Skip to Main Content

Ein nod yw gwneud penderfyniad ar gais o fewn y cyfnod amser statudol, ond mewn rhai achosion efallai y bydd angen i ni ofyn am estyniad amser er mwyn ein galluogi i benderfynu ar eich cais. Ein nod yw gweithio gyda chi i ddod i gasgliad cadarnhaol i’r Cyngor allu rhoi caniatâd cynllunio.

Bydd y Cyngor yn hapus i drafod newidiadau a allai arwain at benderfyniad ffafriol ar gais. Fodd bynnag, os oes rhaid i ni wrthod cais, mae’r hysbysiad penderfynu yn rhoi cyngor ar sut i apelio. Dim ond yr ymgeisydd sydd â’r hawl i apelio yn erbyn penderfyniad neu amodau a osodwyd.

Gall penderfyniad fod yn destun cytundeb cyfreithiol mewn perthynas â rhwymedigaethau cynllunio neu faterion eraill os mai dyma’r achos Bydd Swyddogion Cynllunio yn cyhoeddi hysbysiad penderfyniad drafft at ddibenion mewnol yn unig ac ni fyddant yn cyhoeddi’r penderfyniad terfynol nes bod y cytundeb cyfreithiol wedi’i lofnodi.

Unwaith y bydd penderfyniad wedi’i roi i’r ymgeisydd, caiff yr hysbysiad o benderfyniad ei bostio ar wefan Sir Fynwy.

Mae modd gweld ceisiadau cynllunio yn llawn ar-lein a chyhoeddir rhestr o’r holl benderfyniadau a wneir yn wythnosol ac mae ar gael ar y wefan hon.

Gallai’r hysbysiad Penderfyniad gynnwys nifer o amodau datblygu. Gall yr amodau hyn gynnwys darparu gwybodaeth ychwanegol cyn y gall y gwaith ddechrau. Byddai angen i’r wybodaeth hon gael ei rhyddhau cyn i unrhyw waith ddechrau ar y safle. Er mwyn cyflawni’r amodau hyn mae angen i chi wneud cais ffurfiol i’r Cyngor ei ystyried. Mae gwybodaeth ar sut i wneud cais rhyddhau amod ar gael yma: –

Cyn i’r gwaith ddechrau ar y safle efallai y bydd caniatâd arall yn ofynnol o ran Rheoliadau Rheoli Adeiladu neu’r angen am drwydded ystlumod (Dolenni)