Skip to Main Content

Pan fyddwch chi’n cyflwyno cais cynllunio, dyrennir swyddog achos i chi a byddwn yn ceisio cysylltu â chi o fewn pythefnos i’w gyflwyno i amlinellu a oes gennym yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom i benderfynu ar eich cais. Byddwn yn ysgrifennu atoch os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom.

Unwaith y bydd y cais yn ddilys a bod gennym yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom, byddwn yn ysgrifennu atoch ac yn rhoi’r dyddiad i chi pryd byddwn yn amcanu cyflwyno penderfyniad. Bydd hyn fel arfer oddeutu 8 wythnos (yn ddibynnol ar y math o gais) o gyflwyno cais cynllunio dilys. Ydych chi am ei gael yn gyflymach (dolen)?