Skip to Main Content

Cynigir y wybodaeth ganlynol heb ragfarn ac fe’ch cynghorir i geisio barn gyfreithiol annibynnol. 

Q.    “Beth allaf ei wneud am ganghennau fy nghymydog sy’n gordyfu dros fy eiddo?“

A          Nid yw’n drosedd i adael canghennau o goeden neu lwyn i ordyfu dros eiddo cyfagos. Nid oes gan eich cymydog felly dyletswydd gyfreithiol i’w torri yn ôl ar eich cyfer. Fodd bynnag, yn ôl y Gyfraith Gyffredin mae gennych chi’r hawl, os ydych yn dewis ei ddefnyddio, i drefnu cael gwared ar unrhyw gangen sydd wedi gordyfu mor bell â’ch llinell ffin gyfreithiol ac nid pellach. Gallwch wneud hyn heb geisio caniatâd perchennog y goeden yn gyntaf.

Q         “Mae coeden fy nghymydog yn rhy fawr ac mae’n rhwystro goleuni”

A          Nid oes hawl gwirioneddol i oleuni yn ôl y gyfraith ac nid yw’n drosedd i adael coeden i dyfu i unrhyw faint mewn gardd ddomestig. Nid yw eich cymydog felly’n torri’r gyfraith. Fe’ch cynghorir i gysylltu â’ch cymydog mewn modd cyfeillgar ac egluro’r problemau y mae’r goeden yn eu hachosi.

Q         “A allaf fynd ar ei dir i wneud hyn?”

A          Na allwch, rhaid cael caniatâd o’r tirfeddiannwr yn gyntaf.

Q         “Beth ddylwn i wneud â’r canghennau rwyf yn torri i ffwrdd?”

A          Mae beth bynnag sy’n cael ei dorri o’r goeden, gan gynnwys unrhyw ffrwyth, yn parhau fel eiddo perchennog y goeden a dylid naill ai eu cynnig yn ôl neu eu dodi’n daclus yn ôl ar y tir lle mae’r goeden yn tyfu. 

Q         “Mae coeden fy nghymydog yn amharu ar fy nerbynneb teledu.”

A          Eto, nid oes hawl gyfreithiol i deledu. Ceisiwch fynd at eich cymydog fel y nodir uchod neu, os yw’n bosib, symudwch eich erial neu ddysgl lloeren i safle gwell i ffwrdd o’r goeden. 

Q         “Ond mae’n anodd cysylltu â’m cymydog neu maent yn anghyfeillgar tuag ataf.”

A          Byddwch yn ymwybodol os gwelwch yn dda taw mater preifat yw hwn rhyngoch chi a’ch cymydog ac nid oes gan y Cyngor y pwerau na’r ddyletswydd i weithredu. Ni fyddwn yn cysylltu â’ch cymydog ar eich cyfer. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i ymgysylltu â thrydydd parti megis Gwasanaeth Cyfryngu Sir Fynwy. Gwelwch y ddolen ganlynol: admin@monmediation.co.uk

Q         “Dwi’n pryderu bod coeden fy nghymydog yn beryglus.“

A          Mae gan eich cymydog yr hyn a elwir yn gyfreithiol fel dyletswydd ofal drosoch. Golygir hyn bod rhaid iddynt sicrhau, cyn belled ag sy’n rhesymol yn ymarferol, nad yw’r goeden yn peri risg anfoddhaol i chi neu i’ch eiddo. Perchennog y goeden yn unig sy’n gyfrifol a gallai fod yn atebol i hawliad am esgeulustod os yw unrhyw fethiant i archwilio a cynnal a chadw’r goeden yn arwain at anaf neu ddifrod. Fe’ch cynghorir i geisio cyngor cyfreithiol annibynnol ynglŷn â hyn.

Q         “Dwi’n meddwl bod coeden fy nghymydog yn achosi difrod i sylfaen fy nhŷ. Beth allaf ei wneud?”

A          Mae angen i chi sefydlu’r ffeithiau gan gyflogi person cymwysedig addas megis peiriannydd strwythurol i archwilio’r mater ar eich cyfer. Gall y rhan fwyaf o gwmnïau morgais trefnu adroddiad ymsuddiant proffesiynol.

Q         “Mae coeden y tu fas i fy nhŷ yn amharu ar geblau ffôn.”

A          Fel arfer mae coed a cheblau ffôn yn cydfyw heb broblem ac ond yn dod yn broblem os yw coeden neu gangen yn cwympo. Os ydych chi’n amau bod coeden yn amharu ar geblau ffôn, cysylltwch â British Telecom ar 0800 0232023, os gwelwch yn dda.

Q            “Dwi’n poeni bod coeden yn amharu ar geblau pŵer uwchben.”

A          Ni ddylech fyth ceisio unioni hyn eich hun. Cysylltwch â Western Power Distribution ar 0800 0963080, os gwelwch yn dda.

Q         “Dwi’n meddwl bod gwrych fy nghymydog yn rhy uchel. Beth allaf ei wneud?”

A         Nid yw’n drosedd i adael gwrych i gyrraedd unrhyw uchder ac nid cyfrifoldeb y Cyngor yw e i ddatrys y broblem ar eich rhan. Fodd bynnag, mae rhai mathau o wrych megis bytholwyrdd neu led fytholwyrdd (h.y. y rheini sy’n cadw rhai o’u dail yn y gaeaf) yn dod o dan y Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003. Gellir darganfod mwy o wybodaeth yn y nodiadau cyfarwyddyd Gwrychoedd Uchel: Cwyno i‘r Cyngor. Mae manylion ohonynt ar gael o’r ddolen ganlynol yma. Fe’ch cynghorir i’w darllen yn ofalus cyn cysylltu â’r Cyngor.