Skip to Main Content

Cyfrifoldeb Adran Dreftadaeth yr Awdurdod Cynllunio Lleol yw amddiffyn coed a gwrychoedd. Rydym yn gweinyddu gorchmynion gwarchod coed, coed mewn ardaloedd cadwraeth a chynigion i gael gwared ar wrychoedd amaethyddol. Rydym hefyd yn gyfrifol am weinyddu’r ddeddfwriaeth gwrychoedd uchel, sydd i’w gweld yn Rhan 8 o’r Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (2003). 

Coed ar dir sy’n perthyn i’r Cyngor

Nid yw’r Adran Dreftadaeth yn gyfrifol am arolygu a chynnal coed ar dir sy’n perthyn i’r Cyngor.   Os ydych yn cael problemau gyda choeden ar ardal gyhoeddus agored, ar ymyl y briffordd, mewn parc cyhoeddus ac ati, yna cysylltwch os gwelwch yn dda ag Uned Tirwedd y Cyngor trwy brif switsfwrdd y Cyngor ar 01633 644644 neu ebost: GroundsandCleansing@monmouthshire.gov.uk
Cyfrifoldeb y Prif Athro a Llywodraethwyr y sefydliad hwnnw yw coed sydd o fewn tir ysgol ac os oes gennych broblem â choeden neu wrych yna dylech gysylltu â’r ysgol yn gyntaf.

Gorchmynion Gwarchod Coed (GGC).

Gorchymyn yw hwn a wnaed gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Mae’n drosedd i dorri coeden sydd o dan GGC i lawr, ei thocio, ei dadwreiddio, ei niweidio’n fwriadol neu ei dinistrio’n fwriadol heb ganiatâd ysgrifenedig o’r Cyngor. Mae hyn yn berthnasol i wreiddiau yn ogystal â darnau’r goeden sydd uwchben y ddaear. Gall GGC ddiogelu unrhyw rywogaeth o goeden ond nid yw’n berthnasol i lwyni.

Sut ydw i’n cael gwybod a yw coeden yn cael ei diogelu?

Gall Swyddog Coed y Cyngor roi cyngor i chi ynglŷn â pha goed sydd wedi’u diogelu. I gyd sydd rhaid gwneud yw ffonio 01633 644962/01633 neu ebostio planning@monmouthshire.gov.uk

Sut i ymgeisio am GGC

Y prif feini prawf am osod GGC ar goeden yw ei gwerth yn y dirwedd ac os yw gwerth y dirwedd honno’n lleihau os yw’r goeden yn cael ei chymryd i ffwrdd. Fel arfer mae’n rhaid i’r goeden fod yn iach ac yn weladwy i’r cyhoedd cyffredinol. Gall unrhyw un ymgeisio am GGC, pwy bynnag sy’n berchen y tir lle’r mae’r goeden wedi ei lleoli.

Gwneud gorchymyn gwarchod coed 

Gwneir gorchymyn gwarchod coed newydd ar sail dros dro am gyfnod o chwe mis yn unig. Cyn i’r cyfnod chwe mis dod i ben (yn ystod y cyfnod caiff y goeden ei gwarchod yn llawn) mae’n rhaid i ni benderfynu un ai cadarnhau’r gorchymyn h.y. i’w wneud yn barhaol; cadarnhau’r gorchymyn gydag addasiadau e.e. cael gwared â choed penodol neu beidio â chadarnhau’r gorchymyn.

Pwy sy’n cael gwybod pan wneir gorchymyn?

Byddwn naill ai’n ysgrifennu at y tirfeddiannwr trwy bost cofrestredig gan amgáu copi o’r gorchymyn neu ei gyflwyno â llaw. Y bobl eraill y mae gennym ni ddyletswydd gyfreithiol i gyflwyno’r gorchymyn i yw’r rheini sydd â’r eiddo hynny sy’n ffinio’r tir sy’n ymwneud â’r gorchymyn. 

Sut y gallaf wrthwynebu neu gefnogi gorchymyn? 

