewn yr amserlenni a amlinellir yn y protocol.

Ar ôl y cyflwyniad a’r siarad cyhoeddus bydd aelodau’r Pwyllgor yn trafod rhinweddau’r cais, gan ofyn am wybodaeth ychwanegol gan y Swyddogion Cynllunio yn ôl yr angen.

Bydd y pwyllgor yn gwneud penderfyniad terfynol ar y cais ar sail argymhellion y swyddogion, sylwedd y drafodaeth ac unrhyw wybodaeth arall a dderbyniwyd yn ystod y ddadl yn y pwyllgor. Gwneir y penderfyniad hwn yn unfrydol, neu, lle rhennir y farn, trwy ddangos dwylo.

Pan na fydd y Pwyllgor Cynllunio yn cytuno ag argymhellion y Swyddogion Cynllunio bydd y cais yn cael ei ohirio tan gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio canlynol er mwyn i Aelodau’r Pwyllgor ystyried eu rhesymau dros wrthod.