Skip to Main Content

Gallwch, gallwch wneud diwygiadau i gais a gymeradwywyd yn flaenorol.

Mae dau fath o ddiwygiad, ansylweddol a sylweddol. Diwygiadau ansylweddol yw’r math lleiaf o newid y gellir ei wneud ac ni ddylent gael unrhyw effaith sylweddol ar y caniatâd cynllunio. Ar y llaw arall, bydd diwygiadau sylweddol yn cael effaith sylweddol ar y caniatâd cynllunio.

Darllenwch y canllawiau ar gyfer Cymeradwyo Diwygiadau Ansylweddol i Ganiatâd Cynllunio Presennol. (https://gov.wales/planning-permission-small-amendments-existing-permission)

Os ystyrir fod y diwygiadau y dymunwch eu gwneud yn sylweddol, yna gallwch wneud cais i amrywio amodau’r cynllun ar ganiatâd (https://gov.wales/apply-planning-permission)

Os ystyrir fod y diwygiad y dymunwch ei wneud yn Ansylweddol yna gallwch wneud cais i wneud mân ddiwygiad Ansylweddol ar y caniatâd presennol. (https://gov.wales/apply-planning-permission)

Pe byddai’r diwygiad arfaethedig yn sylweddol wahanol i’r cais gwreiddiol, byddai angen cais cynllunio newydd.. (https://gov.wales/apply-planning-permission)