Rhaid gwneud unrhyw sylwadau yn ysgrifenedig i’r Awdurdod Cynllunio Lleol naill ai drwy ebost neu lythyr o fewn 28 diwrnod i ddyddiad cyhoeddi’r gorchymyn. Byddwn yn ystyried pob sylwad wrth benderfynu a ddylid cadarnhau’r gorchymyn. Hysbysir pawb sydd â diddordeb.

Cynnal gwaith ar goed sydd wedi’u diogelu

Rhaid gwneud cais ffurfiol i’r awdurdod cynllunio lleol cyn tocio neu dorri coeden i lawr. O bryd i’w gilydd efallai bydd angen cynnal a chadw coed.  Mae ffurflen gais ar gael ar gais neu gallwch ei lawrlwytho yma. Mae nodyn cyfarwyddyd ar gael yma.

Er mwyn cefnogi’ch cais, rydym yn argymell eich bod yn cael cyngor proffesiynol. Mae yna restr o Gontractwyr Gwaith Coed ar gael yma.

A allaf wneud y gwaith fy hunan?

Gallwch, serch hynny mae’r Cyngor yn gosod amod wrth roi caniatâd bod rhaid gweithredu pob gwaith coed yn unol ag arferion gorau’r diwydiant. Mewn achos gwaith coed golygir hyn bod rhaid gwneud gwaith tocio coed yn unol â Safon Brydeinig 3998 (2010) Gwaith Coed – Argymhellion.

A yw’r Cyngor yn ymgynghori â’r cyhoedd pan wneir cais?

Nac ydyn. Nid oes gofyniad cyfreithiol i ni ei wneud. Serch hynny rydym yn rhoi gwybod i’ch cyngor trefol neu gymunedol a’ch aelod lleol pan dderbynnir ceisiadau.
Mae ceisiadau cynllunio i gyd ar agor i’w harchwilio yn y gofrestr gynllunio.

Beth os wyf yn tocio fy nghoeden heb gael caniatâd yn gyntaf? Rhan 2 – a allwn roi dolen i’r ddeddfwriaeth yn lle?

Gallech gael dirwy o hyd at £20,000 mewn Llys Ynadon os ydych yn torri i lawr, yn dadwreiddio, yn dinistrio coeden yn fwriadol neu’n niweidio neu docio coeden yn fwriadol mewn modd sy’n debygol o’i dinistrio. Gall dirwyon fod yn sylweddol uwch os ydych yn cael eich erlyn yn Llys y Goron. 

Bydd y llys yn ystyried unrhyw fudd ariannol gwirioneddol neu debygol sy’n deillio o’r drosedd e.e. os ydych yn ystyried y gall y goeden neu goed fod yn niweidiol i gais arfaethedig am ganiatâd cynllunio a’u tynnu i ffwrdd cyn i’r Cyngor allu ystyried y mater yn briodol.

Gallech dderbyn dirwy o hyd at £2,500 am droseddau eraill nad ydynt yn arwain at ddinistrio coeden e.e. tynnu cangen i ffwrdd. Bydd yn rhaid i chi ailblannu unrhyw goeden sydd wedi’i dinistrio.

Coed mewn Ardaloedd Cadwraeth

Mae coed nad ydynt wedi’u cwmpasu gan GGC ond sydd wedi’u lleoli yn un o nifer o ardaloedd cadwraeth Sir Fynwy hefyd yn cael eu diogelu. Mae’r drosedd o gynnal gwaith coed heb awdurdod mewn ardal cadwraeth yn cario’r un cosbau ag sydd o dan GGC.  Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chynnal gwaith mewn ardal cadwraeth, cysylltwch â planning@monmouthshire.gov.uk neu 01633 644880, os gwelwch yn dda. Mae yna ffurflen ar gael sy’n rhoi gwybod am waith gyda nodiadau cyfarwyddyd.

