Skip to Main Content

Mae’r cynllun sgorio hylendid bwyd wedi cael ei gyflwyno gan dros 200 o awdurdodau ar draws Prydain i alluogi pob leol i wneud dewis doeth o ran y mannau y maent yn dewis bwyta allan a phrynu bwyd ynddynt, ac i annog busnesau lleol i wella safonau hylendid.

Cafodd y cynllun cenedlaethol ei lansio yn Sir Fynwy ar 1 Hydref 2010 gyda chefnogaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

O dan y cynllun hwn, caiff allfeydd bwyd fel caffis a siopau sgôr hylendid sy’n seiliedig ar ganfyddiadau arolygiadau rheolaidd a gynhaliwyd gan swyddogion yr awdurdod lleol. Gall y busnesau arddangos y sgoriau hyn lle mae cwsmeriaid yn gallu eu gweld. Gellir hefyd gweld sgoriau ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Gallwch chwilio am fusnesau bwyd a leolir yn Sir Fynwy sydd wedi eu graddio hyd yn hyn. Cofiwch na fydd pob busnes bwyd wedi cael sgôr eto, ond bydd y niferoedd hyn yn cynyddu yn ystod y misoedd i ddod.

Beth yw ystyr hyn i ddefnyddwyr?

Nod y cynllun hwn yw diogelu defnyddwyr, trwy ddangos iddynt safonau hylendid y siopau, caffis a thafarndai lle maent yn prynu neu fwyta bwyd.

Bydd safleoedd bwyd da yn falch i arddangos eu sgôr ar y drws, tra na fydd yn bosibl i safleoedd gwael guddio gan y bydd eu manylion ar gael ar y gwefannau lleol a chenedlaethol.

Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun ar gael ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn www.food.gov.uk neu drwy gysylltu ag Adran Iechyd yr Amgylchedd.