Gwrychoedd 

Mae gwrychoedd amaethyddol yn nodwedd annatod o Dirwedd Sir Fynwy o ran eu hapêl weledol, gwerth hanesyddol neu ddiwylliannol a’u pwysigrwydd o ran bioamrywiaeth. 

Mae mwyafrif o wrychoedd tir fferm Sir Fynwy wedi’u gwarchod dan Reoliadau Gwrychoedd 1997. Mae’r Rheoliadau’n cynnwys cyfres o feini prawf ar gyfer penderfynu a yw gwrych yn Bwysig. Am fwy o fanylion, cysylltwch â’r Swyddog Coed, os gwelwch yn dda

Beth os wyf yn dymuno tynnu i ffwrdd rhan o wrych neu wrych cyfan? 

Mae angen cais cynllunio ffurfiol er mwyn tynnu gwrych i ffwrdd. Mae ffurflen ar gael gyda nodiadau cyfarwyddyd.

Beth os wyf yn tynnu gwrych i ffwrdd heb geisio am ganiatâd cynllunio? 

Mae’r Rheoliadau’n datgan, os ydych yn tynnu gwrych i ffwrdd heb roi cais i mewn i’w wneud yn gyntaf, yna caiff y gwrych ei ystyried fel Pwysig yn awtomatig, os oedd ai peidio. Gallech dderbyn dirwy drom mewn llys ynadon, derbyn Hysbysiad Ailosod gwrych sy’n ei wneud yn orfodol bod y gwrych yn cael ei ailblannu, neu’r ddau. 

Gwrychoedd uchel

Mae’r ddeddfwriaeth sy’n cyfeirio at wrychoedd uchel wedi’i lleoli yn Rhan 8 o’r Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003. Gellir darganfod mwy o wybodaeth yn y pamffled Gwrychoedd Uchel: Cwyno i’r Cyngor. Mae yna ddolen i’r daflen yma

Nid rôl yr awdurdod lleol yw cyfryngu neu negodi rhwng yr achwynydd a pherchennog y gwrych ond i ddyfarnu – yng ngeiriau’r Ddeddf – os yw’r gwrych yn effeithio’n andwyol ar fwynhad rhesymol yr achwynydd o’i eiddo. Wrth wneud hynny, rhaid i’r awdurdod ystyried pob ffactor perthnasol a rhaid iddynt sicrhau cydbwysedd rhwng diddordebau’r ddwy ochr sy’n cystadlu yn ogystal â diddordebau’r gymuned fwy eang. Os ydym yn ystyried bod yr amgylchiadau’n ei gyfiawnhau, byddwn yn cyflwyno rhybudd ffurfiol i berchennog y gwrych a fydd yn nodi’r hyn sydd angen iddynt ei wneud i’r gwrych er mwyn unioni’r broblem, ac erbyn pryd. Mae’n drosedd i fethu â gwneud y gwaith sydd angen gan yr awdurdod gall, ar erlyn, arwain at ddirwy o hyd at £1,000.

Nodwch os gwelwch yn dda bod y gwasanaeth hwn yn ddewisol, felly dylech drin dod at y Cyngor i ddatrys eich problem gwrych fel y cam olaf. Rhaid i chi allu dangos i ni eich bod wedi ceisio ac wedi methu pob dull arall i ddatrys eich anghydfod sy’n ymwneud â’r gwrych. Os byddwch yn methu â dangos hyn mae gennym ni’n hawl i beidio â derbyn eich cais. Mae peth gwybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â sut i fynd at eich cymydog i drafod eich pryderon i’w gweld yn y pamffled cynghorol Over the Garden Hedge y gallwch lawrlwytho yma 

Os byddwn yn derbyn eich cais bydd angen i chi dalu ffi na ellir ei ddychwelyd o £320 am y gwasanaeth hwn.

Sut allaf gwyno? 

Os ydych chi wedi ceisio pob dull arall ac mae dal gennych chi broblem â gwrych uchel cymydog, yna cysylltwch â’r Swyddog Coed neu cwblhewch y ffurflen gais.